Main content

Tua'r Gorwel

Portread ffraeth am obsesiwn casglwr celf sy'n gofyn y cwestiwn, beth yw ystyr perchnogaeth? A witty and honest portrayal of obsession - what does it mean to own anything?

Beth amser wedi i gasglwr celf fenthyg llun o'i gasgliad i amgueddfa, a heb yn wybod iddo, fe ailfeddianwyd y llun hwnnw gan yr artist ei hun. Cymerodd y llun er mwyn byw blwyddyn olaf ei bywyd yn ei gwmni 'nôl yn ei stiwdio. 

Wedi marwolaeth yr artist o ganser, ac ar ôl iddo ddarganfod y gwirionedd am leoliad y llun, wynebodd y casglwr broblem. A fyddai modd iddo ailfeddiannu'r llun a pha mor bell fyddai'n fodlon mynd i sicrhau perchnogaeth ohono?

Mae Tua'r Gorwel yn bortread ffraeth a gonest am obsesiwn casglwr celf sy'n gofyn y cwestiwn, beth yw ystyr perchnogaeth?

Cast

William Thomas
Eadyth Crawford
Samuel Morgan Davies

Ar gael nawr

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul 16:00

Darllediad

  • Dydd Sul 16:00