Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o Gymru

StormFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd tywydd melyn am wynt mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru, gyda hyrddiau o hyd at 65mya yn bosibl ar hyd arfordiroedd agored ac ar dir uchel.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r gwyntoedd cryfion achosi tarfu ar deithiau a chreu amodau peryglus ar hyd yr arfordir.

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 18:00 ddydd Llun a 03:00 fore Mawrth, gyda glaw trwm hefyd yn bosibl ar adegau.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i Ben-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd gwyntoedd o'r de i'r de-orllewin yn cryfhau o'r gorllewin yn ystod nos Lun, gyda hyrddiau o 45-50mya yn fewndirol a 60-65mya ar hyd arfordiroedd agored ac ar dir uchel.

Gallai'r gwyntoedd achosi oedi ar ffyrdd, rheilffyrdd, yn yr awyr ac ar fferi, yn ogystal ag effeithio ar rai gwasanaethau bysiau a threnau.

Mae posibilrwydd hefyd y bydd cerbydau uchel yn wynebu oedi ar ffyrdd agored ac ar bontydd, a gallai toriadau pŵer ac amhariadau eraill ddigwydd.

Mae disgwyl i'r gwyntoedd wanhau o'r gorllewin yn ystod oriau mân fore Mawrth, cyn cryfhau eto mewn rhannau gogleddol o'r DU yn ddiweddarach yn y bore.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai tonnau mawr a chwistrell môr effeithio ar lwybrau arfordirol, glannau'r môr a chymunedau arfordirol.

Maen nhw'n cynghori pobl i fod yn ofalus ger y môr mewn tywydd stormus, gan y gall tonnau mawr eu hysgubo oddi ar eu traed a'u llusgo i'r môr, hyd yn oed pan fyddant ar y lan.

Dylai pobl hefyd gymryd gofal wrth gerdded ger clogwyni, cadw eu cŵn ar dennyn a ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori gyrwyr i wirio amodau'r ffyrdd cyn teithio, a phobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wirio amserlenni a newid eu cynlluniau os oes angen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig