Episode details

Radio Cymru,1 min
Oes digon o ddadl gyhoeddus wedi bod ar ddiwygio y dreth cyngor yng Nghymru?
GwleidyddaAvailable for over a year
Yr Arglwydd Dafydd Wigley oedd gwestai arbennig Gwleidydda yr wythnos hon. Mae'n cael ei holi gan Vaughan, Bethan a Richard am ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd, a hynny yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio'r cynlluniau i ddiwygio treth y cyngor. Roedd disgwyl i eiddo gael eu hailbrisio yn 2028 er mwyn gwneud y system dreth gyngor bresennol yn decach, ond bellach mae'r cynlluniau wedi'u gohirio tan 2032. Fe ofynnodd Vaughan Roderick i'r Arglwydd Wigley beth oedd rhai o'r ystyriaethau gwleidyddol y tu ôl i'r penderfyniad i ohirio'r diwygiadau.
Programme Website