Lluniau: Llanuwchllyn v Y Bala

Cefnogwyr a swyddogion CPD Llanuwchllyn Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas
GanRhys FfranconBBC Cymru Fyw ac Alun GaffeyBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedd 'na gyffro ym Mhenllyn penwythnos yma gyda Chlwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn croesawu'r Bala i Gae Llan. Roedd yr amodau yn heriol wrth i Storm Boelo rwygo trwy Cymru - ond parhau wnaeth y gêm!

Dyma'r tro cyntaf i'r clybiau wynebu ei gilydd mewn gêm gystadleuol ers blynyddoedd, gyda'r ddau bellach yn chwarae yn yr un adran, y Cymru North - ail haen strwythur pêl-droed Cymru.

Disgynnodd Y Bala o'r Cymru Prem y tymor diwetha' ac fe enillodd Llanuwchllyn ddyrchafiad o'r drydedd haen, adran Ardal Gogledd-ddwyrain.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal gyda sgôr o 3-3, ac yno ar ran Cymru Fyw oedd y ffotograffydd Geraint Thomas. Dyma rai o ddelweddau'r diwrnod.

Er gwaetha'r tywydd garw daeth pobl draw i Gae Llan yn ei dwsinau i wylio'r gêm ddarbi hon...Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaetha'r tywydd garw daeth pobl draw i Gae Llan yn ei dwsinau i wylio'r gêm ddarbi hon...

dyn mewn carFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

...gyda rhai, yn gall iawn, yn dewis gyrru yno

Y dyfarnwyr mewn hwyliau da gyda'r gêm ar fin cychwynFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Y dyfarnwyr mewn hwyliau da gyda'r gêm ar fin cychwyn

Joe Vaughan o CPD Llanuwchllyn ac Okera Simmonds o CPD Bala yn aros am y chwiban gyntafFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Joe Vaughan o CPD Llanuwchllyn ac Okera Simmonds o CPD Bala yn aros am y chwiban gyntaf

Diod poeth i gadw'n gynnesFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Diod poeth i gadw'n gynnes!

Cafodd Clwb Pêl Droed Llanuwchllyn ei ffurfio yn 1957. Ymunodd y clwb â'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig yn 1963. Bu rhaid i'r clwb gau yn 1986, ond fe wnaethant ailffurfio yn 1989Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Clwb Pêl Droed Llanuwchllyn ei ffurfio yn 1957. Ymunodd y clwb â'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig yn 1963. Bu rhaid i'r clwb gau yn 1986, ond fe wnaethant ailffurfio yn 1989

dyn yn gwylio pel droedFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae pêl droed 'ma yn fusnes difrifol!

Plant yn rhedegFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Y glaw yn poeni dim ar rai!

Chwaraewyr pel droedFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Cefnogwyr yn (ceisio) mochel dan goeden...Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn (ceisio) mochel dan goeden...

dugoutFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

...tra bu eilyddion a rheolwyr Llan yn mochel yn y dugout.

chwaraewyr pel droedFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na dipyn o ddrama ar y cae wrth i un o chwaraewyr y Bala dderbyn cerdyn coch am drosedd go ddifrifol...

Dau gefnogwr yn gwylio'r gêmFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

...a llygaid y cefnogwyr wedi'u gludo i'r cyffro

Cefnogwyr ar ochr cae pel droedFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr y dyfodol yn gwylio!

Cefnogwr ifanc yn cael trafferth gydag ymbarèl!Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwr ifanc yn cael trafferth gydag ymbarèl!

chwaraewyr pel droedFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Will Owen yn rhedeg lawr yr asgell chwith

dau ddyn ar ochr cae pêl droedFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"'Mai heddiw?"

Chwaraewyr Llan yn gorfoleddu ar ôl sgorioFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Llanuwchllyn yn gorfoleddu ar ôl sgorio

Dathliadau lu yn y glawFfynhonnell y llun, Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dathliadau lu yn y glaw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig