Spotify'n uwchlwytho geiriau Gwyddeleg i fersiwn Cymraeg o gân Dolly Parton

Dolly Parton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y fersiwn newydd o'r gân Jolene, gyda rhannau yn Gymraeg, ei recordio cyn marwolaeth Dolly Parton ym mis Awst

GanLeigh Boobyer a Harri EvansBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r geiriau i fersiwn Cymraeg o gân adnabyddus Dolly Parton, 'Jolene' wedi cael eu huwchlwytho i Spotify yn Wyddeleg ar gam.

Cafodd y gân ei recordio cyn marwolaeth Dolly Parton yn 80 oed ym mis Awst, ac mae'n cynnwys y gantores Gymreig Bronwen Lewis, a Jada Star, sy'n nith i Dolly.

Yn y fersiwn hon, mae rhannau o'r gân yn cael eu canu yn Saesneg ac yn Gymraeg – ond roedd y geiriau a ddangoswyd ar y gwasanaeth ffrydio Spotify yn nodi mai Gwyddeleg oedd yr iaith.

Tynnodd Spotify y geiriau Gwyddeleg oddi yno ar ôl i'r BBC wneud cais am sylw.

Gofynnodd y BBC i Spotify pryd y cafodd y sengl a'r geiriau eu huwchlwytho, pryd y sylweddolon nhw ar y gwall, a phryd y byddai'n cael ei newid, ond ni ddaeth ymateb.

Spotify
Disgrifiad o’r llun,

Tynnodd Spotify y geiriau Gwyddeleg ar ôl i'r BBC wneud cais am sylw

Cafodd y sengl ei rhyddhau ar 9 Hydref - dyma'r ail record i gael ei rhyddhau ar ôl marwolaeth Parton.

Yn ystod gyrfa wnaeth ymestyn dros saith degawd, enillodd Dolly 10 gwobr Grammy, gwerthu dros 100 miliwn o recordiau ledled y byd ac ysgrifennu dros 3,000 o ganeuon.

Yn 2024 datgelodd Jada Star bod teulu'r gantores yn hannu o Gymru yn wreiddiol.

Y tro cyntaf i fersiwn Gymraeg o'r gân gael ei rhannu oedd pan wnaeth y cyflwynydd Bronwen Lewis, o Gastell-nedd, ei chyfieithu a'i rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe wnaeth Jada Star gysylltu â Bronwen, gan awgrymu recordio 'Jolene' yn Gymraeg - ac ymunodd Dolly yn y gân hefyd.

Bronwen LewisFfynhonnell y llun, Bronwen Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Fe recordiodd Bronwen a Jada y gân yn y DU, gyda Dolly Parton yn recordio ei rhan hi yn Nashville

Yn 2008, yn ystod cyngerdd yng Nghaerdydd, dywedir i Parton ddatgelu ei hachau Cymreig i'r cefnogwyr yn y gynulleidfa.

Ganwyd Dolly Parton yn nhalaith Tennessee yn 1946 ac roedd wedi dweud bod ganddi wreiddiau Cymreig o ochr ei mam, Avie Lee Owens.

Mae ymchwil gan staff archifau Conwy wedi darganfod bod un o hynafiaid Dolly Parton, William Owen Jr, wedi'i eni ym Machynlleth yn 1584.

Daw'r ymchwil newydd ar ôl i'w theulu ddweud eu bod yn credu bod ganddynt wreiddiau yn ardal Conwy, a'u bod wedi ymfudo i'r UDA.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.