Dyn o Aberfan yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o greu 'bom petrol cartref'

- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Aberfan wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o greu "sylwedd ffrwydrol".
Ymddangosodd Stefan Dale, 38, o flaen llys ynadon ym Merthyr ddydd Iau.
Mae'n wynebu cyhuddiad o greu "bom petrol cartref" gyda'r bwriad o "beryglu bywyd/niweidio eiddo".
Daw'r cyhuddiad ar ôl i "eitemau amheus" gael eu darganfod ar Daith Taf yn Aberfan ar 17 Hydref, meddai Heddlu'r De.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ac mi fydd yn ymddangos nesaf yn y llys ar 5 Tachwedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.