Cyhuddo dyn o lofruddiaeth dynes, 33, ar noson Calan Gaeaf

Ffordd Sant Seiriol
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Heddlu'r Gogledd i gyfeiriad ar Ffordd Sant Seiriol ychydig wedi 20:00 nos Sadwrn

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 36 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth dynes yn Llandudno dros y penwythnos.

Ymddangosodd Christopher Thomas Ellis, sydd heb gyfeiriad parhaol, yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth 3 Tachwedd.

Aeth Heddlu'r Gogledd i gyfeiriad ar Ffordd Sant Seiriol ychydig wedi 20:00 nos Sadwrn 31 Hydref, ar ôl derbyn adroddiad o aflonyddwch.

Cafodd dynes 33 oed ei chanfod yn farw yn yr adeilad.

Yn dilyn hynny, cafodd Mr Ellis ei weld yn agos i Trinity Avenue a'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney fod eu meddyliau gyda ffrindiau a theulu'r ddynes a fu farw.

Apeliodd y llu ar unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 19:00 a 20:30 i gysylltu â nhw, neu unrhyw un oedd allan gyda phlant yn dathlu Calan Gaeaf yn yr ardal.

"O bosib eich bod wedi gweld neu glywed rhywbeth, neu fod gennych ddeunydd o gamera car neu ffôn symudol a allai gynorthwyo ein hymchwiliadau."

Mae Mr Ellis wedi cael ei gadw'n y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.