Crynodeb

  1. Y glaw yn cilio cyn ymweliad y teulu brenhinolwedi ei gyhoeddi 11:32 GMT+1 21 Hydref

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Mae rhai cannoedd yn y dorf tu allan i’r ardd goffa bellach.

    Mae'r glaw mân hefyd wedi cilio rywfaint.

    Y disgwyl yw y bydd y teulu brenhinol yn cyrraedd o fewn yr hanner awr nesaf.

    y dorf
  2. Andy Burnham eisoes wedi ymweld ag Aberfanwedi ei gyhoeddi 11:29 GMT+1 21 Hydref

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Un ffigwr gwleidyddol sydd ddim yma heddiw ydi’r Prif Weinidog Andy Burnham, ond mae hynny oherwydd iddo ymweld ag Aberfan ddydd Llun.

    Fe gymerodd ei amser i siarad â phobl pan oedd o yma hefyd, gan gynnwys plant ysgol oedd wedi dod i ymweld â’r ardd goffa heb wybod ei fod o yno.

    Dywedodd fod hanes trychineb Aberfan yn rhywbeth roedd o’n ymwybodol ohono ers yn blentyn, rhywbeth roedd ei rieni yn sôn amdano.

    Fe fuodd o’n sgwrsio hefyd â rhai o oroeswyr y trychineb, oedd yn blant ar y pryd, yn ogystal â Marilyn Brown, a gollodd ei merch Janette ar y diwrnod hwnnw yn 1966.

    Mae diogelwch tomenni glo yn bwnc trafod hyd heddiw wrth gwrs, ac mi wnaeth y Prif Weinidog sôn rywfaint am arian ychwanegol fydd yn mynd tuag at hynny.

    Ond, nid dyna’r ffocws heddiw wrth gwrs, canolbwyntio ar goffáu’r trychineb mae pawb.

    Andy BurnhamFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mr Burnham yw Prif Weinidog cynta’r DU i ymweld â safle’r drychineb ers Harold Wilson

  3. Cofeb ag arni 144 cloc i gofio'r 144 a fu farwwedi ei gyhoeddi 11:20 GMT+1 21 Hydref

    144Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Parc Treftadaeth Rhondda

    Yn ystod yr wythnos mae cyfle yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Rhondda i rannu atgofion a siarad am yr hyn a effeithiodd ardal gyfan.

    Yno mae darn o waith celf parhaol sy'n coffhau y 144 a fu farw - mae yna gloc er cof am bob un a phob un yn dangos yr amser 09:13 - union amser y drychineb.

    Mae'r darn wedi'i lunio gan Nathan Wyburn a gafodd ei fagu yn Aberfan ac mae wedi'i seilio ar lun o'r cyn-löwr Johnny Thomas - un o'r rhai cyntaf i gyrraedd y safle.

  4. 'Cofio’r frwydr a fu yn Aberfan i geisio cael cyfiawnder'wedi ei gyhoeddi 11:15 GMT+1 21 Hydref

    Disgrifiad,

    Alun Thomas, un o ohebwyr y BBC yn Aberfan, fore Mercher

  5. 'Y berthynas agos rhwng y teulu brenhinol a'r pentref'wedi ei gyhoeddi 11:06 GMT+1 21 Hydref

    Grahame Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Grahame Davies

    Bu'r llenor Grahame Davies yn gweithio gyda'r teulu brenhinol am flynyddoedd. Bu’n sôn ar Dros Frecwast ar Radio Cymru bore ‘ma am bwysigrwydd ymweld ag Aberfan i'r teulu ers 60 mlynedd: “Mae hon yn berthynas sy'n mynd yn ôl reit i ddyddiau cynnar y drychineb erchyll hon pan ymwelodd y Frenhines ac mi gadwodd hi'r berthynas gyda'r pentre dros y blynyddoedd.

    “Mae’r Brenin, y Frenhines a Thywysog Cymru yn ymweld heddiw. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ymweliadau sydd yn tanlinellu'r berthynas sydd wedi bodoli rhwng y teulu brenhinol a'r pentref ers 60 mlynedd.

    “Mae’r gymuned yn gwerthfawrogi'r peth ac yn ymfalchïo ynddo fo. Bues i yma yn gweithio ar brosiect celfyddydol yn y misoedd diwethaf, a bron y peth cyntaf mae pobl yn deud wrthych chi yw pa mor aml mae'r teulu brenhinol yn dod, pa mor gynnes ydyn nhw, pa mor deimladwy mae'r ymweliadau wedi bod, gymaint o gydymdeimlad maen nhw wedi dangos.

    “Felly mae'n rhan o brofiad pobl y pentref hwn o'r drychineb yma sy'n golygu cymaint iddyn nhw."

    Bu Grahame Davies hefyd yn gweithio fel newyddiadurwr yn ardal Merthyr am flynyddoedd felly mae wedi bod â chysylltiad agos gyda Aberfan ers 40 mlynedd.

    Meddai: “Deugain mlynedd yn ôl, dim ond rhai pobl oedd, fwy neu lai, wedi cael eu hawdurdodi i siarad ar ran y gymuned

    “A fel mae amser yn mynd heibio ac yn sicr yn y blynyddoedd diwethaf yma, mae fel petai'r llifddorau wedi agor.

    “A dwi'n credu fel mae y genhedlaeth yna o rieni yn dechrau’n gadael ni a fel mae'r atgofion byw yna yn dechrau troi'n hanes yn hytrach nag yn brofiad, mae'r teimlad sydd yna yn yr unigolion ac yn y gymuned bod cyfrifoldeb ganddi nhw i ddweud y stori, mae hwnna'n cynyddu.

    “Mae yna fwy a mwy o bobl wedi dod ymlaen a sydd erioed wedi siarad o'r blaen bellach yn barod i ddweud eu straeon. A dwi'n credu bod hwnna'n rhan o'r ffordd y mae'r gymuned hon am gofio'r brofiad yna.

    “Mae'n anodd meddwl am unrhyw drychineb sydd mor dorcalonnus â hon.”

  6. Gwyneth Evans, a fu'n cnocio ar ddrysau'r teuluoedd, yn siarad am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 10:55 GMT+1 21 Hydref

    Disgrifiad,

    'Mynd o ddrws i ddrws i weld a oedd plant gyda nhw ai peidio'

    Roedd Gwyneth Evans o Aberhonddu yn 20 oed adeg trychineb Aberfan, ac yn gweithio fel ysgrifenyddes i faer y dref ar y pryd.

    “Diflannodd y dynion i gyd peth cynta’r bore, a doedden ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd,” meddai.

    “Wedyn dywedodd rhywun bod rhywbeth wedi digwydd, ac roedden ni’n clywed ambiwlansys.

    “Dechreuon nhw ddweud bod mortuaries yn cael eu sefydlu.”

    Dywedodd bod cyfarwyddwr addysg y dref wedi dod i esbonio iddyn nhw beth oedd wedi digwydd, ond ei fod dan ormod o deimlad.

    “Torrodd e lawr, doedd e methu siarad ‘da ni,” meddai.

    Gwyneth Evans o Aberhonddu
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwyneth Evans o Aberhonddu

    Cafodd Gwyneth y dasg wedyn o gnocio ar ddrysau’r strydoedd a gofyn os oedd plant gyda nhw ai peidio, gan nad oedd modd gwybod ar y pryd pwy oedd yn yr ysgol.

    “Wrth edrych nôl, dwi ddim yn gwybod sut 'nes i neud e,” meddai.

    Yn ddiweddarach fe aeth i ddysgu, ac roedd un o’i chydweithwyr yn rhywun oedd wedi colli ei dŷ yn Moy Road, ei wraig, eu babi a’u plentyn chwech oed yn y drychineb.

    “Roedd bob Hydref yn ofnadwy, ro’n i’n teimlo drosto fe,” meddai Gwyneth.

    Er nad yw wedi rhannu ei hatgofion yn gyhoeddus tan nawr, roedd hi’n teimlo ei bod hi’n bwysig dod yma heddiw.

    “Mae e’n mynd â fi nôl a fi’n ffeindio fe’n emosiynol iawn.”

  7. Y clychau yn canu cnul yn Eglwys Pontypriddwedi ei gyhoeddi 10:50 GMT+1 21 Hydref

    Yn Eglwys St Catherine ym Mhontypridd fore Mercher mae canwyr clychau ar draws Cymru wedi dod ynghyd.

    Canu cnul mae'r clychau sef sain lleddf a glywir fynychaf yn ystod angladdau.

    Ar hyn o bryd dyw hi ddim yn bosib canu clychau Eglwys Merthyr ac felly mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mhontypridd - y dref agosaf sydd â chlychau.

    Mae'r clychau yn canu am deirawr.

    st catherinesFfynhonnell y llun, Google
  8. Digwyddiad preifat wedi'i gynnal ym mynwent Aberfanwedi ei gyhoeddi 10:45 GMT+1 21 Hydref

    mynwent

    Yn y fynwent lle mae'r rhai a laddwyd wedi'u claddu roedd gwasanaeth preifat fore Mercher.

    Yn bresennol roedd teuluoedd y rhai fu farw ac yn ystod y digwyddiad cafodd torchau eu gosod gan gynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys a fu'n helpu yn 1966.

    Roedd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn bresennol yn y digwyddiad ynghyd ag aelodau seneddol a chynghorwyr lleol.

    Caplan i'r maer fu'n arwain y gweddïau, y Parchedig David Powell, ac fe ddaeth y digwyddiad i ben gyda bendith gan Esgob Llandaf.

    Yn y glaw mân bu Côr Meibion Ynysowen yn perfformio. Fe gafodd y côr ei sefydlu i helpu dynion i ymdopi â'r drychineb.

  9. Canu clychau Eglwys y Santes Fair, Conwy, 144 o weithiauwedi ei gyhoeddi 10:40 GMT+1 21 Hydref

    Bu 144 farw yn y drychineb ac i nodi hynny cafodd clychau Eglwys y Santes Fair, Conwy eu canu 144 o weithiau fore Mercher.

  10. Argraffiadau un fu'n gohebu o Aberfan yn 1966wedi ei gyhoeddi 10:33 GMT+1 21 Hydref

    Geraint Talfan Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Doedd Geraint Talfan Davies ond wedi bod yn gweithio fel newyddiadurwr ers chwe wythnos pan gafodd ei anfon i Aberfan

    Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast, dywedodd Geraint Talfan Davies, newyddiadurwr ifanc a gafodd ei anfon i Aberfan, fod y profiad yn un "hynod".

    "O'n i wedi bod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant am chwe wythnos gyda'r Western Mail yng Nghaerdydd pan ddigwyddodd y gyflafan yn Aberfan - anfonodd y papur fi fyny yno yn hwyrach yn y bore," meddai.

    "Glywais i am y peth yn gyntaf nid drwy'r papur, ond yn rhyfedd ges i alwad ffôn oddi wrth fy ngwraig - oedd yn gweithio fel ffisiotherapydd yn yr ysbyty yng Nghaerdydd - yn dweud bod neb arall yn yr adran gan fod yr ambiwlansys i gyd wedi mynd lan i Aberfan.

    "Dwi'n credu'r sioc gyntaf oedd bo' fi wedi gorfod cerdded milltir neu ddwy mewn i Aberfan, erbyn hynny roedd pob math o geir a lorïau a'r frigâd dan ar hyd y lle.

    "Cerddais i mewn a dwi'n cofio troi'r gornel mewn i Moy Road a dyna ble oedd y tai ar y chwith a'r ysgol ar y dde yn wynebu wal o lo. O'dd y peth yn hynod.

    "Fues i 'na am 'chydig oriau, ond newyddiadurwr ifanc iawn o'n i. Roedd rhaid i mi fynd 'nôl i'r swyddfa."

  11. 'Nid llafar yw galaru yn y cwm'wedi ei gyhoeddi 10:26 GMT+1 21 Hydref

    Mae nifer o feridd wedi ymateb i'r drychineb.

    Dyma englyn diweddar sydd wedi'i rannu ar gyfryngau cymdeithasol Cymdeithas y Cymod.

    englynFfynhonnell y llun, Cymdeithas y Cymod
  12. Aberfan yn 'dangos grym llais y bobl' - Syr Deian Hopkinwedi ei gyhoeddi 10:17 GMT+1 21 Hydref

    BBC Radio Wales

    Syr Deian HopkinFfynhonnell y llun, Syr Deian Hopkin

    Wrth ymateb i gwestiwn ar BBC Radio Wales Breakfast ynglŷn ag a allai trigolion Aberfan deimlo fel eu bod wedi cael cyfiawnder, dywedodd yr hanesydd Syr Deian Hopkin fod y drychineb yn ein hatgoffa o be allai ddigwydd os yw cyngor a ffeithiau yn cael eu hanwybyddu.

    "Wrth wrando ar oroeswyr ar eich rhaglenni, mae'n amlwg fod yr atgofion dal mor amrwd - yn enwedig y bobl hynny wnaeth oroesi ac sy'n benderfynol o gadw'r atgof yn fyw," meddai.

    "Nid oes modd newid yr hyn ddigwyddodd... ond dylai Aberfan atgoffa ni gyd o'r hyn sy'n gallu digwydd os ydych chi'n anwybyddu cyngor, yn anwybyddu'r amgylchiadau ac yn anwybyddu'r ffeithiau.

    "Mewn amser, bydd yr atgofion yn pylu, ond yr hyn sy'n bwysig yw bod gwaddol y digwyddiad yn parhau.

    "Fe allai hyn ddigwydd mewn cymunedau eraill, ac mae angen i ni gofio hynny er mwyn sicrhau nad yw'r hyn ddigwyddodd yn Aberfan yn digwydd fyth eto.

    "Mae clywed gwydnwch y bobl sydd wedi cael eu cyfweld dros y dyddiau diwethaf yn dangos grym llais y bobl, hyd yn oed wrth wynebu awdurdod gormesol."

  13. Ein gohebydd Iolo Cheung: 'Diwrnod llwm a llwydaidd'wedi ei gyhoeddi 10:13 GMT+1 21 Hydref

  14. Trychineb Aberfan wedi cael 'effaith ysgytwol yng Ngwlad Pwyl'wedi ei gyhoeddi 10:07 GMT+1 21 Hydref

    Mae newyddiadurwyr a darlledwyr o wledydd y tu hwnt i Gymru a'r Deyrnas Unedig wedi gwneud y daith i Aberfan y bore 'ma i nodi'r digwyddiad.

    Un o'r rheini yw Artur Kieruzal, sy'n gweithio i TVP - y darlledwr cyhoeddus yng Ngwlad Pwyl.

    "Mae gan Wlad Pwyl ddiwydiant glo mawr iawn hyd heddiw, ac fe gafodd y trychineb yma effaith ysgytwol yno," meddai.

    "Roedden ni eisiau atgoffa pobl pa mor beryglus ydi'r diwydiant yma, nid yn unig i'r amgylchedd ond i bobl gyffredin."

    Artur Kieruzal
  15. Maint y dorf yn cynydduwedi ei gyhoeddi 10:01 GMT+1 21 Hydref

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan

    Mae’r gwasanaeth coffa yn digwydd ar hyn o bryd yn y fynwent, ac felly mae saib o ran y drefn draw ger yr ardd goffa.

    Ond cynyddu mae maint y dorf ers y munud o dawelwch, nid edwino, a hynny er gwaetha’r glaw mân.

    Maen nhw yma ar gyfer ymweliad y Brenin a’r Frenhines, Charles a Camilla fydd yma nes ymlaen i ymweld â’r ardd goffa, i osod torch ac i weddïo.

  16. Disgyblion yr ysgol leol yn cofiowedi ei gyhoeddi 09:56 GMT+1 21 Hydref

    Ymhlith y rhai a fu'n nodi'r munud o dawelwch roedd disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen.

    Fe gafodd yr ysgol ei chodi i barhau â gwaddol Ysgol Pantglas.

    Yn hwyrach heddiw bydd y Tywysog William yn dadorchuddio Coeden Goffa Aberfan yn yr ysgol.

    Ynysowen
  17. Y cofio poenus yn Aberfan fore Mercher - union 60 mlynedd ers y drychinebwedi ei gyhoeddi 09:50 GMT+1 21 Hydref

    Disgrifiad,

    Munud o dawelwch union 60 mlynedd ers trychineb Aberfan

  18. 'Nes i golli fy merch ond cafodd fy mab ei achub'wedi ei gyhoeddi 09:46 GMT+1 21 Hydref

    Bu Marilyn Brown, oedd â dau o blant yn Ysgol Pantglas, yn siarad gyda BBC Cymru yn gynharach yr wythnos hon.

    "Nes i golli fy merch ac roedd fy mab yn yr ysgol ar y pryd hefyd, ond cafodd e ei achub gan athro," meddai.

    "Do'n i ddim wedi sylwi ei fod o wedi cael ei achub oherwydd oedd e wedi rhedeg o'r ysgol, a finnau wedi rhedeg i fyny at yr ysgol - mae'n rhaid ein bod ni wedi pasio'n gilydd.

    "Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai Janette yn marw. Yn fy meddwl i, roedd hi dal yn fyw.

    "Roedden ni'n sefyll lan ger yr ysgol, roedd y menywod i gyda gyda'i gilydd."

    Marilyn Brown

    Ychwanegodd: "Y bore hwnnw, doedd Janette wir ddim eisiau mynd i'r ysgol, ond 'nes i a'i thad ddweud bod yn rhaid iddi.

    "...'Nes i eistedd i gael paned, ond mewn dim o amser daeth fy nai lawr y stryd ar frys i ddweud y dylwn i fynd i'r ysgol a bod rhywbeth mawr o'i le.

    "Rhedais i lan yn fy slipers a hen siaced. Roeddwn i'n sefyll am amser hir iawn... yn aros am ryw wybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd, ond doedden ni heb sylweddoli fod y plant wedi marw."

  19. Baneri y Senedd wedi eu gostwng i nodi'r drychinebwedi ei gyhoeddi 09:42 GMT+1 21 Hydref

    Y baneri ar dir y Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y baneri ar dir y Senedd

    Ym Mae Caerdydd mae'r baneri ar dir y Senedd wedi eu gostwng i nodi'r drychineb 60 mlynedd yn ôl.

  20. Wil Morgan: 'Dwi dal i deimlo yn gandryll'wedi ei gyhoeddi 09:35 GMT+1 21 Hydref

    "Yn sydyn reit roedd dyffryn cyfan yn mynd yn dawel. Ac roeddet ti'n gwybod yn anffodus roedden nhw wedi ffeindio corff arall."

    Bu'r cyflwynydd Wil Morgan yn rhannu ei brofiad o helpu am dridiau wedi'r trychineb yn Aberfan ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru.

    Roedd Wil yn fyfyriwr yn y brifysgol ar y pryd ac, wedi clywed y newyddion, mi wnaeth pump ohonyn nhw yrru i Aberfan i helpu.

    Dywedodd: "Mi gawson ni rawiau ac roeddem wrthi am dridiau yn gwneud gwahanol bethau, y diwrnod cyntaf reit werth ymyl yr ysgol. Roedd hi fel maes y gad yno, cannoedd o bobl yno'n helpu erbyn hynny."

    Roedd y tomenni wedi bod yno ers y Rhyfel Byd Cyntaf, meddai Wil: "Dwi dal i deimlo yn gandryll fod y fath beth wedi gallu digwydd.

    "Esgeulustod ac ariangarwch - roedd yn costio gormod i symud y stwff."

    Disgrifiad,

    Wil Morgan yn siarad 60 mlynedd ers y drychineb