Pryder am ddyfodol tri safle gofal brys yn dilyn 'cyfuniad o heriau'

Ysbyty Penrhos StanleyFfynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi yn un o'r tair sy'n destun ymgynghoriad ar ei dyfodol

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder yng ngogledd orllewin Cymru ynglŷn â chynigion a all arwain at ddod â gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys i ben mewn tri safle ar draws y rhanbarth.

Gan gyfeirio at bwysau ariannol a heriau recriwtio parhaus, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymgynghori dros ddyfodol Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn ardal y gorllewin.

Wedi'u staffio gan ymarferwyr nyrsio uwch, meddygon teulu a ffisiotherapyddion, mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn cael ei ddarparu dros dri safle, sef Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi, Ysbyty Alltwen yn Nhremadog ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Fe sefydlwyd y gwasanaeth yn 2022 er mwyn trin cleifion sydd angen sylw meddygol brys ar yr un diwrnod, gyda'r nod o leddfu'r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau achosion brys.

Ysbyty AlltwenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod "cyfuniad o heriau" yn golygu bod yn rhaid ymgynghori ar ddyfodol y ganolfan yn Ysbyty Alltwen, a dwy arall

Ond mae llythyr a anfonwyd at staff y bwrdd iechyd yn nodi bod ymgynghoriad ar waith, all arwain at ddod â'r gwasanaeth i ben cyn 31 Mawrth 2027.

Fodd bynnag, ni fydd unrhyw newid i wasanaethau tebyg yn y dwyrain, yn Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y gwasanaeth wedi wynebu cyfuniad o heriau, gan gynnwys ansicrwydd dros gyllid, anawsterau recriwtio a chadw staff, a dibyniaeth cynyddol ar "drefniadau staffio dros dro".

'Canlyniadau difrifol i gleifion a'r gymuned'

Mae'r cynnig wedi arwain at wrthwynebiad gan nifer o wleidyddion lleol, gyda rhai yn rhybuddio y byddai colli'r gwasanaeth yn rhoi pwysau ychwanegol ar feddygon teulu ac adrannau brys.

Mae AS Ynys Môn, Llinos Medi, ynghyd â'r Aelodau o'r Senedd, Helen Jenner a Janet Finch-Saunders, ymhlith y rhai sydd wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd i fynegi pryder dros golli gwasanaeth arall yn Ysbyty Penrhos Stanley.

Daw hyn wedi i'r uned hosbis pedwar gwely, oedd yn cael ei redeg gan Hosbis Dewi Sant, gau yn 2025.

Dywedodd Janet Finch-Saunders: "Mae'r canolfannau yma yn helpu i leihau'r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys pan nad yw pobl yn gallu cael apwyntiad gyda'u meddyg teulu ond angen sylw meddygol brys.

"Mae'n hanfodol bod y bwrdd iechyd yn cefnogi'r canolfannau yma fel eu bod yn gallu aros ar agor.

"Hebddyn nhw, gallai amseroedd aros godi ymhellach, gan arwain at oedi posib cyn i gleifion dderbyn gofal."

Dywedodd un o gynghorwyr sir Caergybi, Jeff Evans, y byddai cau'r gwasanaeth yn arwain at "ganlyniadau difrifol i gleifion ac i'r gymuned", gan rybuddio y byddai llawer o bobl yn gorfod troi at feddygon teulu ac adrannau brys sydd eisoes o dan bwysau.

Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r canolfannau o dan sylw yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer: "Mae mynediad at ofal brys ac argyfwng yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd.

"Rydym felly yn adolygu'r ddarpariaeth bresennol o Ganolfannau Gofal Sylfaenol Brys ac yn ymgysylltu gyda'n staff.

"Bydd canlyniad yr adolygiad a'r dull posibl o ddarparu'r gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu datblygu yn ystod y misoedd nesaf."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae penderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau lleol GIG yn gyfrifoldeb i'r bwrdd iechyd lleol, sydd yn y safle gorau i asesu anghenion eu poblogaeth

"Fel gydag unrhyw newid posib i wasanaethau, fe fydden ni'n disgwyl i sefydliadau GIG Cymru drafod yn agored a thryloyw gyda rhanddeiliaid yn unol â chanllawiau cenedlaethol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.