'Ges i fy ysbrydoli i baentio gan ddiwylliant celf Casnewydd'

Hunan-bortread o Jamie Routley
- Cyhoeddwyd
Y dyddiau yma, mae Jamie Routley yn arlunydd portreadau llwyddiannus, sydd â phaentiadau i'w gweld ledled y byd, gan gynnwys yn Lord's, o chwaraewyr criced Lloegr, Jimmy Anderson a Stuart Broad.
Ond cafodd ei flas cyntaf o arlunio yn ôl adref yng Nghasnewydd lle cafodd ei fagu, gydag ymweliadau rheolaidd i amgueddfa'r ddinas yn ei ysbrydoli i roi brws ar gynfas.
Dylanwad artistiaid y ddinas
Gyda'i dad yn gweithio yn y dociau a'i fam mewn siop, doedd gan Jamie ddim syniad fod gweithio fel artist yn bosib. Ond newidiodd hynny pan oedd tua 14 oed, ar daith i Paris gydag Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
"Do'n i erioed wedi bod i oriel o'r blaen, ac aethon ni i'r Musée d'Orsay, a newidiodd hynny fy mywyd.
"O'n i wastad wedi bod yn dda yn tynnu llun, paentio, copïo pethau. Ond roedd bod o flaen paentiadau oedd yn gwneud i mi feddwl, o'n i'n cael ymateb naturiol iddyn nhw, yn addictive iawn.
"Do'n i ddim wir wedi meddwl am baentio o ran y profiad a'r hyn y medri di ei gyfathrebu gyda'r gynulleidfa."
Aeth ymlaen i gael cyfnod o brofiad gwaith gydag "un o'r bobl bwysicaf" yn ei ddatblygiad cynnar, sef Jan Martin yn Gwent Picture Framing ym Mhilgwenlli. Yno daeth y Jamie ifanc i gysylltiad ag artistiaid go iawn am y tro cyntaf.
"Roedden nhw'n dod â'u gwaith i gael eu fframio ar gyfer arddangosfeydd. Math wahanol o bobl a chymdeithas do'n i erioed wedi dod ar eu traws o'r blaen.
"Gweithio gyda Jan ddangosodd i mi 'galli di wneud hyn – mae hyn yn rhywbeth mae pobl yn ei wneud. Gall hyn fod yn swydd, yn yrfa'.
"Os ti ddim yn gweld rhywbeth, mae'n anodd. Do'n i ddim wedi breuddwydio am fod yn artist, achos do'n i ddim yn gwybod fod hynny'n opsiwn.
"Ro'n i'n ffodus iawn, a dwi wedi aros mewn cysylltiad gyda Jan dros y blynyddoedd. Rhoddodd fy arddangosfa gyntaf yng Nghasnewydd i mi ar ôl treulio blwyddyn yn Yr Eidal, a talodd hynny am yr ail flwyddyn yn astudio tuag at radd yn Florence."

Mae Jamie dal mewn cysylltiad â Jan, a gafodd gymaint o ddylanwad ar ei daith i ddod yn artist
Ynghyd â chefnogaeth unigolion fel Jan, rhoddodd diwylliant celf Casnewydd ei stamp ar uchelgeisiau y cyw-artist hefyd, wrth iddo ddysgu a chael ei ysbrydoli gan y gweithiau oedd i'w gweld yn amgueddfa'r ddinas.
"Byddai ganddyn nhw rhyw 12 agoriad y flwyddyn, a bydden i hefyd yn mynd lond llaw o weithiau yn ystod yr wythnos i eistedd yno i gael ychydig o ysbrydoliaeth, ac i'r llyfrgell i edrych ar unrhyw lyfrau o'n i'n gallu cael gafael arnyn nhw. Dwi ddim yn gwybod beth fydden i wedi ei wneud heb hynny.
"Roedd e'n awyrgylch cyfoethog i mi ei brofi, fel dyn ifanc. Dwi'n meddwl mod i wedi cael fy exposio i lawer mwy na nes i sylweddoli.
"Felly mae hi'n bwysig i gael mynediad at y pethau yma – a mynediad am ddim hefyd, achos does gen ti ddim arian, yr oed yna."

Mae Jamie yn canolbwyntio ar bortreadau y dyddiau yma, ond mae wedi cael ei ddylanwadu gan nifer o fathau gwahanol o baentiadau - nifer ohonyn nhw yn gynnar iawn ar ei daith i ddod yn artist, yn Amgueddfa Casnewydd
Portread ar wal yn Lord's
Ac mae'r profiadau cynnar hynny wedi talu ar eu canfed i Jamie wrth i'w yrfa fynd o nerth i nerth, yn paentio portreadau o bob math o bobl.
Ym mis Awst, cafodd paentiad gan Jamie ei ddadorchuddio yng Nghae Criced Lord's, o'r ddau chwaraewr criced Lloegr, Jimmy Anderson a Stuart Broad.
Roedd y broses, o phan dderbyniodd Jamie y comisiwn i'r paentiad gorffenedig, yn un hir, meddai, gyda naw mis o waith paratoi, ymchwilio a chwrdd â'r ddau gricedwr, cyn tri mis o baentio.
Roedd llygad y byd criced ar lun Jamie, ac roedd pwysau mawr cyhoeddus arno i gynhyrchu paentiad a oedd yn deilwng i ddau o arwyr y gamp.
Yn ffodus, roedd y tîm a gomisiynodd y darlun, ac yn bwysicach na hynny, Jimmy a Stuart, yn hapus gyda'r portread gorffenedig.
"Yr her ydy bod gen ti un cynfas i ddweud rhywbeth penodol am rywun. Felly dwi'n trio glanio ar rywbeth sy'n rhoi syniad gwirioneddol o bwy ydyn nhw i'r gynulleidfa, o ran eu pryd a gwedd, cymeriad, ac os alli di, mynd hyd yn oed yn bellach na hynny.

Y portread o Jimmy Anderson a Stuart Broad yn stiwdio Jamie, yn barod i gael ei gludo i Lord's
"Gyda phobl fel Stuart neu Jimmy, mae 'na lawer o bwysau ar un llun. Maen nhw'n golygu gymaint o bethau gwahanol i gymaint o bobl gwahanol. Gyda phobl cyhoeddus iawn, mae'r pwysau yn fawr achos mae gen ti farn pawb arall yn dy ben di hefyd.
"Wedyn, gyda phortread teuluol, mae'r disgwyliadau yn enfawr, oherwydd dyna wraig rhywun, gŵr rhywun, plentyn rhywun. Does 'na'r un paentiad yn hawdd – efallai ei fod yn llun bach o ben plentyn, ond i rywun, dyna eu holl fyd, y peth mwyaf gwerthfawr.
"Ro'n i'n nerfus yn y dadorchuddio yn Lord's, achos o'dd y bois wedi penderfynu peidio ei weld tan i'r llen ddod i lawr, ond oeddet ti'n gallu ei deimlo fe yn y stafell; rhyddhad hapus.

Jimmy Anderson a Stuart Broad yn dadorchuddio'r portread ohonyn nhw yn y Long Room yn Lord's, sydd yn crogi ochr-yn-ochr â phortreadau o rai o sêr eraill criced Lloegr, dros y blynyddoedd
Does yna'r un cynfas yn gadael stiwdio Jamie heb ei fod yn hapus gyda'r llun terfynol.
Ag yntau'n aelod o'r Royal Society of Portrait Painters, mae eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth ei gyd-aelodau sy'n gweithio yn y maes heddiw. Ond dim hynny sydd o reidrwydd y peth pwysicaf iddo, meddai.
"Dwi'n meddwl fod cael nod gan dy gyfoedion yn bwysig. Ond does yna ddim byd yn bwysicach i mi na fy marn fy hun ynglŷn â beth dwi'n ei wneud. Mae'n rhaid i ti wybod sut wyt ti'n teimlo am y gwaith ti'n ei wneud cyn cael ymateb gan y cyhoedd."
'Casnewydd wedi fy siapio'
Mae gan Jamie bob amser nifer o baentiadau ar y gweill – rhyw 12 ar hyn o bryd, meddai – gyda phob darn yn cymryd rhyw flwyddyn a hanner o drafod, ymchwilio a phaentio. Mae testunau ei bortreadau yn amrywio o'r cyn-chwaraewr pêl-droed Ian Wright i Ddeon Abaty Westminster i blentyn sydd yn byw yn Texas.
Ac mae'r diolch, meddai, i'r profiadau cyntaf hynny a gafodd yng Nghasnewydd yn ei ieuenctid.
"Yn ddiweddar ro'n i'n gweithio ar baentiad, ac roedd o'n fy atgoffa i o rywbeth a do'n i methu meddwl beth. Wedyn, ar ôl trio cofio am wythnosau, 'nes i sylweddoli ei fod yn fy atgoffa i o baentiad o'n i'n arfer mynd i edrych arno o hyd yn Amgueddfa Casnewydd.
"Mae'r lle wedi siapio fy chwaeth i.
"Dwi ddim yn gwybod sut fyddai pethau wedi bod heb yr amgueddfa neu'r llyfrgell. Lle arall fyddwn i wedi ei gael? Alla i ddim wir ddychmygu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd22 Mawrth

