Cyhuddo dyn o greu ffrwydron ddyddiau cyn ymweliad Brenhinol ag Aberfan

Stefan Dale
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Stefan Dale mewn llys ddydd Iau

GanDavid Grundy
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar ôl i ffrwydron gael eu darganfod ger yr ardd goffa yn Aberfan ddyddiau cyn ymweliad Brenhinol â'r pentref.

Mae Stefan Dale, 38, wedi ei gyhuddo o greu sylwedd ffrwydrol gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu ddifrodi eiddo.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y sylwedd ei ddarganfod ar lwybr Taith Taf - rhwng y fynwent a'r ardd goffa - ar 17 Hydref.

Fe wnaeth aelodau o'r Teulu Brenhinol ymweld ag Aberfan ar 21 Hydref er mwyn nodi 60 mlynedd ers y trychineb pan fu farw 144 o bobl ar ôl i domen lo lithro lawr mynydd uwchben y pentref.

Fe siaradodd Mr Dale yn y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Merthyr Tudful fore Iau dim ond er mwyn cadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni.

Gardd goffa Aberfan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y sylwedd ei ddarganfod ar lwybr cerdded yn agos i'r ardd goffa yn Aberfan

Clywodd y llys fod Mr Dale wedi "derbyn bygythiadau ar y cyfryngau cymdeithasol".

Dywedodd y barnwr rhanbarth Thomas fod y digwyddiad wedi "achosi pryder yn Aberfan" yn enwedig o ystyried fod y "Prif Weinidog a'r Brenin yn ymweld rai dyddiau yn ddiweddarach".

Cafodd cais am fechnïaeth ei wrthod, a bydd Mr Dale yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 4 Rhagfyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.