Dau gyngerdd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCwedi ei gyhoeddi 14:50 GMT+1 21 Hydref
I nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cynnal dau gyngerdd arbennig.
Yn rhan o'r cyngherddau mae gwaith newydd From Darkness into Light gan Paul Mealor.
"Mae'n cynnig gobaith, gyda geiriau Grahame Davies yn dod â Mark Lewis Jones, Corau Ysgolion Aberfan, Côr Meibion Ynysowen, a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC at ei gilydd," meddai llefarydd.
"Mae’r canolbwynt hwn yn cael ei fframio gan gerddoriaeth sy’n symud o frys i obaith.
"Mae “This Moment” gan Anna Clyne yn fflachio gydag egni aflonydd; mae Symffoni “Mourning” (Rhif 44) yn E leiaf Haydn yn gyrru ymlaen gyda dwyster ffyrnig; mae Mozart yn cynnig pwysau a thawelwch llachar yng nghantabile “Andante” o “Jupiter”; ac mae “Toward the Unknown Region” gan Vaughan Williams, wedi ei ysbrydoli gan Whitman, yn cychwyn ar daith chwilio tuag at y gorwel."
Ffynhonnell y llun, bbcYn rhan o'r cyngherddau mae gwaith newydd From Darkness into Light gan Paul Mealor
Ddydd Sadwrn 24 Hydref, bydd Aberfan: From Darkness to Light yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan, ac yna Aberfan 60 ddydd Sul 25 Hydref yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd.

























