Gweithiwr oedd yn gamblo ar-lein wedi camddefnyddio £7,000 o arian cyngor

Clywodd yr achos yn erbyn Karen Deakin ei bod wedi gwario arian y cyngor heb awdurdod - a'i bod wedi ei chael yn euog o droseddau twyll cyn i'r cyngor ei chyflogi
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Benfro wedi cael dedfryd wedi'i gohirio ar ôl cyfaddef iddi gymryd bron i £7,000 gan ei chyflogwr, Cyngor Sir Benfro, trwy dwyll a hynny wedi iddi fynd yn gaeth i gamblo ar-lein.
Fe blediodd Karen Deakin, 56, o Hwlffordd yn euog i gyhuddiad o dwyll drwy gamddefnyddio ei safle tra'n gweithio i'r cyngor rhwng mis Mawrth a Hydref 2024.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y twyll wedi dod i'r amlwg ar ôl i gyfrifydd dan hyfforddiant sylwi bod cyllideb adran gyfreithiol y cyngor wedi ei orwario o 365%.
Arweiniodd hynny at ymchwiliad mewnol, a ddatgelodd fod taliadau wedi'u gwneud i gwmnïau fel Amazon, Specsavers a Studio.co.uk.
Dywedodd yr erlynydd Megan Williams KC wrth y llys fod Deakin wedi defnyddio cerdyn Barclays yr oedd y cyngor wedi ei roi iddi , yn ogystal â chardiau a oedd yn perthyn i gyn-weithwyr, i brynu eitemau personol ac i dalu ei rhent ei hun.
Cyfaddefiadau 'llawn a didwyll'
Clywodd y llys fod terfyn credyd cerdyn Deakin ond yn £1, gan bod ei gwaith yn ymwneud â delio ag ymholiadau pryniant, yn hytrach na phrynu eitemau ar ran y cyngor.
Serch hynny, aeth ati i godi'r terfyn er mwyn gallu gwario arian yr awdurdod.
Rhwng 22 Mawrth a 29 Hydref 2024, fe wariodd gyfanswm o £6,915.20.
Pan gafodd ei holi gan y cyngor, fy wnaeth gyfaddefiadau "llawn a didwyll" a chael ei hatal o'i gwaith ar unwaith.
Clywodd y llys ei bod wedi bod yn wynebu anawsterau ariannol oherwydd ei bod yn gaeth i gamblo ar-lein.
Dywedodd ei bargyfreithiwr, Emily Bennett KC, fod Deakin "â chywilydd dwfn" oherwydd yr hyn a wnaeth, a'i bod yn ymddiheuro i'r cyngor.
Roedd y diffynnydd, meddai, wedi bwrw ymlaen gyda'r gamblo gan ddefnyddio arian y cyngor "yn hytrach na chwilio am gymorth".
Troseddau blaenorol
Clywodd y llys hefyd fod Deakin wedi ei chael yn euog o dri throsedd arall yn ymwneud â lladrad a thwyll rhwng 1996 a 2012.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Geraint Walters KC fod Deakin "â record ofnadwy o anonestrwydd" a bod rhan ohono'n credu y dylid ei charcharu y tro hwn.
Ond yn sgil canllawiau dedfrydu newydd, fe'i dedfrydodd hi i 12 mis o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, gan ei rhybuddio mai dyma ei "rhybudd olaf".
Fe fydd yn rhaid iddi hefyd ad-dalu'r holl arian yn ôl i'r cyngor.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.