Welsoch chi'r wrach yn hwylio ar Foryd Caernarfon?

Sherril Buckles ar y dŵrFfynhonnell y llun, Sherril Buckles
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Os oeddech chi'n mwynhau peint yng ngardd gwrw'r Anglesey Arms nos Sadwrn, efallai i chi amau eich llygaid eich hun am eiliad.

A hithau'n gyfnos Calan Gaeaf, roedd ffigwr tywyll, brawychus yn arnofio'n llechwriadd ar draws dyfroedd tawel y Fenai - fel pe bai gwrach wedi cyfnewid ei hysgub am rwyf.

Ond cyn i unrhyw un ymgynghori â hen gofnodion treialon gwrachod Caernarfon, nid syrthio o dan felltith a wnaeth tre'r Cofis.

Dynes o'r enw Sherril Buckles oedd ar y dŵr, wedi penderfynu mynd i 'ysbryd' yr ŵyl drwy wisgo fel gwrach ac anelu am y Foryd ar ei phadl-fwrdd.

Gyda'r haul yn machlud yn ddramatig yn y cefndir, roedd yr olygfa'n un trawiadol. Gallwch weld y foment hudolus (a dychrynllyd!) yn y fideo isod.

Disgrifiad,

Gwrach yn padl-fyrddio i lawr y Foryd!

(Hawlfraint fideo: Hopola Wellness)

I Sherril, hyfforddwraig padl-fyrddio o'r Wirral sy'n treulio'i hafau ar ei chwch yng Nghaernarfon, syniad munud olaf oedd y cyfan.

"Roedd fy mwrdd a'r wisg eisoes yn y fan o'r diwrnod cynt. Pan welais pa mor berffaith oedd y tywydd a'r golau, meddyliais: 'A i am dro ac i gael selfie bach y tu allan i'r castell!'"

Roedd yr amodau'n berffaith i Sherril, sy'n hyfforddwraig padl-fyrddio proffesiynol, i fynd ar y dŵr ger y castellFfynhonnell y llun, Sherril Buckles
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr amodau'n berffaith i Sherril, sy'n hyfforddwraig padl-fyrddio proffesiynol, i fynd ar y dŵr ger y castell

Ond wrth iddi badlo heibio'r Anglesey Arms, fe ddenodd Sherril dipyn o sylw gan gwsmeriaid y dafarn.

Meddai: "Pan badlais heibio'r Anglesey, daeth pawb i'r wal a dechrau curo dwylo a chefnogi! Ac roedd plant bach yn chwifio ar y bont. Mae gen i wyrion fy hun, ac mae gweld y wên ar wynebau'r plant yn rhoi hwb i bawb."

Sherill ar ei phadl-fwrdd, gyda thafarn yr Anglesey yn y cefndirFfynhonnell y llun, Sherrill Buckles
Disgrifiad o’r llun,

Sherill ar ei phadl-fwrdd, gyda thafarn yr Anglesey yn y cefndir

Er gwaethaf yr hwyl a'r wisg ffansi, mae Sherril yn benderfynol o bwysleisio bod diogelwch ar y dŵr yn flaenoriaeth llwyr – yn enwedig mewn dyfroedd fel y Fenai sy'n gallu bod yn dwyllodrus iawn.

"Roedd gen i siaced achub slimline o dan fy ngwisg gwrach," eglurodd Sherril. "Fel hyfforddwraig broffesiynol, mae diogelwch yn hollbwysig i mi.

"Roedd yr amodau'n berffaith ac roeddwn i'n cadw i'r sianel ddyfnach. Fyswn i ddim eisiau i bobl feddwl eu bod yn gallu mynd allan heb brofiad neu heb offer diogelwch dim ond i gael selfie."

Roedd golau'r cyfnos yn creu delwedd trawiadol iawn wrth i Sherril badl-fyrddioFfynhonnell y llun, Sherril Buckles
Disgrifiad o’r llun,

Roedd golau'r cyfnos yn creu delwedd trawiadol iawn wrth i Sherril badl-fyrddio

Erbyn hyn, mae fideo o'r 'wrach ar y Fenai' wedi mynd yn 'feiral' ar y cyfryngau cymdeithasol gyda degau o filoedd o bobl wedi ei wylio.

Meddai: "Dywedodd fy llysfab wrtha'i fod y fideo wedi cael dros 24,000 o views! Meddyliais: 'O ble ddaeth y rhain i gyd? Does gen i ddim gymaint o ffrindiau â hynny ar Facebook!

"Ond os yw'n rhoi gwên ar wyneb pobl ac yn eu hysbrydoli i fynd allan yn ddiogel i fwynhau natur, dyna'r peth pwysicaf."

Tybed a fydd Siôn Corn neu Gwningen y Pasg yn gwneud ymddangosiad yn yr ardal yn y misoedd i ddod?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol