£30m ar gyfer rheilffyrdd yn 'ganran fach iawn o'r hyn sydd ei angen'

Mae methiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn y rhwydwaith yng Nghymru yn dangos yr angen am ddatganoli rheilffyrdd, yn ôl Mark Hooper
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y £30m ar gyfer rheilffyrdd a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor yn y Gyllideb yn annigonol.
Yn ôl Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Mark Hooper mae'r buddsoddiad yng ngorsaf Parcffordd Caerdydd yn "ganran bach iawn" o'r hyn sydd ei angen.
Roedd llywodraeth Plaid Cymru wedi galw ar John Healey i glustnodi £1bn o'r £14bn yr oedd Llywodraeth Lafur y DU wedi addo ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth y DU, Emma Reynolds fod yr arian yn rhan o becyn gwerth £445m sydd wedi'i anelu at fynd i'r afael â degawdau o danfuddsoddi mewn seilwaith hanfodol.
Y Gyllideb: 'Dim ond hollti blew... mae'n storm berffaith i fusnesau'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Llywodraeth yn wynebu rownd gwariant anoddaf ers cyn y pandemig - Gweinidog Cyllid
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Saith gorsaf newydd yn rhan o addewid £14bn i reilffyrdd Cymru
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Nôl ym mis Chwefror fe ddywedodd Llywodraeth y DU y byddan nhw yn ariannu gweledigaeth £14bn i wella isadeiledd rheilffyrdd Cymru yn llawn.
Roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi £445m ar gyfer prosiectau rheilffordd yng Nghymru yn yr adolygiad gwariant ym mis Mehefin 2025.
Bryd hynny, dywedodd y Trysorlys y byddai'r £445m yn cael ei wario ar drwsio croesfannau, adeiladu gorsafoedd newydd ac uwchraddio rheilffyrdd presennol, a bod y buddsoddiad yn gyfuniad o gyllid uniongyrchol ac arian parod i Lywodraeth Cymru.

Y Canghellor John Healey yn amlinellu cynnwys ei gyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher
Yn y Gyllideb dydd Mercher, dywedodd y Canghellor ei fod am glustnodi arian ar gyfer tri phrosiect yng Nghymru - £2.5m ar gyfer parc gwyddoniaeth yn Ynys Môn, £11m ar gyfer pont ym Mhort Talbot a £30m ar gyfer gorsaf reilffordd Parcffordd Caerdydd.
Dywedodd gweinidogion Llywodraeth y DU fod yr arian ar gyfer y rheilffyrdd yn rhan o'r £445m a gyhoeddwyd yn yr adolygiad gwariant diwethaf gan y cyn-Ganghellor, Rachel Reeves.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer pum gorsaf newydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy, yn ogystal â gwella gorsafoedd yn y gogledd.
Mae dogfennau'r gyllideb yn amlinellu'r gobaith y byddai'r £30m yn "gwthio ymlaen cyflwyno" y cynllun, a fyddai'n gweld gorsaf reilffordd yn cael ei hadeiladu yn Llaneirwg - sef Parcffordd Caerdydd.
'Barod iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru'
Wrth siarad â BBC Cymru ddydd Iau, dywedodd Gweinidog y Trysorlys, Emma Reynolds eu bod wedi "ymrwymo o leiaf £445m y llynedd i ddatblygu prosiectau rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae hynny oherwydd buddsoddiad isel cronig yng Nghymru dros gyfnod hir iawn dan y llywodraeth Geidwadol".
"...Mae angen i ni gael gwared ar waith papur diangen a dechrau'r gwaith cynllunio," meddai.
"Felly, y rheswm rydym wedi rhoi £30m i orsaf Parcffordd Caerdydd yw oherwydd rydym wedi cydweithio er mwyn paratoi'r cynlluniau.
"Rwyf yn barod iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod y prosiect yn symud yn ei flaen."

Yn dilyn cyfarfod ag Emma Reynolds yn Llundain ddydd Iau, dywedodd Mark Hooper fod y £30m yn "ganran fach iawn" o'r hyn sydd ei angen.
"Mae methiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn y rhwydwaith yng Nghymru yn dangos, nawr, mwy nag erioed, yr angen am ddatganoli rheilffyrdd," meddai.
"Nid yw'n gywir i ddweud nad ydym yn barod i gychwyn adeiladu'r gorsafoedd newydd. Addawodd Llywodraeth y DU yr arian hwn ym mis Chwefror ac ers hynny rydym wedi cytuno gyda Network Rail y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r gorsafoedd.
"Mae Trafnidiaeth Cymru yn barod i ddechrau'r gwaith ond mae angen i Lywodraeth y DU gadw at eu haddewid. A dyna oedd fy neges i'r gweinidog rheilffyrdd yn ystod ein cyfarfod."
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod Cymru yn cyfrannu tuag at 10% o'r rhwydwaith rheilffyrdd ledled Prydain, ond 1% yn unig o wariant Network Rail sy'n mynd i Gymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.