Tai hanesyddol 400 oed i'w troi'n gartrefi fforddiadwy i bobl ifanc

Mae Elusendai Penmynydd, sy'n 400 oed, wedi bod yn wag ers 15 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i drawsnewid tai hanesyddol ym Mhenmynydd, Ynys Môn, yn dri chartref dwy ystafell wely i bobl ifanc wedi cael caniatâd cynllunio.
Mae'r adeiladau, sy'n dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif, yn elusendai – tai a oedd yn draddodiadol yn cael eu cynnig i bobl mewn angen, yn aml am rent isel neu heb rent, drwy elusen neu ymddiriedolaeth.
Y bwriad yw adnewyddu'r adeiladau rhestredig a chynnig y tai ar rent fforddiadwy i bobl ifanc yr ardal, gan roi cyfle iddynt gynilo tuag at brynu cartref eu hunain.
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr Elusendai Penmynydd, Dafydd Idriswyn Roberts, y bydd y cynllun yn helpu i roi defnydd newydd i'r adeiladau hanesyddol.

Mae caniatâd wedi'i roi i drawsnewid pum tŷ rhestredig Gradd II yn gartrefi fforddiadwy i bobl ifanc
Cafodd yr elusendai eu sefydlu yn 1620 yn dilyn rhodd o £1,000 gan Lewis Rogers yn 1617.
Ei nod oedd darparu cartrefi i bobl dlawd ym Mhenmynydd a'r ardal gyfagos.
Yn wreiddiol, roedd lle i ddeg o ddynion dros 50 oed fyw yno, er bod menywod hefyd wedi cael byw yn yr elusendai yn ddiweddarach.
Dros amser, gostyngodd nifer y cartrefi o ddeg i bump, a symudodd y preswylydd olaf, Tom Brown, allan ym mis Mai 2011.

Tom Brown oedd y person olaf i fyw yn Elusendai Penmynydd
Ers hynny, mae'r adeiladau wedi bod yn wag ac wedi dirywio'n sylweddol, gan olygu nad ydynt bellach yn addas i bobl fyw ynddynt.
Yn ôl yr ymddiriedolwyr, roedd angen penderfynu rhwng gadael i'r adeiladau ddirywio ymhellach neu fuddsoddi yn eu dyfodol.
Dechreuodd y broses o geisio caniatâd i'w haddasu tua phum mlynedd yn ôl.
Rhent fforddiadwy i bobl ifanc
Mae'r cynllun yn cynnwys adnewyddu'r pum uned breswyl bresennol a'u cyfuno'n dri chartref modern dwy ystafell wely, gan gadw cymeriad hanesyddol yr adeiladau.
Bydd y tai'n cael eu cynnig ar rent rhesymol i bobl ifanc am gyfnod o saith mlynedd.
Fel rhan o'r cynllun, bydd cymorth hefyd ar gael i helpu preswylwyr gynilo tuag at brynu cartref yn y dyfodol.
Mae'r ymddiriedolwyr yn dweud bod prinder tai fforddiadwy a phrisiau eiddo uchel yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ifanc aros yn eu cymunedau lleol.
Yn ôl y cais cynllunio, mae'r sefyllfa'n cyfrannu at bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn symud i chwilio am dai mewn mannau eraill, gan effeithio ar gydbwysedd ieithyddol y gymuned.
Nod yr ymddiriedolwyr yw sicrhau bod yr elusendai'n parhau i gyflawni eu diben gwreiddiol o helpu pobl mewn angen, gan ymateb i anghenion tai heddiw.
Gohirio newidiadau treth y cyngor yng Nghymru tan 2032
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Sut mae prisiau tai wedi newid ar draws Cymru?
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
'Risg o roi ag un llaw a chymryd â'r llall wrth newid system treth y cyngor'
- Cyhoeddwyd18 Hydref
Mae'r adeiladau, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Tai Lewis Rogers, yn adeiladau rhestredig Gradd II* ac yn rhan o dreftadaeth Penmynydd.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwaith adnewyddu ac estyniadau, creu mynedfa newydd, gosod system trin carthion a gosod paneli solar ar y tir.
Bu trafodaethau ynghylch dyfodol yr elusendai dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys cynnig i drosglwyddo perchnogaeth i elusen arall a fyddai wedi galluogi gwerthu'r eiddo.
Gwrthwynebodd yr ymddiriedolwyr y cynnig hwnnw, gan gredu y byddai'n mynd yn groes i fwriad gwreiddiol Lewis Rogers.
Yn ôl y dogfennau cynllunio, maent yn credu mai adnewyddu'r adeiladau yw'r ffordd o barchu'r waddol honno a sicrhau bod y safle'n parhau i wasanaethu'r gymuned.
Er bod yr elusendai wedi darparu cartrefi i bobl mewn angen ers bron i bedair canrif, y gobaith yw y byddant yn dechrau pennod newydd drwy gynnig tai fforddiadwy i genhedlaeth iau Penmynydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.