Cyhoeddi enillydd Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnolegwedi ei gyhoeddi 12:31 GMT+1 6 Awst
Yr Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Yn wreiddiol o Drefdraeth yn ardal Eisteddfod y Garreg Las, mae Siwan Davies yn ysgolhaig sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym maes daearyddiaeth ffisegol a newid hinsawdd.
Mae hi hefyd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu addysg a gwaith ymchwil cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.






















