Ysbyty'n derbyn cyfrifoldeb am 24 methiant arweiniodd at farwolaeth merch fach

Chaz, Eleanor a RachelFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhieni Eleanor, Chaz a Rachel, ei bod wedi dod â chymaint o lawenydd i'w bywydau

GanMiriam Barker a Gwydion EdwardsBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae ymddiriedolaeth ysbyty wedi cymryd cyfrifoldeb llawn am y 24 methiant mewn gofal a arweiniodd at farwolaeth merch fach.

21 mis oed oedd Eleanor Hazel Aldred-Owen pan y bu farw yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl, ar 2 Hydref 2023. Daeth crwner i'r casgliad ei bod wedi marw trwy anffawd, a bod esgeulustod wedi cyfrannu at hynny.

Cafodd lawdriniaeth arferol ar gyfer craniosynostosis - nam geni sy'n effeithio ar y penglog - ond ni chafodd canlyniad anarferol o sgan pelydr-X ar ei brest ei nodi.

Cafodd Eleanor ataliad ar y galon ac anaf i'r ymennydd nad oedd posib ei oroesi, a bu farw ym mreichiau ei rhieni.

Mae ei theulu, sydd o'r Wyddgrug yn Sir y Fflint, yn dweud eu bod wedi byw gydag euogrwydd a thrawma "annioddefol" ers hynny.

Dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Plant Alder Hey na ddylai ei marwolaeth "drasig" fod wedi digwydd.

Eleanor Hazel Aldred-OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 21 mis oed oedd Eleanor Hazel Aldred-Owen pan y bu farw

Esboniodd tad Eleanor, Chaz, fod peidio â gwybod sut na pham y bu farw ei ferch yn "ffactorau allweddol", ac mai "cyfiawnder iddi hi wnaeth ein cadw ni i fynd".

"Gwneud yn siŵr nad ydy'r hyn wnaeth ddigwydd i Eleanor yn digwydd i unrhyw un arall ydy'r gwir fuddugoliaeth.

"Bod dim angen i unrhyw deulu na phlentyn arall fynd trwy'r hyn rydyn ni wedi mynd trwyddo fo."

Ychwanegodd Chaz ei fod ef a'i wraig, Rachel, yn "eithaf sicr ei fod yn esgeulus" ond heb sylweddoli i ba raddau, a bod y ddau'n dibynnu "ar yr hyn oedd Alder Hey yn dweud wrthon ni".

"Dywedon nhw bod 'na dor-dyletswydd gofal ond nid esgeulustod difrifol, ac mi gymerodd hi amser hir i'r ymddiriedolaeth gyfaddef hynny."

Ychwanegodd mai'r peth anoddaf oedd i'r ymddiriedolaeth "gael eu gorfodi i gyfaddef esgeulustod difrifol".

Cafodd Eleanor lawdriniaeth ar gyfer craniosynostosis ar 29 Medi 2023, ac mi aeth hynny fel y bwriad, heblaw am dynnu tiwb anadlu yn ddamweiniol - oedd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y driniaeth anesthetig. Rhoddodd yr anesthetydd y tiwb yn ôl ac aeth y llawdriniaeth yn ei blaen.

Yn ystod ei hadferiad, roedd cyfradd curiad calon Eleanor yn uchel ac roedd angen ocsigen arni.

Cafodd penderfyniad ei wneud i ddechrau defnyddio AIRVO - math o ocsigen sydd â lleithder a llif uchel - ond ni chafodd hynny ei ddogfennu na'i roi yn unol â chanllawiau'r ymddiriedolaeth.

24 o fethiannau

Ar ôl ei llawdriniaeth, fe wnaeth ysgyfaint Eleanor ddymchwel.

Doedd radiograffydd heb ddweud wrth unrhyw un ar y ward bod sgan pelydr-x yn dangos brest anarferol, a ni wnaeth y meddyg ei adolygu'n syth gan ei bod yn adolygu plentyn arall.

Cafodd Eleanor ataliad ar y galon cyn i'w hysgyfaint gael ei nodi a'i drin, gan achosi anaf i'w hymennydd nad oedd modd goroesi.

Casglodd ymchwiliad bod 24 o fethiannau gofal a wnaeth arwain at ei marwolaeth.

Roedden nhw'n cynnwys methiant i asesu ei Sgôr Rhybudd Cynnar (EWS) yn gywir ar sawl achlysur, a fyddai wedi arwain at adolygiad meddygol a sgan phelydr-x o'r frest yn llawer cynt.

Eleanor, Rachel a ChazFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Eleanor wedi dweud eu bod yn byw gydag euogrwydd a thrawma "annioddefol"

Mewn datganiad, dywedodd teulu Eleanor y byddai ei marwolaeth "wedi medru cael ei hatal ac ni ddylai fod wedi digwydd".

"Fel rhieni, mae'r euogrwydd yn annioddefol, er ein bod yn gwybod bod Eleanor wedi ei methu gan yr ymddiriedolaeth, nid ni.

"Rydym wedi newid am byth fel unigolion.

"Nid yn unig ydyn ni'n galaru'n dragwyddol drosti hi, ond rydym hefyd yn galaru am y bobl oedden ni cyn i'n merch ein gadael."

Dywedon nhw eu bod yn cydnabod y newidiadau y mae'r ymddiriedolaeth wedi'u rhoi ar waith yn dilyn marwolaeth Eleanor, ond bod yn rhaid i'r rhain gael eu "defnyddio'n briodol, eu cadw o dan adolygiad, a gwneud gofal yn fwy diogel i blant eraill".

Dywedodd Chaz fod dwy broses ôl-lawdriniaeth wedi'u cyflwyno yn Alder Hey yn enw Eleanor. Ychwanegodd eu bod yn rhywbeth y gallai ef a'i wraig fod yn falch ohonyn nhw.

'Ein calonnau wedi torri'

Dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Alder Hey fod colli Eleanor "wedi gadael marc parhaol arnom ni i gyd".

"Mae ein calonnau wedi torri - ein bod wedi methu Eleanor a'i theulu - ac rydym am sicrhau na fydd trasiedi o'r fath yn digwydd eto."

Ychwanegon nhw fod y cyfleoedd a gafodd eu colli wedi arwain at gyflwyno proses glir o godi difrifoldeb achosion o fewn yr adran radioleg ar gyfer canfyddiadau sy'n anarferol dros ben, a chanfyddiadau lle mae amser yn brin i ymateb.

Derbyniodd yr ymddiriedolaeth gyfrifoldeb llawn am y methiannau, gan ymddiheuro am eu bod wedi arwain at farwolaeth Eleanor.

Dydy Chaz ddim eisiau i Eleanor gael ei hanghofio, ac mae eisiau ei chofio am y person oedd hi, nid y ffordd y bu farw.

"Roedd hi'n hapus, yn gryf ac yn ddoniol. Roedd hi'n caru cerddoriaeth a dŵr. Roedd hi'n ein caru ni, ac roedden ninnau yn ei charu hi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig