Dim ond pedwar o'r staff oroesodd- atgofion un ohonyn nhwwedi ei gyhoeddi 13:15 GMT+1 21 Hydref
Er bod ei disgyblion ifanc wedi llwyddo i ddianc nid oedd rhai o'r teuluoedd yn y tai cyfagos mor ffodus, ychwanegodd Mair Morgan oedd yn athrawes 25 oed yn yr ysgol ar y pryd.
"Collodd bachgen bach yn fy nosbarth ei fam a'i chwaer," meddai Mair Morgan. .
Mae Mair yn cofio hefyd am athro o ysgol arall, Bill Evans, a oedd yn byw drws nesaf i Ysgol Gynradd Pantglas.
"Collodd ei wraig, ei fabi, a'i fab – fe ddylai fod yn yr ysgol, ond roedd ganddo tonsilitis felly roedd e gartref. Felly collodd y teulu cyfan."
Dim ond wedyn y daeth gwir faint y drychineb yn amlwg. O'r staff i gyd, dim ond pedwar oroesodd.
Cafodd yr athro addysg gorfforol, Howell Williams, ei gasglu yn sydyn gan ei deulu. Ond fe arhosodd Mair Morgan ynghyd â'r ddwy athrawes arall i oroesi, Hetty Williams a Reenee Williams.
"Roedden ni'n teimlo ein bod ni gorfod bod yno," meddai. "Roedd angen gwneud rhywbeth."
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesHettie Williams, Howell Williams, Rennie Williams a Mair Morgan oedd yr unig athrawon i oroesi'r drychineb
Yn ystod y diwrnodau yn syth ar ôl y drychineb, gyda'r pentref dan reolaeth yr heddlu a'r gwasanaethau brys, aeth y tair athrawes yn ôl ac ymlaen i Aberfan.
Doedd neb wedi cynnig cwnsela neu gymorth ffurfiol i'r rhai wnaeth oroesi. I'r gwrthwyneb, roedd galw ar yr athrawon i berfformio'r dasg anodd a thrasig.
Yn yr iard, o dan cwt bach oedd yn cadw plant rhag y glaw, cafodd y cyrff cyntaf a gafodd eu tynnu o'r ysgol eu gosod.
"Gofynnon nhw i ni adnabod y plant cyn eu glanhau nhw er mwyn i'r rhieni eu gweld.
"Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd iawn delio â hynny," meddai Mair.
"Rwy'n cofio un ferch fach, dwi dal yn gallu gweld ei hwyneb - ei gwallt du a'i chyrls hardd."
Daeth yn amlwg bod maint y golled yn rhy fawr i'r athrawon barhau â'r dasg o adnabod y cyrff. Ond fe wnaeth Mair, yng nghwmni Hettie a Reenie, barhau i gynnig cysur a chefnogaeth.
"Fe aethom i ymweld â rhieni'r plant fu farw, ac roedd hynny'n hynod o drist, ond roedd angen i ni wneud pethau felly," meddai Mair.
Mae hi'n credu bod y tair athrawes, heb unrhyw gefnogaeth ffurfiol ar eu cyfer, wedi rhoi cefnogaeth emosiynol i'w gilydd.
Fe gadwodd yr athrawon gysylltiad agos gydol eu hoes.






















