'Nawr, gallai siarad ag unrhyw un': Triniaeth dwy at greithiau gwefus hollt

Amber (chwith) ac EmilyFfynhonnell y llun, Amber Dorgan/Emily Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amber Dorgan (chwith) ac Emily Evans wedi troi at arbenigwyr

GanGwydion EdwardsBBC Cymru Fyw ac Amelia Shone-AdamsBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dwy Gymraes ymhlith y nifer cynyddol o bobl sy'n troi at arbenigwyr croen (dermal fillers) yn sgil creithiau o lawdriniaethau ar wefus a thaflod hollt, er mwyn adfer hyder a chefnogi lles.

Mae triniaethau esthetig ar gyfer unigolion â chreithiau ar ôl llawdriniaeth ar wefus hollt, yn cynnwys defnyddio llenwyr croen i lenwi creithiau a'u gwneud yn llai gweledol.

Mae'r driniaeth yn cael ei chynnig gan y GIG ond mae ymarferwyr esthetig preifat, sydd hefyd yn darparu triniaethau, yn galw am fwy o reoleiddio a hyfforddiant yn y maes.

"Dy'ch chi ddim yn gweld hyn ar y cyfryngau cymdeithasol o gwbl, dwi'n teimlo y dylai bod mwy ohono fe i'w weld," meddai Amber.

Amber DorganFfynhonnell y llun, Amber Dorgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amber yn derbyn triniaeth am ddim gan Ganolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt

Cafodd Amber Dorgan, 19 oed o Gastell-nedd, ei geni gyda gwefus hollt ac mae hi wedi wynebu trafferthion clyw, trafferthion siarad, ac wedi cael ei bwlio yn yr ysgol yn sgil ei chreithiau.

Mi dderbyniodd hi bum triniaeth yn ystod ei phlentyndod ac mae hi'n cofio mynychu apwyntiadau cyson yn yr ysbyty - therapi ar gyfer lleferydd ac iaith.

Mae'n cofio'r ysgol fel cyfnod "eithaf annymunol" am iddi gael ei bwlio.

"Dwi wastad wedi teimlo'n ansicr o ran sut dwi'n edrych - pan fydda' i'n mynd allan, dwi wastad yn gorbryderu ac yn mynd yn nerfus.

"Nawr, mae'r llenwyr gwefusau wedi gwneud i fi deimlo 'chydig yn fwy hyderus ynof fi fy hun. Mae wedi helpu," meddai Amber.

Emily EvansFfynhonnell y llun, Emily Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily wedi derbyn dwy lawdriniaeth - un pan yn fabi i gau'r hollt, ac un arall pan yn 10 oed i lyfnhau ei gwefusau

Mae Amber yn derbyn triniaeth am ddim gan Ganolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt ac mae hi'n eithriadol o ddiolchgar am hynny.

"Dwi'n meddwl y dylai fod ar gael i bawb sydd â gwefus hollt, achos mae e'n gwneud i chi deimlo'n fwy hyderus a hapus o lawer.

"Mae'n fwy cynnil - dy'ch chi ddim wir yn gallu gweld yr hollt."

"Cyn defnyddio [llenwad], ro'n i'n swil iawn. Do'n i ddim yn siarad â neb, a do'n i ddim eisiau gadael y tŷ,

"Nawr, dwi'n teimlo y gallai i fynd allan a siarad ag unrhyw un, bod yn fwy cymdeithasol a theimlo'n hyderus," ychwanegodd Amber.

'Casáu bod yn wahanol'

Mam 20 oed o Gydweli yw Emily Evans ac mae hi adref ar hyn o bryd yn magu dau blentyn ifanc.

Cafodd ei geni â gwefus hollt ac mae hi wedi derbyn dwy lawdriniaeth - un pan yn fabi i gau'r hollt, ac un arall pan yn 10 oed i lyfnhau ei gwefusau.

Roedd hi'n teimlo'n wahanol ar hyd ei phlentyndod a dywed fod plant eraill yn ei holi am ei chraith ar ôl yr ail lawdriniaeth.

"Does neb yn casáu unrhyw beth fwy na bod yn wahanol. Ro'n i'n aml yn jocian bod siarc wedi fy mrathu," meddai.

Yn 17 oed cafodd Emily ei rhyddhau gan y gwasanaeth iechyd. Ni chafodd hi erioed gynnig triniaeth ar gyfer ei chreithiau.

