Ymchwilio i achos tân mawr yng Nghlwb Golff Conwy

Disgrifiad o’r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle toc wedi 21:00 nos Sadwrn
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Mae dros 40 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn ymateb i ddigwyddiad yng Nghlwb Golff Conwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am tua 21:12 nos Sadwrn.
Nid oes unrhyw fanylion swyddogol wedi eu rhannu ynglŷn ag effaith y tân ar hyn o bryd, ond mae lluniau o'r safle yn dangos fod to'r prif adeilad wedi ei ddifrodi.
Roedd criwiau o Gonwy, Bae Colwyn, Llandudno, Rhyl, Dinbych, Abergele, Betws y Coed a Llanelwy i gyd yn rhan o'r ymdrech i reoli'r fflamau.
Mae rhai diffoddwyr yn parhau ar y safle, ac mae ymchwiliad eisoes ar waith i ddarganfod achos y tân.
Y tân wedi achosi 'difrod sylweddol'
Dywedodd perchnogion y clwb golff eu bod yn gwerthfawrogi'r holl negeseuon o gefnogaeth gan y gymuned leol.
"Ry'n ni'n drist iawn i orfod cadarnhau bod tân difrifol wedi digwydd yn y clwb neithiwr, a bod hynny wedi achosi difrod sylweddol i'r adeilad.
"Yn ffodus iawn, ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i'r gwasanaethau brys am eu hymateb sydyn a'u gwaith caled drwy gydol y nos... ar hyn o bryd nid yw achos y tân yn glir, a ni fyddwn ni'n gwneud sylw am hynny tra bod ymchwiliadau swyddogol ar waith."
Mae holl gyfleusterau'r clwb ar gau am y tro, ac mae'r perchnogion wedi gofyn i bobl osgoi'r safle tan ei fod yn gwbl ddiogel iddynt ddychwelyd.
Ychwanegodd y perchnogion: "Ry'n ni'n deall y bydd hyn yn dod fel sioc enfawr i aelodau, ymwelwyr a'r gymuned leol. Ein blaenoriaeth yw diogelwch a chefnogi'r gwasanaethau brys.
"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu i gynnig negeseuon o gefnogaeth, mae wir yn meddwl y byd i ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


