Protestio 'blin' yn erbyn cynllun i ad-drefnu ysbytai cymunedol Powys

Mae tua 100 o bobl wedi cymryd mewn protest yn erbyn cynlluniau Bwrdd Iechyd Powys yn Llanidloes
- Cyhoeddwyd
Mae tua 100 o bobl wedi cymryd rhan mewn protest yn Llanidloes, gan gyflwyno cerdyn coch i Fwrdd Iechyd Powys mewn digwyddiad ymgynghori i drafod torri gwelyau mewn dros hanner ysbytai cymunedol y sir.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu beirniadu'n llym, wrth i gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus am ddyfodol gwasanaethau iechyd y sir dynnu sylw at bryderon lleol.
Roedd digwyddiadau galw heibio yn cael eu cynnal yn Llanidloes ddydd Mawrth, yn dilyn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus mewn rhannau eraill o Bowys i drafod cynlluniau'r bwrdd iechyd.
Byddai'r cynigion yn golygu lleihau nifer y gwelyau cleifion mewnol o 146 i naill ai 90 neu 60, gyda gwasanaethau'n cael eu canoli mewn dim ond dau neu dri o wyth ysbyty cymunedol y sir.
Protest yn Llanidloes yn erbyn torri gwelyau ysbyty ym Mhowys
Mae hynny'n golygu y gallai wardiau cleifion mewnol gau yn y Drenewydd, Machynlleth, Ystradgynlais a Llanidloes, a gallai Llandrindod hefyd golli ei gwelyau o dan yr opsiwn mwyaf pellgyrhaeddol.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud bod angen y newidiadau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel ac yn gynaliadwy, gan ddadlau bod y model presennol yn mynd yn fwyfwy anodd ei staffio a'i ddarparu ar draws sir mor eang.
Ond mae'r cynigion eisoes wedi wynebu gwrthwynebiad gan feddygon teulu, gwleidyddion a chymunedau, sy'n poeni am yr effaith ar boblogaeth sy'n heneiddio.

"Ma' 'na bobl mewn oed yma a fedran nhw ddim mynd i Drenewydd a Trallwng," meddai Janis Short
Ym mis Awst, mynychodd mwy na 400 o bobl gyfarfod cyhoeddus yn Llanidloes i wrthwynebu cau gwelyau mewn ysbyty cymunedol yn y dref.
Roedd cyfarfod galw heibio yn cael ei gynnal yn Llanidloes ddydd Mawrth, yn dilyn nifer o gyfarfodydd cyhoeddus mewn rhannau eraill o Bowys i drafod cynlluniau'r bwrdd iechyd.
Dywedodd Janis Short, sy'n gweithio yn yr ysbyty cymunedol yn Llanidloes, ei bod "wedi gweithio yn yr ysbyty fan hyn am dros 30 o flynyddoedd 'efo gwasanaeth physiotherapi a dwi'n gwybod pa mor bwysig ydy petha' fel 'na yn yr ardal".
"Dwi'n gwybod fod pobl methu cael triniaeth rŵan a dwi just yn meddwl 'dan ni angen yr ysbyty yma fan hyn, 'dan ni angen y gwasanaethau fan hyn, ma' 'na bobl mewn oed yma a fedran nhw ddim mynd i'r Drenewydd a Trallwng.
"Mae o'n neud fi'n flin, mewn amser fyddai mewn oed a be' sy'n mynd i ddigwydd?"

Dywedodd Dafydd Evans nad yw'n "teimlo'n hapus o gwbl am y syniad o wneud i ffwrdd â'r gwelyau yn yr ysbytai"
Mae gan Bowys un o'r poblogaethau hynaf yng Nghymru, gyda mwy na chwarter y trigolion dros 65 oed.
Mae'r bwrdd iechyd yn amcangyfrif y gallai'r amser teithio cyfartalog i gael gofal fel claf mewnol, gynyddu o tua 12 munud i 24 o dan y cynigion.
Ond i'r rhai sy'n byw bellaf o ysbytai, gallai'r daith gymryd mwy na thri chwarter awr bob ffordd.
Mae'r posibilrwydd o golli cyfleusterau lleol i gleifion mewnol yn peri pryder i gleifion a'u teuluoedd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig lle gallai fod angen teithio cryn bellter i gael mynediad at wasanaethau.
'Teimladau cryf yn erbyn'
Dywedodd Dafydd Evans o Fachynlleth nad yw'n "teimlo'n hapus o gwbl am y syniad o wneud i ffwrdd â'r gwelyau yn yr ysbytai".
"Dwi ddim yn gweld sut mae'r bwrdd iechyd yn edrych ar ddarparu gwasanaeth digonol yn y cartref, yn enwedig wrth i bobl ddod allan o'r ysbytai mwy.
"Mae 'na deimladau cryf yn erbyn beth maen nhw eisiau 'neud. Mae pob cynghorydd sir ym Mhowys wedi pleidleisio yn erbyn hyn."
Ychwanegodd Mr Evans fod yno "gryfder teimladau mewn cymunedau ar draws y sir".
"Mae'n golygu colli swyddi. Alla' i ddim coelio bod beth maen nhw'n bwriadu gwneud - trwy roi mwy o ofal yn y cartref - weithio yn well na chael ward gyda gwlâu mewn ysbyty, lle mae'r cleifion i gyd gyda'i gilydd mewn un lle.
"Mae'n anodd iawn mewn ardal wledig i gael digon o staff i fynd rownd i gartrefi pobl a rhoi gwasanaeth digonol."

Mae rhaglen 'Gwella Gyda'n Gilydd' y bwrdd iechyd hefyd yn cynnwys cynigion i ad-drefnu gwasanaethau gofal brys.
Byddai un opsiwn yn sefydlu canolfannau gofal brys yn Aberhonddu a'r Drenewydd, ochr yn ochr ag uned mân anafiadau yn Llandrindod. Byddai pob un yn gweithredu rhwng 08:00 ac 20:00, saith diwrnod yr wythnos.
Byddai ail opsiwn yn darparu dwy ganolfan gofal brys yn Aberhonddu a'r Drenewydd.
Mae yna hefyd gynlluniau i ddod â holl wasanaethau mewnol ar gyfer iechyd meddwl oedolion at ei gilydd mewn un lleoliad - naill ai Ysbyty Bronllys neu safle newydd yn ardal Bronllys ac Aberhonddu - ochr yn ochr ag ehangu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.
Mae Bwrdd Iechyd Powys yn dweud bod y drafodaeth yn ymateb i'r "heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys, gan gynnwys y galw cynyddol, pwysau ar y gweithlu a'r angen i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y Bwrdd Iechyd yn dod i ben ar 10 Ionawr 2027. Os eu cymeradwyo, byddai newidiadau yn cael eu cyflwyno dros nifer o flynyddoedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf

