Bachgen 14 oed yn pledio'n ddieuog o lofruddio merch yr un oed

LillyFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lilly Jones, 14, ei ganfod mewn coedwig ym Mharc Duffryn yn nhref Blaenau ar 22 Mehefin

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 14 oed wedi pledio'n ddieuog o lofruddio merch yr un oed ym Mlaenau ger Abertyleri.

Cafodd corff Lilly Jones ei ganfod mewn coedwig ym Mharc Duffryn yn nhref Blaenau ddeuddydd ar ôl i'w rhieni ddweud ei bod ar goll ar 20 Mehefin.

Bu farw ar ôl cael ei thrywanu yn ei gwddf a'i chorff a chafodd ei chyhoeddi'n farw yn y goedwig gan y gwasanaethau brys.

Yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth, fe blediodd y bachgen, na ellir ei enwi na'i adnabod oherwydd ei fod yn blentyn, yn ddieuog.

Roedd teulu Lilly a'r bachgen yn bresennol yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.

Bydd yr achos llys yn cael ei gynnal ar ddydd Llun, 23 Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig