Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae (o'r chwith) Euros Davies, Rhydian Davies a Delyth Mathias wedi eu cael yn ddieuog
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon ar ôl i'r erlyniad benderfynu peidio â chyflwyno tystiolaeth yn eu herbyn.
Mae un o'r tri, Euros Davies, 61 oed o Gwmsychpant, yn gynghorydd annibynnol yng Ngheredigion ac yn cynrychioli ardal Llanwenog.
Cyngor Sir Ceredigion oedd yn gyfrifol am yr erlyniad ac roedd yr ymchwiliad wedi ei arwain gan y tîm safonau masnach.
Roedd Mr Davies ynghyd â Rhydian Davies, 29 oed o Bren-gwyn ger Llandysul, a Delyth Mathias, 30 oed o Gaerdydd, wedi pledio yn ddieuog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn mewn gwrandawiad blaenorol.
Dywedodd Owen Edwards KC, ar ran Cyngor Sir Ceredigion, wrth y llys bod yr erlyniad wedi "ystyried yn ofalus" y dystiolaeth yn erbyn y tri, ond wedi penderfynu peidio â chynnig unrhyw dystiolaeth yn eu herbyn. Fe gafwyd y tri felly yn ddieuog gan y Barnwr Huw Rees.
Doedd y Cynghorydd Davies ddim am wneud unrhyw sylw wrth adael y llys, ond roedd mam Delyth Mathias, Eryl, yn feirniadol iawn o'r penderfyniad i ddwyn achos yn erbyn ei merch a'r effaith arni ac ar y teulu.
Mewn datganiad dywedodd y cyngor bod yr awdurdod wedi "ystyried y cyngor cyfreithiol a gafwyd yn ofalus", wedi cynnal adolygiad pellach ac wedi penderfynu peidio â chynnig unrhyw dystiolaeth mewn perthynas â thri o'r diffynyddion.

Bydd Sara Davies (chwith) yn wynebu achos ym mis Tachwedd, tra bod Rebecca Bailey wedi pledio'n euog i gyhuddiad ddydd Mercher
Fe blediodd Rebecca Ellen Bailey, 31 oed, o Langrannog, yn euog i gyhuddiad o ddarparu gwybodaeth ffug am naw o gŵn bach Dachshund ym Milfeddygfa Castle House yng Nghastellnewydd Emlyn. Mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu cyn y flwyddyn newydd.
Fe fydd cyn-enillydd Cân i Gymru, Sara Pritchard Davies, 29 oed, yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Abertawe ar 9 Tachwedd.
Mae hi wedi pledio yn ddieuog i gyhuddiad o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon. Mae disgwyl i'r achos bara tua pedair wythnos.

Mae Thomas John Jones eisoes wedi cyfaddef cyhuddiadau yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon a thwyll
Fe blediodd Thomas John Jones, 28 oed, o Brengwyn ger Llandysul, yn euog i gyhuddiadau yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon a thwyll ym mis Rhagfyr 2025.
Dywedodd y bargyfreithiwr Owen Edwards KC fod y busnes "gwerth tua £1m".
Mae Nerys Davies, 56 oed o Benrhiwllan, hefyd wedi pledio yn euog i gyhuddiadau yn ymwneud â bod yn rhan o fusnes twyllodrus sef bridio cŵn yn anghyfreithlon.
Clywodd y llys ei bod hi wedi darparu 72 o gŵn i fusnes Jones.
Fe dderbyniodd tri unigolyn arall sef Peter Jones, Cara Barrett a David Bethell rybudd ffurfiol am eu rhan yn yr achos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2025
