Arwerthwyr gorau Prydain
Terwyn Davies sy'n cwrdd â Llŷr Jones a Dafydd Waters o fart Caerfyrddin ar ôl eu llwyddiant diweddar. Terwyn Davies meets Llŷr Jones and Dafydd Waters after their recent success.
Terwyn Davies sy'n cwrdd â'r arwerthwyr Llŷr Jones a Dafydd Waters o farchnad anifeiliaid Caerfyrddin ar ôl iddyn nhw ennill gwobrau nodedig yn ddiweddar yng ngwobrau Mart's the Heart cylchgrawn y Farmers Guardian eleni.
Hefyd, gyda noson Calan Gaeaf ar y gorwel, Lois Cernyw sy'n cyfarfod â Barbara Hughes o Malpas ger Wrecsam - ffermwraig sydd wedi bod yn tyfu pwmpenni i'r cyhoedd ers 17 o flynyddoedd.
Megan Williams sydd â'r rhagolygon tywydd am y mis i ddod, a'r Athro Prysor Williams, Athro mewn Amaeth ac Amgylchedd yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Cymru Bangor sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.
Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediadau
- Ddoe 07:00BBC Radio Cymru
- Ddoe 15:30BBC Radio Cymru