Bydd Gwyn Derfel yn gadael ei swydd gyda Chymdeithas BĂȘl-droed Cymru ddiwedd y mis
Mae'r Cymru Premier yn cynnig "gwerth am arian arbennig" ac yn debyg mewn safon i'r hyn a welwch chi ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Dyna farn Gwyn Derfel, a fydd yn gadael ei rĂŽl fel rheolwr cyffredinol prif gynghrair pĂȘl-droed Cymru, Y Cymru Premier JD, ar ddiwedd y mis.
Bydd Mr Derfel yn gadael ei swydd gyda Chymdeithas BĂȘl-droed Cymru wedi bron i 11 mlynedd wrth y llyw.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd ei fod yn siomedig na lwyddodd i "dorri'r tir yr oedd wedi gobeithio ei wneud" o safbwynt cynyddu niferoedd torfeydd y gynghrair.
Ond mynnodd fod y gynghrair yn cynnig "gwerth am arian arbennig ac nad yw'n denu'r torfeydd y mae'r safon yn ei haeddu".
"Gostith ÂŁ8 i chi fynd i wylio gĂȘm yn y Cymru Premier, ac ÂŁ16 i chi fynd i wylio gĂȘm o safon debyg yn Wrecsam," meddai.
'Cyfle gwirioneddol'
Ond mae'n credu bod "cyfle gwirioneddol i'r gĂȘm ddomestig yng Nghymru ddenu mwy o bobl".
Yn ystod cyfnod Mr Derfel, cafodd sawl tĂźm o'r gynghrair rediadau yn Ewrop.
Mae'n cynnwys buddugoliaeth Cei Connah yn erbyn StabĂŠk o brif gynghrair Norwy a'r Seintiau yn trechu Viktoria PlzeĆ o'r Weriniaeth Siec mewn un cymal yn rhai o'i uchafbwyntiau.

Y Seintiau Newydd yw pencampwyr presennol y gynghrair - a'r tĂźm sydd wedi ei hennill y nifer fwyaf o weithiau yn ei hanes
Mae arolwg annibynnol yn digwydd ar hyn o bryd sy'n edrych ar ddyfodol y brif adran.
Wrth edrych yn ĂŽl ar ei gyfnod, dywedodd Mr Derfel fod sefydlu tĂźm Cymru C hefyd yn un o'r uchafbwyntiau.
Fe soniodd hefyd am bwysigrwydd hyrwyddo'r iaith Gymraeg a sut mae "mwy o glybiau'r gynghrair erbyn hyn yn defnyddio'r iaith fwyfwy o ddydd i ddydd a hynny yn naturiol".
Cadarnhaodd Mr Derfel ei fod yn symud ymlaen i swydd newydd yn y maes chwaraeon yng Nghymru.
Ond doedd ddim mewn sefyllfa i gadarnhau ble na beth oedd ei swydd newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022

- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2017

- Cyhoeddwyd20 Awst 2015