Summer Rose-Dorland
Disgrifiad o’r llun,

Mae Summer Rose-Dorland yn arbenigydd i'r sefydliad dielw CleftInject

Roedd Emily yn teimlo ei bod hi "allan yna heb unrhyw help" pan ddywedodd y GIG nad oedden nhw am ei gweld hi mwyach.

"Pan o'n i'n iau ro'n i'n gweld y bobl 'ma oedd i gyd yn edrych yn berffaith ac yn edrych yr un fath, a do'n i ddim.

"Ro'n i'n teimlo bod angen i mi wneud rhywbeth er mwyn bod yn fwy tebyg i'r bobl yna."

Roedd Emily yn chwilfrydig ynglŷn â thriniaethau esthetig ac roedd hi'n meddwl y gallen nhw helpu i roi hwb i'w hyder ac i deimlo'n "normal".

"Fi'n credu y byddai mwy o bobl yn dewis cael y driniaeth os byddai mwy yn gwybod mwy amdani," meddai.

Gwefusau EmilyFfynhonnell y llun, Summer Rose Dorland
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emily ei hapwyntiad cyntaf gyda Summer ym mis Rhagfyr y llynedd

Roedd Emily yn teimlo nad oedd digon o ymarferwyr yng Nghymru yn cynnig triniaethau ar gyfer ei chreithiau, ond daeth hi ar draws Summer Rose-Dorland sy'n rhedeg clinig yn Ngwlad yr Haf.

Mae Summer yn arbenigydd i'r sefydliad dielw CleftInject ac mae hi eisiau magu hyder y rheiny sydd â chreithiau.

"Mae nifer o fy nghleientiaid yn cael trafferth delio gyda'u craith.

"Dwi'n cael negeseuon gan bobl sy'n dweud bod rhaid iddyn nhw sefyll a'u hochr yn wynebu ymlaen mewn lluniau, neu wrth siarad â rhywun."

Esboniodd Summer ei bod yn credu mai'r prif reswm bod pobl weithiau'n dewis ymarferydd esthetig yn hytrach na'r GIG, ydy eu bod yn gwrando ar sut mae'r cleient eisiau i'w gwefusau edrych.

"Weithiau gyda'r GIG, mae o fwy am ganolbwyntio ar drwsio'r graith gyda llenwad yn unig, yn hytrach na sicrhau'r canlyniad y mae'r unigolyn wirioneddol ei eisiau."

Amber Dorgan/Emily EvansFfynhonnell y llun, Amber Dorgan/Emily Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy yn cytuno y byddai gweld mwy o bobl â gwefus hollt yn helpu eraill

Dydi rheoleiddio'r diwydiant esthetig ddim yn ddu a gwyn ac mae rhai meddygon o'r farn na ddylai ymarferwyr esthetig fel Summer gael eu caniatáu i gynnig a gweithredu'r triniaethau.

Dywedodd Summer nad ydy hi'n feddyg "a dwi'n cefnogi cael rheoleiddio, gan 'mod i'n credu, yn gyffredinol, bod angen hynny ar y diwydiant.

"Mae rhai pobl allan yna sy'n gwneud pethau eithaf brawychus, ond dydw i ddim yn meddwl y dylai pobl sydd ddim yn feddygon gael eu gwahardd rhag ymarfer."

Mae Summer yn adnewyddu ei hyfforddiant a'i thystysgrifau yn rheolaidd.

'Dewisiadau diogel'

Mae Neil Brierley yn ymgynghorydd mewn llawfeddygaeth blastig a thrin holltau ac mae'n credu ei bod hi'n bwysig fod pobl sydd hefo hollt, neu sydd ag anwyliaid sydd hefo hollt, yn cysylltu â thimau'r GIG, gan fod y GIG yn darparu cefnogaeth a gofal gydol oes i'r rhai sy'n cael eu heffeithio.

"Mae hyn yn cael ei wneud mewn modd amlddisgyblaethol, sy'n golygu y gallwn ni drin nid yn unig unrhyw broblemau corfforol a allai fod yn bresennol, ond hefyd agweddau eraill ar eu gofal.

"Gall y GIG gynnig yr ystod lawn o opsiynau triniaeth a bydd yn helpu - mewn ffordd ddiduedd - i gyrraedd penderfyniad priodol ar y cyd â'r unigolyn sy'n ceisio cymorth a'r hyn yr ydyn ni'n yn ystyried yr opsiynau gorau a gwaethaf iddyn nhw."

Mae'n credu y dylai cleifion sydd â holltau gael dewisiadau diogel o ran eu gofal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol