Teyrnged i 'dad cariadus' fu farw wedi gwrthdrawiad yn Llanuwchllyn

Bu farw Chris Johnson, 58 oed ac o'r Rhyl, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A494 yn Llanuwchllyn ar 15 Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae teulu "tad cariadus" a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Chris Johnson, 58 oed ac o'r Rhyl, Sir Ddinbych, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A494 yn Llanuwchllyn toc cyn 19:35 ar 15 Hydref.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd wedi'r gwrthdrawiad ei fod yn ymwneud â dau gerbyd - BMW 240i a Mitsubishi L200.
Bu farw Mr Johnson, a oedd yn gyrru'r BMW, yn y fan a'r lle a chafodd gyrrwr y Mitsubishi anafiadau difrifol a'i gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Llanuwchllyn
- Cyhoeddwyd16 Hydref
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mr Johnson ei fod yn "ddyn teulu cariadus, yn anhygoel, doniol a bydd colled fawr ar ei ôl".
"Doedd dim byd roedd Chris yn ei garu mwy na bod allan gyda'i ffrindiau ar ei feic modur, yn teithio ar hyd ffyrdd hardd gogledd Cymru, neu'n treulio amser yn y gampfa," medden nhw.
"Roedd Chris yn ŵr, tad, mab, taid, brawd, ewythr a chefnder, ac yn graig i'n teulu. Roedd yn gallu gwneud i chi wenu hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf anodd, ac roedd yn gweld yr ochr orau mewn cymaint o bethau.
"Ni all geiriau fynegi'r effaith a gafodd ar gynifer o bobl. Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon er mwyn iddynt allu galaru am golli Chris."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.