'Do'n i ddim wedi bwriadu ei ladd' - achos llys

Mae tri dyn ac un menyw wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â marwolaeth Tristan Kerr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio bachgen 17 oed mewn fflat yn Abertridwr wedi dweud wrth y llys "dwi mor sori, do'n i ddim wedi bwriadu ei ladd o gwbl".
Bu farw Tristan Kerr, 17 oed yn dilyn digwyddiad yn Sir Caerffili fis Chwefror.
Yn llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth, dywedodd Georgie Mears, 19 oed, ei fod wrthi'n anfon dau fag gwerth £25 o getamin i Tristan Kerr pan geisiodd ymosod arno.
Fe blygodd ei ben yn y llys wrth iddo ddweud: "Ro'n i wir yn meddwl ei fod am fy nhrywanu i."
'Awyrgylch rhyfedd'
Dywedodd Mears iddo deimlo'n ofidus cyn gynted ag iddo fynd mewn i'r ystafell fyw gyda'r cyffuriau - lle ddigwyddodd y digwyddiad.
Roedd tri dyn arall yno.
"Roedd awyrgylch rhyfedd," meddai.
"Nes i glywed rhywun yn dweud, "tafla fo yma".
"Roedd Tristan yn symud tuag ata i," meddai gan ychwanegu fod ei gerddediad "â phwrpas", "nid y ffordd y byddech yn cerdded at rywun i siarad â nhw".
Dywedodd Mears fod Kerr wedi ceisio ei ddyrnu ddwywaith cyn ei wthio yn erbyn wal.
Yn ystod y weithred yno, fe ddaeth y gyllell a oedd wedi ei guddio yn ei drowsus i'r amlwg.

O'r chwith i'r dde: Connor Palfrey, Elexi Manny, Georgie Mears a Ricardo Elliot yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ym mis Mawrth
Dywedodd yr oedd yn gwybod fod gan Kerr hanes gyda throseddau a defnyddio cyllyll. Dywedodd iddo weld fideo ar Snapchat o'r unigolyn yn dilyn un o'r diffinyddion eraill, Connor Palfrey, gyda chyllell a chi.
Dywedodd Mears: "Fe wnes i gymryd y cyllell allan, oherwydd yr ofn.
"Fe wnes i ei drywanu. Os na fyddwn i wedi, mi fyddai fe wedi fy nhrywanu i. O'n i'n ofni am fy niogelwch.
"O'n i'n gwybod bod ganddo hanes o gario cyllyll ac o fod yn unigolyn troseddol.
"O'n i wirioneddol yn meddwl ei fod am ymosod arna i."
'Fe es i i banig'
Fe safodd Mears yn y blwch tystion er mwyn dangos sut aeth ati i drywanu Tristan Kerr gyda'r gyllell y mae e'n dweud sydd ddim yn eiddo iddo.
Ychwanegodd fod y trywanu'n edrych "fel nad oedd wedi cael unrhyw effaith ar yr unigolyn".
Ond yn hwyrach, wrth iddo yrru i ffwrdd gyda'r tri arall sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth drwy fenter ar y cyd, dywedodd iddo "deimlo'n sâl" am yr hyn ddigwyddodd.
Dywedodd wrth ei fargyfreithiwr Chris Rees KC ei fod yn syml eisiau gadael y fflat a'i fod wedi mynd i banig pan sylweddolodd fod bonyn y drws wedi torri.
"Fe es i i banig. Oedd ofn arna i, o'n i eisiau gadael yr ystafell. Doedd dim bonyn ar y drws. Yr unig ffordd o adael oedd mynd trwy'r holl ddynion."
Pedwar yn gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
Mab 17 oed 'annwyl iawn' wedi marw o anaf trywanu - cwest
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar Tristan Kerr o Abertridwr mewn eiddo yn Stryd Lower Francis fis Chwefror 2026 gan Georgie Mears o Gaerdydd, a oedd yn 18 oed ar y pryd.
Mewn archwiliad post mortem, cafodd clwyf oedd yn mesur 13.5cm ei ganfod ar gorff Tristan Kerr.
Ar ôl dianc o'r eiddo, fe wnaeth Tristan ddisgyn i freichiau ei ffrind gan ddweud wrtho "dwi'n brifo - dwi'n dy garu di bro".
Fe glywodd llys y goron Casnewydd nad yw'r rheswm y tu ôl i'r weithred wedi dod i'r amlwg.
Mae Georgie Mears, sydd bellach yn 19 ac o Gaerdydd a thri arall, Ricardo Elliot, 27, heb gyfeiriad, Connor Palfrey, 25 o Abertridwr ac Elexi Manny, 25 o Gaerffili wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Tristan Kerr drwy gydweithio.
Mae'r pedwar yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref
