Cynlluniau am wyth gorsaf drên newydd yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin

Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau'n anelu at wella cysylltiadau rheilffordd rhwng Abertawe, Sir Gaerfyrddin a chymunedau cyfagos

GanManon Wiliam
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau ar gyfer wyth gorsaf drên newydd yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin, ynghyd â gwasanaethau trenau amlach a chysylltiadau newydd, yn cael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae'r cynigion yn rhan o brosiect Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru, sy'n anelu at wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a rhoi mwy o ddewis i deithwyr.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Network Rail a chynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro ar y cynlluniau.

"Rydyn ni eisiau rhoi mwy o ddewis i bobl o ran sut maen nhw'n teithio, gyda threnau amlach a chysylltiadau newydd rhwng cymunedau ar draws Bae Abertawe a Gorllewin Cymru," meddai Amanda Phillips, rheolwr rhaglen datblygu strategol Trafnidiaeth Cymru.

Gorsaf AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gorsaf drenau Stryd Fawr Abertawe, lle byddai angen platfform newydd fel rhan o gam cyntaf cynllun Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru

Mae cam cyntaf y cynllun yn cynnwys cynnig am hyd at ddau drên ychwanegol yr awr rhwng Abertawe a Phen-bre a Phorth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Mae hefyd yn cynnwys gorsaf newydd bosibl yn Y Cocyd, tua dwy filltir i'r gogledd-orllewin o ganol dinas Abertawe.

Byddai angen platfform newydd yng ngorsaf Stryd Fawr Abertawe, yn ogystal â newidiadau yng ngorsaf Pen-bre a Phorth Tywyn er mwyn ei gwneud yn haws i drenau newid cyfeiriad.

Mae ail gam mwy uchelgeisiol y cynllun yn cynnig hyd at ddau wasanaeth trên newydd yr awr rhwng Abertawe a Rhydaman, drwy Gastell-nedd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai gorsafoedd newydd posibl yn Nglandŵr, Winch Wen, Treforys, Llandarcy, Felindre, Pont-lliw - oll yn Abertawe - a Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin yn dod â mwy o gymunedau o fewn cyrraedd y rhwydwaith rheilffyrdd.

Byddai'r gwasanaethau arfaethedig hefyd yn cysylltu â gwasanaethau trenau eraill yng Nghastell-nedd, gan agor y posibilrwydd o deithio ymlaen i Gaerdydd a thu hwnt.

Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r gorsafoedd newydd arfaethedig yn dod â mwy o gymunedau o fewn cyrraedd y rhwydwaith rheilffyrdd, yn ôl Trafnidiaeth Cymru

Mae'r ail gam hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer trac newydd yn cysylltu dwy reilffordd, uwchraddio traciau a gwella'r system signalau, ond mae'r gwaith hwnnw ar gam cynharach o'i ddatblygu.

Dywedodd Amanda Phillips fod y "rhain yn gynigion hirdymor ac mae llawer o waith i'w wneud o hyd, a dyna'n union pam ei bod yn bwysig ein bod yn clywed gan bobl nawr.

"P'un a ydych chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd neu'n anaml, gall eich profiad o deithio o amgylch y rhanbarth ein helpu i ddeall yn well beth sydd ei angen ar gymunedau."

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ym mis Medi fod amcangyfrif "lefel uchel" yn awgrymu y byddai cam cyntaf y cynllun yn costio llai na £50m, tra bod yr ail gam yn debygol o gostio mwy na £150m.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru yr wythnos hon nad oedd y costau terfynol yn hysbys eto ac nad oedd cyllid wedi'i warantu.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi nodi tir ar gyfer y gorsafoedd newydd arfaethedig ar gyfer y cam cyntaf, ond y byddai angen rhagor o asesu a mireinio ar gyfer yr ail gam.

Mae'r prosiect metro hefyd yn anelu at wella cyflymder a dibynadwyedd teithiau bws, integreiddio amserlenni a thocynnau trenau a bysiau yn well, gwella mynediad i feicwyr a cherddwyr at orsafoedd, a threialu bysiau sy'n defnyddio hydrogen mewn rhai ardaloedd.

Bydd angen cyllid gan Lywodraeth y DU i wireddu'r cynlluniau, ac mae TfW yn dweud nad yw'r costau terfynol na'r cyllid wedi'u cadarnhau.

Mi fydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 3 Tachwedd ac 13 Rhagfyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig