Uned 1: Hanes Cymru
Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth tua 1132 – tua 1197
Roedd Rhys ap Gruffudd, yr ‘Arglwydd Rhys’, yn dod o deulu brenhinol a oedd yn rheoli Deheubarth, sy’n cael ei weld fel arweinydd a wnaeth adfer pŵer a chryfhau diwylliant Cymru.

Owain Glyndŵr tua 1354 – tua 1416
Arweiniodd Owain Glyndŵr y gwrthryfel mawr olaf yng Nghymru yn erbyn teyrnasiad Lloegr, rhwng 1400 a 1415 ac roedd ei ddilynwyr yn ei alw’n ‘Dywysog Cymru’.

Cymru a'r Tuduriaid cynnar tua 1485 – tua 1547
Dechreuodd llinach y Tuduriaid pan ddaeth Harri VII yn frenin yn 1485. Gwnaethant drawsnewid Cymru drwy newid ei llywodraeth, ei chrefydd a’i chyfreithiau.

Cymru yng nghyfnod y Rhyfel Cartref 1603 - 1660
Iago I hyd at yr Adferiad: digwyddiadau pwysig ym Mhrydain a Chymru yn ymwneud â chrefydd, Senedd, y Rhyfel Cartref, rôl Cymru, a dychweliad Siarl II.

Uned 2: Hanes Ewrop a/neu'r byd
Genghis Khan tua 1162 – tua 1227
Genghis Khan oedd arweinydd cyntaf yr Ymerodraeth Fongolaidd. Unodd y llwythau Mongolaidd ac arweiniodd ymgyrchoedd milwrol i ddod ag ardaloedd mawr o Asia dan reolaeth Fongolaidd.
