Arestio dyn, 61, ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaergybi

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yng Nghaergybi am 03:49 fore Sul

GanManon Wiliam
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 61 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi yn gynnar fore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo preswyl ar Ffordd Morawelon am 03:49, yn dilyn adroddiad am argyfwng meddygol.

Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa wrth i'r heddlu "ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad".

Dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oes "bygythiad parhaus i'r gymuned ehangach", ond y bydd "presenoldeb heddlu ychwanegol yn yr ardal dros y 24 awr nesaf."

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Rob Mahoney ei fod am dawelu meddyliau'r cyhoedd, gan bwysleisio bod yr heddlu'n "trin y digwyddiad fel un ar wahân".

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad gysylltu â nhw.