Artist Cymreig yn rhif un siartiau senglau y DU am y tro cyntaf ers 15 mlynedd

Jamie Miller yw'r artist Cymreig cyntaf i gyrraedd brig siartiau senglau'r DU ers 15 mlynedd, a'r Cymro cyntaf ers 41 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Jamie Miller o Gaerdydd wedi cyrraedd rhif un yn siartiau senglau'r DU – yr artist Cymreig cyntaf ers 15 mlynedd.
Daw ei lwyddiant gyda Babydoll wedi blynyddoedd o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth a dim ond misoedd wedi iddo ystyried rhoi'r gorau i'w yrfa.
Ond diolch i wefannau cymdeithasol daeth ei gân yn boblogaidd dros yr wythnosau diwethaf ac mae nawr wedi cyrraedd rhif un.
Eglurodd Jamie fod yr holl beth "ddim yn teimlo'n wir".
Dywedodd y cyflwynydd Bethan Elfyn bod ei stori'n dangos pa mor anodd yw cael llwyddiant yn y diwydiant cerddoriaeth.
'Gwireddu fy mreuddwydion'
Esboniodd Jamie wrth BBC Cymru nad oedd yn teimlo unrhyw beth ar hyn o bryd: "Dwi'n teimlo dim byd ar y funud, dwi'n teimlo'n normal. Dim byd o gwbl.
"Dwi o Bontprennau ac mae e'n teimlo'n rhyfedd i wireddu fy mreuddwydion.
"Does dim yn teimlo'n wir. Dwi'n ceisio byw i'r eiliad ond mae e'r peth mwya' gwallgof trio gwneud hynny pan mae dy holl freuddwydion di'n dod yn wir mewn bwlch o wyth i 12 wythnos.
"Doeddwn i byth yn fy mywyd yn disgwyl rhif un, byth. Dwi erioed wedi bod ar y siartiau o'r blaen, felly i gael hyn nawr, mae'n wallgof."
Ei gyngor i gerddorion eraill yng Nghymru oedd i beidio â phoeni am ble y maen nhw'n byw: "Os oes gennych chi ffôn, dyna eich tocyn i lwyddiant.
"Os nad ydych chi'n coelio ynoch chi eich hunain, bydd neb arall chwaith."

Jamie Miller gyda'r actor Antonio Cipriano (ar y dde) - fe wnaeth y ddau recordio fersiwn o Babydoll gyda'i gilydd yn ddiweddar
Yn wreiddiol o Bontprennau, yng Nghaerdydd, fe ymddangosodd Jamie Miller ar raglen The Voice yn 2017 pan oedd o'n 19 oed, gan ddod yn drydydd.
Aeth i'r UDA i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth, gan arwyddo i Atlantic Records a rhyddhau sawl cân, cyn symud i label BMG.
Mewn cyfweliad blaenorol gyda BBC Cymru, dywedodd Jamie Miller bod ei dad yn gyrru tacsi Uber yng Nghaerdydd.
Dywedodd y cyflwynydd Bethan Elfyn ei bod hi'n edmygu dyfalbarhad yr artist.
"Mae popeth am y stori yn deud bod y llwyddiant wedi digwydd dros nos ond roedd The Voice yn 2017 a hyd yn oed Tom Jones ddim wedi troi'r gadair mae'n debyg," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Roedd band arall Cymraeg ar yr un rhaglen - Into the Arc - a dwi'n cofio gweld nhw yn mynd o gwmpas yn gwneud taith ac roedd Tom hyd yn oed yn cefnogi'r artistiaid yna, sef dau fachgen ifanc o'r Cymoedd. Mae'n dangos gymaint o waith sy'n mynd fewn i'r byd pop.
"Roedd Jamie Miller wedi mynd i America bryd hynny ac wedi bod yn sgwennu ac yn gweithio ar y grefft o greu'r cerddoriaeth pop ers hynny.
"Dwi jest yn teimlo dyma lun perffaith o faint o waith yw e tu ôl y llen o greu cerddoriaeth pop. Mae pethe'n edrych yn rhwydd a pethe'n edrych yn glossy a sgleiniog ond mewn gwirionedd mae'r resilience sydd ei angen yn dipyn o waith."
Cymro cyntaf ers Shakin' Stevens i gyrraedd y brig
Fe wnaeth Babydoll fynd i frig y siartiau ar 23 Hydref yn ôl The Official Charts Company.
Jamie Miller yw'r artist cyntaf o Gymru i ddod i'r brig ers 2011 pan wnaeth Sian Evans ganu ar Louder gan DJ Fresh. Fo ydi'r Cymro cyntaf i fynd i rif un ers Shakin' Stevens gyda Merry Christmas Everyone.
Fe gafodd Babydoll ei ryddhau ar 7 Awst 2026 ac fe aeth yn feiral wedi i'r actores Jennifer Love Hewitt bostio fideo oedd yn defnyddio'r trac.
Ychydig fisoedd cyn hynny roedd wedi meddwl rhoi'r gorau i gerddoriaeth.

Mae Cordia wedi manteisio ar blatfformau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfa newydd meddai Ffion Elin Davies o'r grŵp (yn y canol)
Yn ôl Ffion Elin Davies o'r band Cordia mae ei stori yn dangos sut all artistiaid fanteisio o blatfformau fel TikTok.
"Do'n i erioed wedi clywed am Jamie Miller o'r blaen a dwi'n meddwl bod pawb rŵan yn gwybod sut i wneud y ddawns a 'di clywed Babydoll," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Felly mae'n dangos pa mor bwysig ydy'r cyfryngau cymdeithasol y dyddia' yma i adeiladu artistiaid a chwythu fyny cân fel mae Babydoll wedi neud ar gyfryngau cymdeithasol pawb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.