Llond trol o hwylwedi ei gyhoeddi 11:01 GMT+1 1 Awst
Mae Loti a Mili yn crwydro'r maes mewn steil bore 'ma.

Mae Heledd a'i meibion, Myfyr a Cynan hefyd yn barod i fwynhau'r arlwy.

Croeso i ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las - y torfeydd yn llifo, medd y Prif Weithredwr Betsan Moses
Angen gwneud 'penderfyniadau amhoblogaidd' oherwydd costau cynyddol, medd Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod
Artist o Dyddewi yn ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
Mae'r Eisteddfod eleni yn dathlu Yr Arglwydd Rhys ac Eisteddfod gyntaf 1176 ac fe ddaeth e i'r Maes
Llywydd yr Ŵyl yw Mari Grug a bydd yn annerch y gynulleidfa yn y seremoni agoriadol
Perfformiad cyntaf sioe gerdd newydd sbon 'Sefyll ar y Sgwâr' - sioe sy'n dathlu gwaddol Ail Symudiad
Gwyliwch gystadlaethau y Pafiliwn ar iPlayer
Heno Super Furry Animals yn perfformio ar y Maes
Mae Loti a Mili yn crwydro'r maes mewn steil bore 'ma.

Mae Heledd a'i meibion, Myfyr a Cynan hefyd yn barod i fwynhau'r arlwy.

BBC Cymru Fyw
Annell Dyfri yw un o ohebwyr Cymru Fyw ar y Maes
Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg dywedodd Mari Grug ei bod yn "falch eithriadol" i fod yn llywydd y brifwyl.
"Mae'r Eisteddfod yn y gwaed, fi'n rhoces o Fynachlog ddu a dwi'n falch iawn bod yr Eisteddfod yma.
"Ni 'ma fel teulu i fwynhau, a dwi mor falch bod y genhedlaeth nesaf yn mwynhau yr un pethau â fi."
Soniodd bod gweld "brwdfrydedd" eu plant yn yr Eisteddfod yn creu "balchder" iddi.
Dywedodd hefyd ei bod yn ymwybodol bod lot or ardal yn dod yma am y tro cyntaf "ac mae hynny'n gwneud fi'n hapus iawn".

Mari Grug yw Llywydd y Brifwyl
Yn y gynhadledd i'r wasg dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, bod hi'n argoeli i fod yn ddiwrnod llwyddiannus.
"Mae'r torfeydd yn llifo, am 06:50 roedd na deulu yn y ganolfan groeso!"
Gyda Sioe Aberteifi yn digwydd yn yr ardal hefyd dywedodd "ni wedi cydweithio i gadw'r ffyrdd i fynd, maen nhw'n dod yn hwylus!
"Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod a hanner!"

Mae cystadleuaeth Bandiau pres dosbarth 2/3 yn para tan oddeutu 11:45 ar lwyfan y pafiliwn.
Mae chwech o fandiau yn cystadlu sef Band Arian Crosskeys, Ammanford Town Silver Band, Band Pres Llansawel, Seindorf Arian Crwbin, Newport Borough Brass Band a Markham and District Band.
Y beirniad yw Gareth Robinson.

Y band o Gasnewydd yn ymarfer cyn mynd ar y llwyfan
Mae'r Eisteddfod yn pwysleisio bod yna bob ymdrech i sicrhau prifwyl sy'n amgylcheddol gyfeillgar ac felly mae anogaeth i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dod ar drên?
Mae Trafnidiaeth Cymru'n rhedeg bysiau gwennol rheolaidd i'r Maes o orsaf Caerfyrddin, gyda'r bws olaf yn gadael y Maes i ddychwelyd i orsaf Caerfyrddin ar gyfer trên:
Mae'r gwasanaeth bws gwennol am ddim ac mae modd darllen yr amserlen yma, dolen allanol.
Mae nifer o orsafoedd trên eraill sy'n cysylltu â bysiau, ac mae modd dal trên i orsaf Abergwaun er mwyn cerdded i'r orsaf fysiau yn y dref a dal bws T5 sy'n mynd heibio'r Maes.

Dod ar fws?
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth bws TrawsCymru T5 i fynd yn uniongyrchol i'r Eisteddfod yn Llantwd.
Mae TrawsCymru wedi cynyddu pa mor aml mae'r gwasanaeth T5 yn gweithredu rhwng Aberteifi ac Abergwaun rhwng 1 ac 8 Awst.
Mae gwasanaeth bws 430 yn darparu cysylltiad rhwng Arberth ac Aberteifi drwy Grymych.
Bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn ddyddiol yn ystod yr Eisteddfod, gyda phob gwasanaeth yn teithio'r holl ffordd i ac o Arberth.
Bydd bws ychwanegol hwyr gyda'r nos hefyd yn gadael yn uniongyrchol o'r Maes am 23:15.
Mae gwasanaeth bws 460 yn darparu cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi drwy Gastellnewydd Emlyn - o ddydd Llun i Sadwrn yn unig.
Newidiwch yn Aberteifi ar gyfer cysylltiad ymlaen i'r Maes ar wasanaeth T5 neu'r bws gwennol.
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth bws fflecsi i deithio o amgylch yr ardal tra byddwch yno.
Bydd gwasanaeth bws gwennol (Bws yr Arglwydd Rhys) yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Sgwâr Finch a'r Maes o 07:00 tan 00:00.
Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gadael y sgwâr ar yr awr i deithio i'r Maes ac yn gadael y Maes i ddychwelyd i Aberteifi bob hanner awr wedi.
Bydd disgyblion Ysgol Glannau Gwaun o Abergwaun yn chwarae offerynnau drwy'r dydd ym Mhentre Y Garreg Las, ar Lwyfan y Maes ac ym mhabell Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir Benfro.
Dywedodd y pennaeth Mari Jones: "Mae dod i'r Eisteddfod yn brofiad bendigedig i'r plant ac maen nhw mor gyffrous. Mae'r ysgol yn ysgol ddwy ffrwd - Cymraeg a Saesneg a dyw llawer erioed wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol o'r blaen.
"Mae mor gyfleus a gwych i gael y brifwyl yng nghanol y tair sir ac mae'r bore cyntaf yn llawer prysurach nac o'n i yn feddwl."

"Dwi'n cofio mynd i faes Eisteddfod Abergwaun 1986 pan o'n i yn fach ac fe wnaeth hi fwrw drwy'r wythnos - felly mae'n wych cael diwrnod braf heddiw.
"Rydyn ni yn ddiolchgar iawn i Wasanaeth Cerddoriaeth Sir Benfro sy'n rhoi cyfle i bob disgybl ym mlwyddyn 4 i chwarae offeryn a rydyn ni ar y maes heddiw i ddathlu hynny," ychwanegodd.
Wrth agor y gynhadledd i'r wasg fore Sadwrn, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Cwmbetws: "Mae 'di bod yn bleser rhyfeddol.
"Mae'r fraint yn fwy fyth i fod wedi arwain tim diwyd - pobl sydd wedi rhoi ac ymroddi yn llwyr i'r wyth diwrnod hyn.
"Ry'n ni wedi cael hwyl anghyffredin wrth godi arian.
"O ffenest y gegin adref dwi'n medru gweld y deml eisteddfodol, dwi wedi gweld hi'n dod o'r ddaear fel Phoenix.
"Gobeithio y daw'r genedl yma yn ei miloedd."

Tywydd
Mae ’na ychydig o newid ar droed o ran y tywydd, felly dyma’r rhagolygon ar gyfer ardal yr Eisteddfod, fel maen nhw ar hyn o bryd, medd Llyr Griffiths-Davies, cyflwynydd tywydd Radio Cymru.
Dydd Sadwrn
Diwrnod sych a heulog, gydag awel ysgafn. Y tymheredd tua 18 i 20 gradd selsiws.
Dydd Sul
Bore heulog, ond yn cymylu yn ystod y prynhawn gydag ychydig o law ysbeidiol erbyn nos Sul. Y tymheredd tua 20-22 gradd selsiws.
Dydd Llun
Cyfnodau heulog, gyda chawodydd, all fod yn drwm ar brydiau, gyda mellt a tharanau’n bosib. Y tymheredd yn debygol o gyrraedd 23 gradd selsiws.
“Mae'n lyfli bod hon yn Steddfod leol i ni a ni mor falch bod Cymru yn cael ymweld â chornel y Wes Wes,” medd Begw a Steffan o Efailwen.

Dros Frecwast
BBC Radio Cymru
Wrth siarad ar Dros Frecwast bore 'ma dywedodd Elen Elis, Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod: "Mae yna arlwy eang iawn. Dwi yn ddiolchgar hefyd i bobl leol oherwydd ni wedi bod yn trefnu yr holl arlwy artistig gyda'r bobl leol a gyda phartneriaid wrth gwrs hefyd - ac mae artistiaid da yn gweithio efo ni o flwyddyn i flwyddyn.
"Da ni wedi eistedd rownd byrddau - mae pobl o gelfyddydau gwahanol wedi bod yn trafod themâu gan gynnwys enwogion, hanes a thirwedd a chynnyrch lleol,
"Mae 'na lwyth o arlwy i bawb. Ni wedi siapio amserlen ar y cyd - ac mae yna linyn cyswllt ar draws ein llwyfannau ni."

Elen Elis yw Cyfarwyddwr Artistig y Brifwyl

Mae ambell le ar y maes i brynu hufen iâ arbennig.
Bonnie o Abertawe yw’r cwsmer cynta'!

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol CymruRoedd Jem Tynrhos a Jane Blank o Lanrhystud yn astudio'r map yn y brif fynedfa cyn mentro ar y maes. Bydd Jem ar stondin Clera ger y Tŷ Gwerin drwy'r wythnos yn cynnal sesiynau twmpath.
Mae Jane, sy'n awdures llyfrau hanesyddol, yn "edrych mlaen i grwydro'r maes, mwynhau'r awyrgylch a mynd i'r Lle Celf ynghyd â mynychu llu o ddigwyddiadau llenyddol".

“Co ni off! Mae'r Steddfod wedi dechre a fi mor falch o bawb sy' wedi bod yn rhan o’r paratoi.
"Braint yw cael bod yn llywydd a fi methu aros!” medd Mari Grug wrth gyrraedd y Maes.
Bydd Mari yn siarad yn y seremoni agoriadol am 13:45

Mae Gruffydd Rees ac Ifan, Llew a Fflur o Dryslwyn ger Llandeilo yn brysur yn y babell wyddoniaeth gydol y dydd.
Mae good vibe 'ma, medd Gruffydd wrth i'r haul dywynnu.

Mae Llantwd yng ngogledd Penfro a rhyw dair milltir o Aberteifi.
Os ydych yn gorfod teithio mewn car i'r Eisteddfod, y cyngor yw dilyn yr arwyddion 'Eisteddfod' melyn i gyrraedd y Maes. Y y cod post yw SA43 3NU.
Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â'r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod.
O'r gogledd a'r canolbarth:
Bydd traffig yn teithio i'r Maes ar yr A487, gan deithio i'r de o Aberystwyth, ymlaen i Synod Inn, heibio Aberteifi, cyn cyrraedd y safle, i'r gogledd o Lantwd ar yr A487.
O dde Cymru:
Bydd arwyddion clir yn cael eu gosod o gyffiniau Caerfyrddin ymlaen.
O'r ardal hon, dilynwch yr A40 i gyfeiriad cylchfan Penblewyn. Yno, cewch eich cyfeirio i gymryd yr A478 tua'r gogledd.
Parhewch hyd at y groesffordd gyda'r B4332, trowch i'r chwith a theithio tua'r gorllewin.
Dilynwch yr B4332 am tua dwy filltir, trowch i'r dde a dilyn y ffordd tuag at yr A487, nes cyrraedd y gyffordd gyda'r A487.
Ar ôl cyrraedd yr A487, ewch tua'r gogledd i gyfeiriad Aberteifi.
Parhewch am filltir nes cyrraedd y lleoliad, yn Llantwd.

Dod ar feic?
Mae hyd at 400 safle beic cloadwy wedi'u lleoli wrth ymyl y Ganolfan Groeso.
Y cyngor yw i chi gymryd gofal wrth feicio i'r Maes gan fod yr A487 yn gallu bod yn brysur.
Ffynhonnell y llun, Digwyddiadau Eisteddfod y Garreg LasMae yna groeso twymgalon iawn yn Llantwd
Ffynhonnell y llun, Digwyddiadau Eisteddfod y Garreg LasAm 13:10 cystadleuaeth yr Unawd o dan 12 oed fydd ar lwyfan y Pafiliwn.
Y dasg eleni yw canu 'Fy ngardd fach i' gan J Eirian Jones.
Dyma'r olygfa o'r rhagbrawf ben bore.
Mae tair gwobr - £60, £40 a £20 - oll wedi cael eu rhoi gan Gwynfor, Sian a Rhiannon, er cof am Dad a theulu Pennar, Llandudoch.
Y beirniaid yw Catrin Aur a Jessica Robinson.

Mae'r criw yma o Grwbin newydd gyrraedd y Maes.
Mae Efan, Steffan a Dewi (y plant) wedi dod i gefnogi Cath a Buddug sy'n cystadlu heddiw gyda seindorf arian Crwbin.
Yn ôl Buddug "joio a ffindo Cyw yw plan y plant ar ôl i ni gystadlu".
