Dyn yn ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed

Eleanor BarnfieldFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Eleanor Barnfield yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr

  • Cyhoeddwyd

Mae Clifford Foster, 61 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddio Eleanor Barnfield, 47 oed.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 12:43 ddydd Llun, 19 Hydref, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad car.

Cafodd Eleanor, a oedd yn gyrru'r car, ei chludo i'r ysbyty ar ôl i'r heddlu ganfod bod ganddi anafiadau nad oeddent yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad. Bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Cafodd Clifford Foster ei arestio y diwrnod canlynol yng nghanolfan dai i bobl hŷn Ger-y-Nant, yn agos at leoliad y gwrthdrawiad. Roedd yn byw yno, ac roedd Eleanor yn gweithio yno.

Ymddangosodd Foster yn Llys y Goron Caerdydd, lle cadarnhaodd ei enw, ei oedran a'i gyfeiriad yn unig.

Mewn teyrnged i Eleanor, disgrifiodd ei theulu hi fel "y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd".

Dywedon nhw mai hi oedd "popeth i ni", gan ychwanegu y byddai ei theulu a'i ffrindiau'n ei charu ac yn ei cholli'n fawr am byth.

Mae Foster yn parhau yn y ddalfa. Mae gwrandawiad i gyflwyno ple wedi'i drefnu ar gyfer 23 Tachwedd, ac mae dyddiad dros dro yr achos wedi'i bennu ar gyfer 12 Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.