Pam bod y rhan fwyaf o drenau newydd gwerth £200m dal heb gludo teithwyr?

Llai na hanner y cerbydau, sydd werth cyfanswm o dros £200m, sydd wedi pasio profion cymhleth
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o drenau newydd a gafodd eu harchebu ar gyfer Caerdydd a Chymoedd y De dal heb gludo teithwyr, dros dair blynedd ar ôl i'r cyntaf ohonyn nhw gyrraedd.
Yn wreiddiol roedd tram-drenau Metro De Cymru i fod mewn gwasanaeth yn 2022, ond mae pennaeth Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi dweud ei fod yn disgwyl iddynt weithredu'n llawn erbyn diwedd 2027.
Mae ffigyrau a rannwyd gyda BBC Cymru yn dangos bod llai na hanner y 36 o gerbydau Dosbarth 398 wedi pasio profion cymhleth.
Dywedodd prif weithredwr TrC, James Price, ei fod eisiau i'r trenau weithio "yn berffaith, 100% o'r amser".

Bwriad TrC – cwmni sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru – yw trawsnewid hen reilffordd Fictoraidd yn wasanaeth trafnidiaeth cyflym, fel y London Underground.
Cafodd y cerbydau - sy'n gallu rhedeg ar gledrau fel trenau neu fel tramiau ar y ffyrdd - eu harchebu o gwmniau o'r Swistir, Stadler, yn 2018.
Mae'r Brenin a'r cyn-Brif Weinidog Keir Starmer wedi teithio ar y cerbydau sy'n cael eu cadw mewn depo yn Ffynnon Taf, ger Caerdydd.

Mae rhai o'r cerbydau newydd wedi eu storio mewn depo yn ardal Caerdydd am dros tair blynedd
Ers mis Mehefin mae rhai o'r trenau, gwerth werth tua £8m yr un, wedi bod yn cael eu profi ar y rhwydwaith gyda phobl yn teithio arnyn nhw.
Ond maen nhw wedi cael eu tynnu oddi ar y gwasanaeth o bryd i'w gilydd oherwydd yr hyn y mae TrC yn eu disgrifio fel "problemau cychwynnol" a "heriau" gyda meddalwedd.
"Mae'n rhwystredig, yn bendant," meddai James Price.
"Byddai pawb eisiau i rywbeth weithio ar y tro cyntaf. Mae'n rhwystredig, ond ddim yn annisgwyl."
Y flwyddyn nesaf hefyd mae disgwyl i deithwyr weld y gwasanaeth yn dyblu rhwng Caerdydd ac Aberdâr, Merthyr Tudful a Threherbert o ddau drên yr awr i bedwar.
Mae trenau newydd eraill – Dosbarth 756 – wedi eu cyflwyno wrth i TrC aros i ddarparu'r tram-drenau.
"Yn wreiddiol, roeddem yn bwriadu defnyddio'r tram-drenau, ond penderfynwyd defnyddio'r trenau Dosbarth 756 yn gynharach gan iddynt gyrraedd yn gynt ac roeddent yn fwy dibynadwy," meddai Price.
"Golygai hyn na allem brofi'r tramiau yn unol â'r dyddiad gwreiddiol. Y peth pwysicaf i mi oedd cael trenau newydd ar waith a sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian."

Maen nhw'n cael eu pweru gan wifrau uwchben y cledrau a gan fatris, gydag offer ar y rhwydwaith yn dweud wrth y trenau pryd i newid rhwng y ddwy system.
Dywedodd Price bod hynny wedi arbed arian ac osgoi'r angen i ailadeiladu pontydd – gwaith a fyddai "wedi achosi niwed sylweddol i gymunedau".
Dywedodd Rhodri Clark, newyddiadurwr trafnidiaeth: "Mae braidd yn siomedig bod y broses yma wedi cymryd mor hir, yn enwedig o gofio erbyn haf nesaf ry' ni'n gobeithio cael y gwasanaeth cyflawn ar linellau'r Cymoedd yn cynnwys pedwar trên yr awr o bennau'r Cymoedd."
Dywedodd Jason O'Connell, llefarydd trafnidiaeth Reform UK yn y Senedd: "Mae trethdalwyr yn haeddu gwybod beth sydd wedi mynd o'i le, sut mae oedi wedi troi'n flynyddoedd a sut mae'r costau'n mynd allan o reolaeth."
'Trawsnewid' y rheilffyrdd
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod TrC wedi "trawsnewid" llinellau rheilffyrdd y Cymoedd drwy eu trydaneiddio.
"Fe fydd y tram-drenau yn helpu datgloi gwasanaethau cyrraedd a mynd [turn-up-and-go] dull Metro ar draws y Cymoedd a Chaerdydd.
"Er i rai materion ohirio cyflwyno'r tram-drenau, mae TrC ar darged i orffen eu cyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Stadler, a wnaeth adeiladu'r trenau yn ei ffatri yn Valencia, mai rhain ydy rhai o'r cerbydau mwyaf cymhleth o'u math ym Mhrydain.
Roedd y gwaith i brofi'r trenau wedi arwain at y "gwelliannau arferol - gan gynnwys diweddaru'r feddalwedd", meddai llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

