Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Plant yn dal placardiau fel rhan o brotest yn erbyn cau ysgolion yn Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrch frwd i geisio achub Ysgol Bancffosfelen ers i'r cyngor awgrymu bod yna bosibilrwydd o'i chau

GanSara Dafydd
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal i benderfynu ar ddyfodol pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr.

Fe bleidleisiodd aelodau cabinet y cyngor yn unfrydol i fwrw ymlaen ag ymghynghoriad statudol mewn cysylltiad ag ysgolion Blaenau, Pontiets, Carwe a Bancffosfelen.

Roedd Pwyllgor Craffu Addysg y cyngor wedi argymell symud ymlaen â'r broses fis Hydref yn sgil pryderon ynghylch niferoedd isel o ddisgyblion, diffygion ariannol a chyflwr adeiladau rhai o'r ysgolion.

Mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin ddydd Llun, fe rybuddiodd yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am faterion addysg bod dyled yr awdurdod "yn anferthol" ac yn anghynaliadwy.

Dywedodd y cabinet y byddan nhw'n ystyried oedi cau'r ysgolion tan ddiwedd tymor yr haf, "yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol".

Yn ôl Glynog Davies, yr aelod cabinet dros addysg, mae dyled ysgolion Sir Gâr oddeutu £9m, ac fe allai gyrraedd £16m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf.

"Mae'r ddyled yn anferthol a ddim yn gynaliadwy," meddai.

Ychwanegodd bod angen edrych ar yr adeiladau a chyflwr yr adeiladau, gan eu bod yn "hen iawn ac yn ddiffygiol".

Ysgol Gynradd BlaenauFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond pedwar disgybl sy'n byw yn nalgylch Ysgol Blaenau

Wrth drafod Ysgol Blaenau ger Llandybie dywedodd Mr Davies fod 21 o blant wedi cofrestru yno tra bod lle i 98.

Mae gan Ysgol Blaenau 70 o lefydd gwag, ac mae ei diffyg ariannol yn £362,566.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Thomas fod y bwlch ariannol wedi casglu "dros gyfnod o 15 mlynedd", gan ychwanegu: "Mae'r disgyblion a staff yn haeddu gwell."

Ysgol Pontiets
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffyg ariannol yn achos Ysgol Pontiets dros £80,000

Yn Ysgol Pontiets, mae 16 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, sydd â chapasiti o 83, ac mae ganddi ddiffyg ariannol o £80,469.

Dywedodd y Cynghorydd Alex Evans fod gwybodaeth yn yr adroddiad yn "gamarweiniol".

"Mae rhieni yn haeddu gwybodaeth clir a chywir cyn gofyn iddyn nhw wneud penderfynaid ar ddyfodol ysgol eu plant," meddai.

Gofynnodd i'r cabinet i ohirio'r broses.

Ysgol CarweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae adeilad Ysgol Carwe ar gau ers Medi 2025 am resymau iechyd a diogelwch ac mae'r plant yn cael eu haddysg mewn ysgol arall ym Mhontiets

Mae 58 o blant ar gofrestr Ysgol Carwe, ond mae 120 o blant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol yn mynychu ysgolion eraill.

Mae adeilad Ysgol Carwe ar gau ers Medi 2025 oherwydd problemau iechyd a diogelwch, ac mae'r disgyblion wedi bod yn mynychu Ysgol Gwynfryn ym Mhontiets.

"Ar gais yr ysgol wnaethon ni wrando, a symud y plant i Ysgol Gwynfryn," dywedodd Glynog Davies, gan ychwanegu y byddai'n rhaid gwario dros £2m i ailagor Ysgol Carwe.

Gofynnodd y Cynghorydd Meinir James beth fyddai'r effaith ar y Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth petai Ysgol Carwe yn cau, sydd llai na dwy filltir o Ysgol Pontiets.

Cyfeiriodd Mr Davies ar "heriau ehangach", gan gynnwys gostyngiad yn niferoedd disgyblion.

"Nad yw'r penderfyniad ger ein bron heddiw yn benderfyniad i gau o gwbl, ond i ymghynghori'n ffurfiol."

Ysgol Bancffoselen
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr rhai o'r adeiladau ar safle Ysgol Bancffosfelen yn destun pryder mawr

Dywedodd Mr Davies fod yna "broblemau dyrbryd" ar safle Ysgol Bancffosfelen.

Mae "rhai o'r adeiladau wedi'u condemio" ac fe allai gwaith atgyweirio gostio "£700,000".

Awgrymodd y Cynghorydd Liam Bowen bod y ffigwr yna'n "anghywir".

Mae 51 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen ond capasiti ar gyfer 98 o blant.

Bydd dyled yr ysgol dros £107,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, yn ôl Glynog Davies.

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn bryderus am safon y dysgu, dwi ddim yn poeni am yr arweinyddiaeth, ond dwi yn poeni am safon yr adeiladau."

Rhai o'r protestwyr cyn cyfarfod aelodau cabinet y cyngor sir ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r protestwyr y tu allan i neuadd y sir yng Nghaerfyrddin ddydd Llun cyn cyfarfod yr aelodau cabinet

Yn ôl y Cynghorydd Liam Bowen mae "sefyllfa Ysgol y Banc yn wahanol" wrth i'r ysgol dyfu.

Dywedodd wrth y cabinet: "Alla'i ddim fynegi faint dwi wedi digalonni gyda'r diffyg parodrwydd i drafod."

Cyfeiriodd at "gamsyniadau" yn y papur gwreiddiol ynglŷn â chost dymchwel yr adeiladau.

Pleidleisiodd yr aelodau'n unfrydol i ymghynghori ar ddyfodol y pedair ysgol, rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig