Crynodeb

  1. Lo-fi Jones yn perfformio ym Maes Dwedi ei gyhoeddi 14:47 GMT+1 4 Awst

    lo-fi jones

    Lo-fi Jones yn perfformio ym Maes D - ac un aelod wedi cael ffordd 'lo-tech' i arbed ei esgidiau rhag maeddu ar ei ffordd i'r babell.

    lo-fi jones
  2. Ydy pris tocyn i'r Maes yn "fargen"?wedi ei gyhoeddi 14:37 GMT+1 4 Awst

    Mae pris tocyn i'r Maes yn gallu bod yn bwnc dadleuol.

    Eleni £25 yw tocyn oedolyn i'r maes, gyda phrisiau gostyngedig i bensiynwyr, pobl ifanc a phlant. Gall teulu o bedwar brynu tocyn teulu am £60.

    Yn ôl yr adolygydd llyfrau a'r golygydd, Bethan Mair, mae tocyn i'r maes "yn uffach o fargen, os y'ch chi'n cynllunio o flaen llaw."

    Bethan fu'n pwyso a mesur cost tocyn i'r maes ar Radio Cymru.

  3. Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyrraedd y Maes yn Llantwdwedi ei gyhoeddi 14:31 GMT+1 4 Awst

    Rhun ap Iorwerth
  4. Dawnswyr Talog yn rhoi gwersi dawnsio yn y Tŷ Gwerinwedi ei gyhoeddi 14:18 GMT+1 4 Awst

    dawnsio
    dawnsio
  5. Wedi colli rhywbeth?wedi ei gyhoeddi 14:06 GMT+1 4 Awst

    Catherine ac Eifion

    Ydych chi wedi colli rhywbeth ar Y Maes? Ewch draw at geidwaid y pethau coll, Catherine ac Eifion, yng nghefn llwyfan Y Pafiliwn.

  6. Lluniau: Theatr Mwldan dros y degawdauwedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1 4 Awst

    Un sefydliad sydd wedi chwarae rhan bwysig iawn yng nghelfyddydau ardal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yw Theatr Mwldan.

    Fe'i sefydlwyd yn 1983 yn nhref Aberteifi pan ddechreuodd gwmni drama amatur brosiect i drawsnewid y theatr leol yn y dref.

    Ers hynny a dros y degawdau mae wedi datblygu i ddarparu perfformiadau theatrig, sinema a digwyddiadau yn yr ardal.

    Ewch draw i'r dudalen hon i weld sut mae Theatr Mwldan wedi trawsnewid o fod yn lladd-dy i fod yn theatr a chanolfan gelfyddydol enwog.

    Gruff RhysFfynhonnell y llun, Mwldan
  7. 'Mae Islwyn wedi rhoi gymaint o gyfleoedd i ni'wedi ei gyhoeddi 13:38 GMT+1 4 Awst

    Islwyn EvansFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Daeth 130 o gyn-ddisgyblion Islwyn Evans i'w weld yn cael ei anrhydeddu yn Y Pafiliwn brynhawn Mawrth.

    Mae Islwyn wedi arwain corau yng Nghymru ers dros 40 mlynedd, a fo sy'n derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams eleni.

    Gwrandewch ar Mari Grug yn sgwrsio gyda rhai o'i gyn-ddisgyblion sydd ar ben eu digon bod Islwyn yn derbyn cydnabyddiaeth am ei waith diflino fel arweinydd Ysgol Gerdd Ceredigion.

    Disgrifiad,

    Yr arweinydd poblogaidd derbyniodd y wobr eleni am flynyddoedd o waith yn y byd corawl

  8. Pedair yn paratoiwedi ei gyhoeddi 13:30 GMT+1 4 Awst

    Mae Pedair yn cynnal profion sain ar Lwyfan y Maes ar hyn o bryd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu perffomiad am 21:00 heno.

    pedair ar lwyfan y maes
  9. 'Ni sydd â'r dafodiaith ore yn Sir Benfro'wedi ei gyhoeddi 13:23 GMT+1 4 Awst

    Rhys Soarian

    Gofynnodd Cymru Fyw i Rhys Soarian o Dinas Cross beth yw ei hoff air sy'n rhan o dafodiaith unigryw bro Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las.

    "Dyle pawb sy'n ymweld â'r Eisteddfod wybod beth yw 'Pwlffagan'. Mae'n meddwl wilibowan neu oedi rhag gwneud rhywbeth," meddai.

    "Ni sydd â'r dafodiaith ore' yma yn Sir Benfro."

  10. 'Pan sefais i ar fy nhraed roedd 'na emosiynau cymysg o ofn a balchder'wedi ei gyhoeddi 13:15 GMT+1 4 Awst

    Neithiwr ar Radio Cymru fe gafodd bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las ei holi gan Iwan Griffiths.

    "Pan sefais i ar fy nhraed roedd 'na emosiynau cymysg o ofn a balchder, ond yn brofiad heb ei ail," meddai Martin Huws.

    "O'n i yn meddwl fod y feirniadaeth yn gynhwysfawr iawn ac mae'n galonogol iawn ennill mewn cystadleuaeth gref."

    Gwrandewch ar Tocyn Wythnos i glywed ei gyfweliad yn llawn.

  11. Ras i geisio dod o hyd i gysgod rhag y glaw yn y Pentref Bwydwedi ei gyhoeddi 13:08 GMT+1 4 Awst

    y pentref bwyd
  12. Awydd profi eich pwysau gwaed?wedi ei gyhoeddi 13:05 GMT+1 4 Awst

    Mae criw meddygol Prifysgol Caerdydd yn barod i fesur pwysau gwaed yn eu stondin ar y Maes

    Elen, Elen, Ffion ac Annie
    Disgrifiad o’r llun,

    Elen, Elen, Ffion ac Annie

  13. 'Mae'n freuddwyd gen i ddychwelyd i'r ardal'wedi ei gyhoeddi 12:52 GMT+1 4 Awst

    BBC Radio Cymru

    Mae Fflur James, 21, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi ei magu yn Llantwd. Mae hi'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y cyfryngau neu ym myd gwleidyddiaeth ac yn dweud nad oes cyfleoedd iddi ddychwelyd i'w milltir sgwâr.

    "Mae'r cyfleoedd yn brin iawn. Mae'n fy nhristau i," meddai.

    "Mae'n freuddwyd gen i ddychwelyd i'r ardal a phrynu tŷ ond breuddwyd yw nid realiti oherwydd mae'n amhosib, yn 21 oed, i ddechrau dychmygu darganfod tŷ yn ardal heb sôn am ffindio swydd sydd yn talu cyflog anrhydeddus i chi.

    "Os chi eisiau dychwelyd i'r gorllewin, mae rhaid i chi fod yn ymwybodol falle na gewch chi'r swydd chi'n haeddu ond chi'n cael y swydd honno os chi'n aros yng Nghaerdydd neu yn Llundain. Mae rhan fwyaf o fy ffrindiau wedi gadael yr ardal."

    Roedd Fflur yn ymateb i alwadau gan gynghorydd lleol i gynnwys bro'r Eisteddfod mewn unrhyw gynllun economaidd newydd ar gyfer y Gymru wledig fydd yn olynu Arfor.

    Mae modd gwrando ar y sgwrs yn llawn ar Dros Frecwast.

    Fflur James
  14. Cynulleidfa'r Pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo Islwyn Evanswedi ei gyhoeddi 12:40 GMT+1 4 Awst

    CYNULLEIDFA
  15. Islwyn Evans yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williamswedi ei gyhoeddi 12:36 GMT+1 4 Awst

    Islwyn Evans

    Ar lwyfan y Pafiliwn mae Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn cael ei chyflwyno i'r cyfarwyddwr corawl a'r athro llais Islwyn Evans.

    Yn enedigol o Henllan Amgoed ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, mae Islwyn Evans wedi arwain corau yng Nghymru ers dros 40 mlynedd.

    Dan ei arweiniad mae Ysgol Gerdd Ceredigion wedi ennill teitl Côr Cymru deirgwaith ac wedi dod i'r brig yng nghystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

    Hanner canrif ers cyflwyno'r fedal am y tro cyntaf, Menter Iaith Sir Benfro sy'n ei rhoi eleni i gydnabod gwaith arbennig gyda phobl ifanc.

    pafiliwn
  16. 'Storm Troopers' ar y Maes!wedi ei gyhoeddi 12:29 GMT+1 4 Awst

    cyhoeddiad s4c
    storm troopers
  17. Amser maith, maith yn ôl mewn galaeth bellennig...wedi ei gyhoeddi 12:25 GMT+1 4 Awst

    Heddiw ar faes yr Eisteddfod cyhoeddwyd bod y ffilm ffantasi eiconig o 1977 Star Wars: A New Hope yn mynd i gael ei dybio’n Gymraeg.

    Bydd y ffilm, Star Wars: Gobaith Newydd, yn cael ei darlledu ar S4C ac ar draws ei llwyfannau digidol o ddydd Nadolig ymlaen.

    Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn arwain y cast, gan gynnwys Matthew Rhys fel Han Solo, Rhys Ifans fel Obi-Wan Kenobi, ac Aimee-Ffion Edwards fel y Dywysoges Leia

    Daw'r newyddion cyn pen-blwydd y ffilm yn 50 oed yn 2027.

    poster star warsFfynhonnell y llun, S4C; Cymru Greadigol; Lucasfilm
  18. 'Ci y cymdeithasau'wedi ei gyhoeddi 12:14 GMT+1 4 Awst

    twm y ci

    Mae Twm y ci'n cael wythnos ddiwylliedig ac addysgiadol dros ben yn nwy babell Y Cymdeithasau.

    Yn ôl ei berchennog "mae o’n ffeindio rhai darlithoedd yn ddiddorol iawn ac mae’n hoffi mynd mewn i wrando".

    "Ddydd Sul, roedd o wedi rili joio’r ddarlith am Ann Griffiths ac yn bresennol am yr awr!

    "Ond yn amlwg tydi darlith am genhadaeth D.J. Williams ddim wir at ei ddant."

    Ychwanegodd perchennog Twm: "Dwi’n meddwl taw emynwr ydi o wrth reddf."

  19. Gofod newydd i Mas ar y Maeswedi ei gyhoeddi 12:03 GMT+1 4 Awst

    jona

    Mae pobl o bob oed ac o bob cefndir yn dod i fwynhau gofod newydd Mas ar y Maes, meddai Jona Milone.

    Ar ôl pum mlynedd o Panad o Gê, mae’r stondin i’r gymuned LHDTC+ yn gallu cynnig llawer mwy yn eu gofod newydd.

    “Mae standyp, perfformiadau, sgyrsiau, celf a chrefft, digwyddiadau efo dramodwyr - mae Daf James yma dydd Gwener - bob math o stwff,” meddai Jona.

    “Ni mor bles gyda’r ffordd mae wedi datblygu.

    “Mae’n lle i bobl o bob cefndir a bob oed, nid yn unig i’r gymuned LHDTC+. Mae nifer o ddysgwyr yn dod yma yn teimlo ei fod yn ofod diogel i siarad Cymraeg.”