Apêl newydd gan yr heddlu fis ar ôl canfod corff merch fach ar lan y Fenai

Tâp yr heddlu ar Ffordd Siliwen Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff y babi ei ddarganfod ger Ffordd Siliwen toc cyn 17:00 ddydd Sul 27 Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi gwneud apêl newydd am wybodaeth fis ar ôl i ferch fach gael ei darganfod yn farw ar lan y Fenai ym Mangor.

Cafodd corff y babi ei ddarganfod ger Ffordd Siliwen toc cyn 17:00 ddydd Sul 27 Medi.

Yn gynharach yn y mis, cafodd yr enw Ceri ei roi ar y ferch fach.

Wrth wneud apêl newydd am wybodaeth fore Mawrth, dywedodd Heddlu'r Gogledd bod eu hymholiadau'n parhau a'u bod yn gweithio gydag arbenigwyr i geisio deall beth ddigwyddodd i'r ferch fach, a phwy ydy ei rhieni.

Dywedodd y llu eu bod wedi adolygu cannoedd o oriau o luniau teledu cylch cyfyng yn ogystal ag ymateb i wybodaeth gan y cyhoedd.

Maen nhw hefyd wedi dosbarthu dros 2,000 o daflenni i bobl sy'n byw ac yn gweithio'n lleol.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Llinos Davies: "Rydym yn parhau i fod yn benderfynol o gael atebion i babi Ceri.

"Mae swyddogion yn ymchwilio'n ddiflino i amgylchiadau ei marwolaeth ac yn parhau i apelio ar ei mam, ei thad neu ei theulu i ddod i siarad â ni.

"Mae hwn wedi bod yn achos torcalonnus i gymuned Bangor a thu hwnt.

"Mae'r gefnogaeth a'r cydymdeimlad rydyn ni wedi'u derbyn wedi bod yn hynod gadarn wrth i ni barhau i apelio am unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i ddarganfod beth ddigwyddodd i'r baban.

"Mae ein llinell ffôn bwrpasol ar gyfer mam Ceri ar gael bob amser fel bod modd iddi siarad ag arbenigwr hyfforddedig a fydd yn gwrando ac yn cefnogi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig