Bygythiad tanau gwyllt yn 'arswydus' medd y Tywysog William

Bu 14 tân gwyllt "sylweddol" yn llosgi yn ne Cymru yn ystod un penwythnos ym mis Awst gan gynnwys yn Nhreherbert
- Cyhoeddwyd
Mae'n "hollbwysig" bod y Deyrnas Unedig yn paratoi ar gyfer bygythiad "arswydus" o fwy o danau gwyllt yn y dyfodol wrth i'r hinsawdd newid, yn ôl y Tywysog William.
Tra'n ymweld â Threherbert yn Rhondda Cynon Taf, bu'n diolch am yr ymdrechion "aruthrol" i achub tai, tir a bywydau wedi tân sylweddol uwchben y pentref ym mis Awst.
"Mae angen i ni ddechrau cymryd tanau gwyllt mor ddifrifol ag [y maen nhw] ar y cyfandir," meddai, gan nodi pryderon fel prinder hofrenyddion i ollwng dŵr.
Fe awgrymodd hefyd bod ymateb y gymuned i'r digwyddiad yn esiampl i eraill, ar ôl i bobl leol ddod ynghyd i gefnogi'r diffoddwyr oedd yn brwydro yn erbyn y fflamau.

Roedd y Tywysog William yn awyddus i ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith yn ymladd y tanau
Yn ymyl y ganolfan gymunedol, lle bu Tywysog Cymru yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys, y fyddin a gwirfoddolwyr lleol, mae ochr y cwm wedi'i losgi'n ulw.
"O edrych i fyny, ro'dd y mynydd ar dân - roedd e fel lafa," meddai Kath Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr elusen Plant y Cymoedd, sy'n gyfrifol am yr adeilad.
"Ro'n i wirioneddol yn meddwl y bydden ni'n colli'r ganolfan - ond yn fwy pwysig na hynny fyddai pobl yn colli eu cartrefi."
Bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddatgan statws "digwyddiad mawr" wrth iddyn nhw wynebu 14 o danau gwyllt sylweddol ar draws y rhanbarth ym mis Awst, gan gynnwys uwchben Treherbert.
Cafodd diffoddwyr o 22 o wasanaethau tân eraill o ar draws y DU eu hanfon i gefnogi'r ymdrech, yn ogystal ag oddeutu 200 o aelodau o'r lluoedd arfog.

Cafodd Kath Edwards alwad ar y nos Sadwrn gan ei chwaer yn dweud fod "y mynydd ar dân"
Dywedodd Aled Bound, Rheolwr Criwiau Gorsafoedd Tân Treorci a Maesteg wrth y Tywysog William mai dyma oedd "y tymor tanau gwyllt anoddaf" iddo ef a'i gydweithwyr ei wynebu erioed - gan lethu diffoddwyr "yn feddyliol ac yn gorfforol".
"Dwi erioed wedi gorfod mynd â chymaint o ddŵr lan mynydd i'w roi ar dân ac yna gorfod dod yn ôl ac yn ôl y diwrnodau wedyn am fod y tân wedi ailddechrau," eglurodd.
A chyda newid hinsawdd, "fe allai fod yn arwydd o'r hyn sydd i ddod," rhybuddiodd.
Fe arweiniodd misoedd o amodau sych a chrasboeth at don o danau gwyllt ar draws y DU drwy gydol gwanwyn a haf 2026.
Mae ffigyrau diweddaraf Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân yn nodi bod 1350 o danau difrifol wed bod ar draws Cymru a Lloegr - cynnydd o dros 300 ers y flwyddyn flaenorol oedd wedi torri record.

Cafodd y tywysog gyfle i ddysgu mwy am gyfraniad anferth y gymuned a'r fyddin i ddelio â'r tân
Dywedodd y Tywysog William wrth ddiffoddwyr yn Nhreherbert mai dyma oedd yr haf cynta iddo deimlo "pryder" ynglŷn â'r perygl sy'n wynebu'r DU gan danau gwyllt.
Fe allai ddigwydd eto flwyddyn nesaf, meddai.
"Mae'n eithaf arswydus oni bai bod y wlad yn barod."
Fe holodd am argaeledd hofrenyddion ac awyrennau i daclo tanau, gan nodi bod "prinder asedau o'r awyr wedi'i nodi fel mater o bwys ger bron y llywodraeth".
Rhwng 2010 a 2013 bu'r Tywysog William yn hedfan hofrenyddion Sea King gyda thîm Chwilio ac Achub yr awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn gan gymhwyso fel capten.
Bu'n sôn am hedfan "rhai o'r tanciau dŵr yn y Falklands pan oeddwn i lawr yno, yn diffodd tanau ar y tiroedd hyfforddi... ac unwaith i'r Sea King fynd, nid oes gennym yr adnoddau mwyach".
"Dwi'n meddwl ei fod ar flaen meddwl llawer o bobl nawr – sut allwn ni ail-greu hynny," meddai.
Roedd yna drafodaeth hefyd ynglŷn â'r wisg a'r offer sydd ar gael i ddiffoddwyr wrth weithio mewn gwres tanbaid, arferion rheoli tir allai leihau'r risg o danau, ac a ddylai'r cyfryngau cymdeithasol fod yn gwneud mwy i rybuddio pobl rhag cynnau tanau'n fwriadol.

Roedd hofrenyddion yn hollbwysig wrth rwystro y tân rhag ailgydio yn Nhreherbert
Yn ddiweddar, cyhoeddodd llywodraeth y DU y bydd hofrenyddion Chinook ac awyrennau A400M yr awyrlu yn cael eu haddasu fel y gallan nhw ymladd tanau yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, arweiniodd uwchgynhadledd gan Lywodraeth Cymru ar danau gwyllt at addewidion o weithredu i wella parodrwydd.
"Mae'n teimlo fel rhywbeth y bydd rhaid i ni fyw gydag ef fel gwlad, neu fel byd, bob haf bellach," meddai'r Tywysog William.
"Ond bydd bod yn barod, a gwybod beth rydym yn ei wynebu, yn hollbwysig."
"Mae'n deg dweud ein bod wedi dysgu lot o'r tymor hwn... ac mae llawer y byddwn yn ei roi ar waith, yn enwedig yn dilyn yr uwchgynadleddau ynglŷn â thanau gwyllt," meddai Adam Openshaw, Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Roedd staff Plant y Cymoedd gan gynnwys Kath Edwards (chwith) wedi cadw Ganolfan Penyrenglyn ar agor 24/7 am chwech diwrnod tra bu'r gwasanaeth tân yn delio â'r fflamau
Eglurodd Kath Edwards o Plant y Cymoedd bod gwirfoddolwyr lleol wedi cadw'r ganolfan yn agored "24 awr y dydd er mwyn cynnig pa bynnag wasanaeth y gallen ni".
"Fe agoron ni ar y nos Sadwrn a naethon ni ddim cau wedyn nes y dydd Iau canlynol".
Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, daeth yr adeilad yn ganolfan reoli ar gyfer yr ymdrech i ddiffodd y fflamau, yn ogystal â rhywle lle gallai'r gwasanaethau brys orffwys a pharatoi.
Roedd yn ganolbwynt hefyd i rheini o fewn y gymuned oedd yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth - gyda busnesau lleol yn cyfrannu bwyd a nwyddau.
Holodd y Tywysog William a oedd lle i ddefnyddio gwirfoddolwyr yn amlach wrth frwydro tanau yn y dyfodol, wrth iddo glywed bod ymdrechion y gymuned, law yn llaw â phresenoldeb y fyddin, wedi galluogi diffoddwyr i ganolbwyntio'n llwyr ar ddod a'r digwyddiad dan reolaeth.
"O rywbeth eithaf ofnadwy, fe wnaeth y cymoedd beth mae'r cymoedd yn ei wneud yn dda iawn - fe dynnon ni ynghyd i wneud gwahaniaeth," meddai Ms Edwards.
Roedd cymunedau yng nghymoedd de Cymru fel Trehebert eisoes yn profi effeithiau newid hinsawdd, rhybuddiodd.
"Ry'n ni wedi cael llifogydd, tanau... mae gyda ni domenni [glo] sy'n symud hefyd.
"Dwi'n credu mai'r neges o'n i'n awyddus i'w throsglwyddo oedd... ry'n ni'n awyddus fel cymuned i ofyn sut allwn ni ateb hyn? Sut allwn ni weithio ar y cyd fel cymuned a'r sector wirfoddol i gefnogi asiantaethau [fel y gwasanaethau tân]?"
Cyn mynd awgrymodd y Tywysog William bod ymateb y gymuned yn Nhreherbert yn esiampl allai eraill ei dilyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref

- Cyhoeddwyd22 Hydref
