Biliau, tanwydd a phensiynau - sut allai'r Gyllideb effeithio ar Gymru?

Papur pum puntFfynhonnell y llun, Getty Images
GanIolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Biliau ynni, cymorth i fusnesau, pensiynau, torri gwasanaethau, ac ariannu teg i Gymru.

Rhai o bryderon siopwyr yn Abertawe'r wythnos hon - ac o bosib yn bynciau fydd yn codi yng Nghyllideb y Canghellor John Healey ddydd Mercher.

Dyma fydd yr un gyntaf dan y prif weinidog newydd Andy Burnham, wrth i Lywodraeth y DU amlinellu eu blaenoriaethau.

Ond beth allai fod yn newydd, a faint o effaith fydd yna ar Gymru?

Biliau ynni

Roedd cymorth gyda chostau ynni ymhlith prif flaenoriaethau rhai o'r siopwyr ym Marchnad Abertawe'r wythnos hon.

"Ni fel teulu wedi bod yn pryderu ers amser am brisiau egni," meddai Gemma Haines o Ben-y-bont.

"Dros gyfnod y gaeaf bydd y goleuadau 'mlaen yn y tŷ, [mae angen] sychu dillad ar gyfer y babi.

"Felly hoffen i weld cymorth yn dod oddi wrth y llywodraeth os oedd modd."

Gemma Haines a'i babi Owen
Disgrifiad o’r llun,

Gemma Haines a'i babi dri mis oed, Owen - mae costau ynni yn un o'i phrif bryderon hi wrth i ni agosáu at fisoedd y gaeaf

Fe gynyddodd prisiau ar ddiwedd y mis ac mae disgwyl i filiau cyffredin godi o 16% ym mis Ionawr oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Mae'r Canghellor wedi sôn am roi "lle i bobl anadlu" o ganlyniad i bwysau costau byw.

Mae Andy Burnham hefyd eisiau cwtogi ffioedd ar filiau nwy.

Os oes rhagor o gymorth yn y Gyllideb, mae'n debygol y bydd wedi ei gyfyngu i'r cartrefi tlotaf.

Taliadau plant

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu treialu cynllun fydd yn talu £10 yr wythnos i 15,000 o blant sydd o deuluoedd ar Gredyd Cynhwysol.

Bydd cynllun Cynnal wedi'i fodelu ar daliadau plant Llywodraeth yr Alban sydd wedi helpu i leihau tlodi plant yn y wlad honno.

Mae gweinidogion Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddiystyru'r taliadau pan mae'n dod at dibenion trethi a budd-daliadau.

Dywedodd Andy Burnham ei fod yn "agored" i'r syniad, gan fod y drefn honno eisoes yn bodoli ar gyfer cynllun Yr Alban.

Costau tanwydd

I gwmni cludiant Midway Motors yng Nghrymych, Sir Benfro, mae effaith y cynnydd mewn prisiau tanwydd yn cael ei weld eisoes.

"Mae'r cynnydd yn golygu bod llenwi bws bellach yn costio rhyw £350 yn fwy," meddai Shon Rees o'r cwmni.

"Mae llenwi tanc ar gerbyd trwm yn costio rhyw £5,000 yn fwy.

"Felly, mae'n gost ychwanegol ddiangen, ac mae'n rhoi pwysau sylweddol arnon ni fel diwydiant ac fel cwmni.

"Mae'n anodd i ni fel cwmni teuluol, fel y mae i lawer o gwmnïau eraill."

Byddai gostyngiad yn y dreth danwydd yn "help mawr", meddai.

"Heb danwydd, allwn ni ddim gweithio. Does dim dewis arall mewn ffordd - rydych chi'n talu'r pris, neu dydych chi ddim yn symud.

"Os ydyn ni'n codi ein prisiau, mae'r cwsmer yn mynd i deimlo hynny.

"Gallai effeithio ar ba mor aml mae pobl yn teithio, ac efallai na fyddan nhw'n teithio cymaint nac yn gwario cymaint. Yn y pen draw, mae hynny'n dod yn ôl atom ni."

tancer olew sydd gan gwmni DJ Davies
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Alan Davies o gwmni DJ Davies yn hoffi gweld y Dreth Ar Werth o 5% ar olew gwresogi yn cael ei ddileu yn y Gyllideb

Mae sefyllfa'r Dwyrain Canol wedi arwain at gynnydd mewn pris tanwydd, gyda phrisiau petrol yn cyrraedd eu huchaf mewn pedair blynedd ym mis Medi, a disel hefyd yn codi.

Oherwydd hynny, mae John Healey dan bwysau i ganslo'r cynnydd yn y dreth danwydd oedd wedi ei gynllunio ar gyfer mis Ionawr.

Cafodd y gyfradd ei lleihau o 5c gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol yn 2022, a'i ymestyn ddwywaith gan Rachel Reeves pan oedd hi'n Ganghellor.

Mae cartrefi gwledig sy'n defnyddio olew gwresogi hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu costau, wrth i bris olew godi.

"Fe ddyblodd mewn un diwrnod dros ddydd Sadwrn, a chododd eto ddydd Sul a bore dydd Llun," meddai Alan Davies, un o gyfarwyddwyr cwmni DJ Davies sy'n cyflenwi olew.

"Cyn y rhyfel [gydag Iran], roedd olew gwresogi yn costio llai na 50c y litr; bellach mae dros £1.20 y litr.

"Rydyn ni wedi bod yn y busnes olew ers dros 30 mlynedd, ac am y tro cyntaf ni'n gorfod cwtogi o ran faint o danwydd y gallwn ni ei gael.

"Mae llwyth o olew gwresogi oedd yn arfer costio tua £20,000 i ni bellach yn costio £40,000.

"Mae angen llawer mwy o arian arnon ni i wneud yr un peth, ac mae'n gyfnod anodd iawn i'r busnes ac i'n cwsmeriaid."

Alan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae problemau yn y gadwyn gyflenwi yn achosi problemau i'r busnes, meddai Alan Davies, gyda thanwydd yn dod o'r UDA a cherosin o Saudi Arabia

Byddai'n hoffi gweld y Dreth Ar Werth o 5% ar olew gwresogi yn cael ei dileu, ond does dim sôn hyd yma a fydd hynny'n digwydd yn y Gyllideb.

"Rydyn ni'n gwybod bod teuluoedd yn teimlo effaith prisiau uwch, sy'n cael ei yrru gan wrthdaro tramor," meddai llefarydd ar ran y Trysorlys.

"Mae'r Canghellor yn canolbwyntio ar roi lle i gartrefi a busnesau anadlu lle gallwn ni. Dyna pam rydyn ni wedi dileu TAW o filiau ynni ac ymestyn y cwtogiad o 5c i dreth danwydd.

"Fel sydd wastad wedi bod, mater i'r Canghellor yw hi i amlinellu penderfyniadau treth yn ystod digwyddiadau ariannol, yn hytrach na gwneud sylwadau cyson yn ymateb i sïon a sibrydion."

Mwy o gyllid i Gymru

Mae gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru, Elin Jones wedi gwneud cais ffurfiol i'r Canghellor i flaendalu £1bn o'r £14bn mae Llywodraeth Lafur y DU wedi'i addo ar gyfer cyllid hir dymor i reilffyrdd Cymru.

Mae hi hefyd wedi gofyn am ragor o arian i helpu Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2027/28, gan eu bod nhw ar hyn o bryd yn wynebu toriadau i'w gwariant mewn termau real.

Gallai unrhyw wariant ychwanegol ar brosiectau Lloegr yn unig, ond sydd o fewn grymoedd Llywodraeth Cymru, olygu rhagor o gyllid i Gymru hefyd.

Ac mae rhai ar feinciau cefn Llafur wedi galw am roi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru fenthyg arian i dalu am brosiectau buddsoddi.

Budd-daliadau a phensiynau

Bydd y Canghellor yn cadarnhau faint o gynnydd fydd i'r pensiwn gwladol y flwyddyn nesaf.

Mae'n debygol o godi dros £13,000, gyda'r gyfradd fflat, lawn yn cynyddu o £488 y flwyddyn ym mis Ebrill oherwydd y clo triphlyg.

"Fi'n dod lan i oedran ymddeol nawr fy hunan," meddai Elena Jones o Flaendulais, wrth grwydro marchnad Abertawe.

"Ac mae'r arian maen nhw'n rhoi ar y foment, dyw e ddim yn ddigon i fyw arno o gwbl."

Mary Bryce ac Elena Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pensiynau a chymorth i fusnesau bach ymhlith pryderon Mary Bryce ac Elena Jones wrth grwydro Marchnad Abertawe gyda'i gilydd

Un peth sydd wedi'i gyhoeddi eisoes yw na fydd rhaid i bensiynwyr sy'n dibynnu'n llwyr ar y pensiwn gwladol dalu treth incwm, sydd fel arfer yn dechrau o £12,570 - ond bydd y manylion llawn yn cael eu cyflwyno yn y Gyllideb.

O ran budd-daliadau i bobl o oed gwaith, mae John Healey eisoes wedi paratoi'r tir ar gyfer toriadau posib i'r bil hwnnw, yn dilyn araith o flaen ASau Llafur yng nghynhadledd y blaid.

Mae adroddiadau y bydd newid i'r cymorth sy'n cael ei gynnig i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.

Ond mae'n bosib na ddaw'r cyhoeddiad hwnnw tan ar ôl y Gyllideb, pan fydd Alan Milburn yn cyhoeddi argymhellion ar gyfer diwygio.

Beth arall sy'n poeni pobl?

Wrth siarad â phobl ym Marchnad Abertawe, roedd cyflwr y stryd fawr a chymorth i gadw siopau bach ar agor yn amlwg yn bryder arall.

"Mae isie mwy o arian ar fusnesau er mwyn adfywio'r ddinas fan hyn yn Abertawe," meddai Mary Bryce o Ddyffryn Cellwen yng Nghwm Dulais.

"Bob tro ni'n dod lan ni'n gweld siop arall sydd wedi cau. Beth sy'n mynd i ddigwydd? Mae'n dorcalonnus."

Pryderon tebyg oedd gan Nadine Thomas o Abertawe.

Huw Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Griffiths yn dweud bod effaith toriadau cyson i wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf bellach i'w weld yn ein cymunedau

"Fi eisiau mwy o arian i ganol y ddinas, mwy o arian i fusnesau, a mwy o arian i hen bobl."

Ond i ba raddau y bydd modd i'r Canghellor gynyddu gwariant mewn rhai meysydd, neu a fydd rhai adrannau'n parhau i weld eu cyllidebau'n cael eu gwasgu?

"Mae pob math o wasanaethau yn diflannu - mae'r heddlu, y frigad dân, i gyd fel petai nhw'n brin iawn o arian," meddai Huw Griffiths o Ben-y-bont ar Ogwr.

"Ac mae'r prinder yna yn dod lawr i'r grass roots, mae'n cael effaith ar bobl ar y stryd ac yn eu cartrefi."