Byrllysg seremonïol y Seneddwedi ei gyhoeddi 12:18 GMT+1 15 Hydref
Delyth Lewis, aelod o staff Comisiwn y Senedd ers 2002, sy'n cario byrllysg seremonïol y Senedd, sef rhodd gan Senedd De Cymru Newydd, i'r Siambr.
Roedd Delyth yn allweddol yn y gwaith o sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Hi fydd y fenyw gyntaf i gario'r byrllysg a bydd yn cael ei hebrwng gan Lukas Santos Evans, dirprwy gludydd y byrllysg a dau aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, sef Ffiôn-Hâf Scott ac Aryan Gupta.














