'Doedd hi ddim i fod' i Pwyll, ond gobaith herio Littler eto yn y dyfodol?

Disgrifiad,

'Doedd hi ddim i fod', ond mae Pwyll Edwards yn gobeithio cael cyfle arall i herio Luke Littler y flwyddyn nesaf

GanGwen Aeron
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymro fu'n rhan o raglen Netflix i chwaraewyr dartiau amatur herio pencampwr y byd yn dweud ei fod yn brofiad "swreal" ac yn un y mae wedi mwynhau pob eiliad ohono.

Er na chafodd Pwyll Edwards y cyfle i herio Luke Littler oherwydd fformat y rhaglen, mae'n dweud bod cymryd rhan yn brofiad na fydd byth yn ei anghofio.

Roedd Pwyll, 34 o Lanuwchllyn, yn un o 20 o chwaraewyr amatur a lwyddodd i sicrhau lle yn y digwyddiad byw, Beat Luke Littler, ar Netflix ar 30 Hydref.

Roedd y gystadleuaeth yn cynnig gwobr o £501,000 i unrhyw un a allai drechu'r pencampwr dartiau mewn un cymal o 501.

Ond ni chafodd Pwyll y cyfle i gamu ar y llwyfan yn y pendraw, ar ôl i chwaraewr arall, Fallon Sherrock, lwyddo i guro Littler a hawlio'r wobr cyn tro'r Cymro.

PwyllFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Er bod sawl poster yn dweud "Pwyll from Bala", mae Pwyll yn mynnu: "Llanuwchllyn dwi drwyddi draw, a dim Bala!"

"Fel na mae'n mynd efo cystadlaethau, a chwarae teg i Fallon Sherrock, nath hi gymryd ei chyfle", meddai ar Dros Frecwast.

"A ia, ges i ddim tro, ond dyna ni, doedd o ddim i fod ond oedd o'n brofiad anhygoel wedi'r cyfan."

'Profiad swreal'

Dywedodd Pwyll fod y digwyddiad cyfan wedi bod yn brofiad anghyffredin, gyda chyfle i gwrdd â Littler cyn y gystadleuaeth.

"Oedd o'n brofiad swreal. Nathon nhw gymryd fi i dop adeilad enfawr ym Manceinion i gael lluniau efo Luke Littler, ac ie, wedyn nathon nhw projectio ni ar adeilad enfawr," meddai.

"Oedd o'n brofiad anhygoel, deud y gwir."

CefnogwyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na gefnogaeth i Pwyll ym Manceinion nos Wener

Roedd y cystadleuwyr wedi cael eu rhannu'n bedwar grŵp yn ôl eu gallu. Roedd Pwyll ymhlith y chwaraewyr oedd yn dal i aros am eu cyfle i wynebu Littler pan sicrhaodd Fallon Sherrock y fuddugoliaeth.

"Dyna ni, fel 'na mae pethe'n mynd. Dwi wedi mwynhau bob eiliad ohono fo, bob eiliad," meddai.

"O bosib falle bod y pump oedd yn weddill oedd ddim wedi cael y cyfle, falle y cawn ni'r cyfle flwyddyn nesa', ond pwy a ŵyr?"

'Hen Wlad Fy Nhadau' a baneri Cymru

Un o'r uchafbwyntiau i Pwyll oedd cael cynrychioli Cymru ar lwyfan mor fawr.

Roedd wedi dweud cyn y digwyddiad ei fod yn gobeithio cario'r iaith Gymraeg a chwifio'r Ddraig Goch, ac roedd y trefniadau ar gyfer ei ymddangosiad yn gyfle i wneud hynny.

"Nathon ni ymarfer y walk-on, felly ges i 'Hen Wlad Fy Nhadau' a baneri ym mhob man," meddai.

PwyllFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pwyll gyda Fallon Sherrock (dde), a aeth ymlaen i ennill y wobr o £501,000

Cafodd hefyd gyfle i chwarae yn erbyn y chwaraewr proffesiynol Colin Osborne.

"Methes i bum dart o'i guro o, felly o'n i'n gwybod bod fy ngêm i yna, ond pwy a ŵyr!"

Er bod y profiad unigryw hwnnw bellach drosodd, mae'n dweud ei bod hi'n bryd mynd yn ôl at fywyd bob dydd.

"Yn anffodus, nôl ar yr hen ordd i ffensio fel o'n i wedi ofni, ond dydy o ddim yn ddrwg o beth - o leiaf ga'i ymarfer corff!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig