Carcharu tri ar ôl canfod £16,000 ac 80 bag o gocên mewn car ym Mhontarfynach

O'r chwith i'r dde: Shakir Tota, Mirjol Bresa a Florin Ghiorghe
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi cael eu carcharu ar ôl i gar yn cynnwys £16,000 ac 80 bag o gocên gael ei ddarganfod ger Aberystwyth.
Cafodd Shaqir Tota, 24, Florin Ghiorghe, 28, a Mirjol Bresa, 21, eu harestio ar 27 Awst yn dilyn ymchwiliad cudd gan Heddlu Dyfed Powys.
Cafodd Tota a Bresa eu harestio gan Heddlu Gorllewin Mercia wrth deithio tua'r gogledd ar yr M5 i gyfeiriad Birmingham.
Yr un diwrnod, cafodd Ghiorghe ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys yn Aberystwyth.
Roedd y tri wedi bod yn cadw cyffuriau, deunyddiau pecynnu ac arian mewn Volkswagen Passat arian gwag mewn maes parcio ym Mhontarfynach, meddai'r llu.
'Roedd yn ymchwiliad cymhleth'
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi sefydlu Operation Haxted i ymchwilio i rwydwaith cyffuriau soffistigedig y tu ôl i gyflenwi cocên o Birmingham i ardal Aberystwyth.
Roedd Tota yn cydlynu dosbarthiad y cyffuriau trwy ddefnyddio llinell ffôn bwrpasol tra'r oedd Ghiorghe a Bresa yn gweithio fel 'rhedwyr', yn cyfarfod â chwsmeriaid lleol.
Roedd y 'rhedwyr' yn derbyn negeseuon testun gyda gwybodaeth ar le i gasglu'r cyffuriau ar Google Maps.
Dywedodd y llu bod sawl ffôn symudol wedi'u cysylltu â'r cynllwyn, gyda miloedd o negeseuon testun yn datgelu cydlynu'r gadwyn gyflenwi.
Plediodd y tri yn euog o fod yn rhan o gyflenwi cocên, gyda Tota, o Ffordd Dingle yn Dudley, yn cael dedfryd o ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar.
Cafodd Ghiorghe, o Ffordd Buzzard yn Penallta, ddedfryd o ddwy flynedd a thri mis, tra cafodd Bresa, o Ffordd Bromford yn Birmingham, 22 mis yn y carchar.
Cafodd pedwerydd dyn, Mariglen Llapushi, 27, o Fryste - a oedd wedi bod yn gweithredu fel 'rhedwr' cyffuriau i Tota - ei ddedfrydu ym mis Gorffennaf 2026 fel rhan o Operation Haxted.
Plediodd yn euog i gyflenwi cocên yn ardal Aberystwyth a chafodd ei garcharu am dair blynedd.
Dywedodd y Sarjant Ditectif Steve Jones: "Roedd Operation Haxted yn ymchwiliad cymhleth a oedd yn targedu grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau dosbarth A yn Aberystwyth.
"Er gwaethaf eu hymdrechion gorau i osgoi cael eu dal - gan ddefnyddio cerbydau llog, drwy gyfarfod mewn lleoliadau gwledig tawel a chadw'r cyffuriau mewn cerbyd gwag ar wahân - dilynodd ein tîm ymroddedig nhw bob cam gan atafaelu'r cyffuriau, yr arian parod, a chafodd y tri throseddwr eu rhoi gerbron y llysoedd."
Ychwanegodd: "Mae datgymalu'r grŵp yma yn ganlyniad arwyddocaol nid yn unig i ni fel heddlu, ond i gymuned ehangach Aberystwyth sy'n haeddu byw mewn ardal sy'n rhydd o gyffuriau a'r troseddau cysylltiedig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.