Y ddwy ffrind sydd eisiau 'creu rhywbeth i gymuned Capel Bangor'

Morfudd Pugh a Ffion Evans gyda'u teuluoedd ar ddiwrnod agor y caffi
- Cyhoeddwyd
"Oedd y ddwy o ni'n gweld fod eisiau rhywbeth yng Nghapel Bangor."
Wedi i'r pentref yng Ngheredigion golli dwy dafarn a siop y pentref yn y blynyddoedd diwethaf roedd yna fwlch amlwg yn y gymuned.
Ac mae dwy ffrind o'r ardal, Morfudd Pugh a Ffion Evans, wedi gwireddu breuddwyd drwy agor caffi yn hen adeilad y siop lle bu teulu Ffion yn byw a gweithio am ddegawdau.
Mae Morfudd eisoes yn berchen ar gaffi Halen a Pupur yn Nhregaron ac yn falch iawn i agor ail gaffi sy'n cynnwys siop fach yng Nghapel Bangor: "Mae fe wedi bod yn eitha' emosiynol.
"Mae'r ddwy o ni wedi cael y gweledigaeth, mae'r ddwy o ni wedi eisiau creu gofod sydd yn le i'r gymuned."
Gwreiddiau
Fel un sy' wedi ei magu yn y pentref mae gan Ffion gysylltiad cryf gyda Capel Bangor, a'i thadcu oedd yn arfer rhedeg siop y pentre yn yr 1950au. Gyda'r siop eisoes wedi cau roedd hi'n awyddus i brynu'r adeilad.
Dywedodd Morfudd, sy'n dod o Lanilar ond yn byw yn Llanddewi Brefi erbyn hyn: "Oedd hi'n rili awyddus i brynu'r siop nôl er mwyn gallu gwneud rhywbeth 'na, sef rhywbeth i'r gymuned.
"Yn amlwg mae hi'n gwybod 'mod i yn rhedeg Halen a Pupur sy' wedi bod yn llwyddiannus ac wedi troi'n rhywbeth cymunedol i Dregaron."
Felly daeth y ddwy ynghyd i agor y caffi am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd, 2026.
Cydweithio
Gyda Morfudd yn gyfrifol am y caffi a Ffion yn berchen ar yr adeilad, dywedodd Morfudd fod y profiad o weithio gyda hen ffrind o'i chyfnod yn Ysgol Penweddig wedi bod yn emosiynol: "Ni'n trio creu bach o hwb cymunedol, rhywle i bobl stopio ac i gwrdd yng Nghapel Bangor.
"Achos fi'n credu bod y lle yn cael ei anghofio achos mae fe'n rhywle mae pobl wastad yn gyrru trwyddo, ond byth yn stopio.
"O'n i eisiau jyst cael rhywbeth 'na achos mae'r ddwy dafarn wedi cau."

Unigrwydd
Gyda'r ddwy yn famau ifanc mae unigrwydd wedi bod yn sbardun iddynt hefyd, fel mae Morfudd yn ei esbonio: "Dwi'n credu o'dd y ddwy o ni'n gweld bod angen rhywbeth 'na.
"Doedd dim i gael yn lleol o ran cysondeb bod ar agor. Mae gen i bedair o ferched a ti'n mynd â'r plant i'r ysgol ar ôl penwythnos llawn o redeg rownd a 'neud pethau gyda'r plant a jyst meddwl, 'reit, dwi'n mynd i'r ysgol bore Dydd Llun a wedyn bydda i'n mynd am goffi rhywle'.
"A jyst dim byd ar agor. A dyna'r prif reswm agorais i gaffi yn Nhregaron hefyd.
"I unrhyw un sydd yn magu teulu, fel fi a Ffion sy' â babi bach pum mis oed, does dim byd yn lleol i ti jyst popio mewn i gael coffi neu i eistedd yng nghwmni pobl eraill.
"Mae'n gallu bod yn unig i fagu plentyn. Mae'r gŵr neu'r partner yn mynd i'r gwaith, a wedyn ti gartre gyda'r babi. So mae'n mynd i fod yn neis i'r pentre allu cael lle er mwyn dod ynghyd ac eistedd lawr dros baned a sgwrs."
Ymateb y gymuned
Gyda'r caffi yn agor am barti agoriadol ar 1 Tachwedd mi wnaeth rhyw 300 o bobl ddod i'r caffi am y tro cyntaf.
Meddai Morfudd: "Mi wnaeth lot o bobl leol a rhai o Dregaron ddod i gefnogi a phobl oedd y ddwy ohono ni yn 'nabod o'r ysgol. Oedd e'n hyfryd.

Mae'r caffi yn llawn hen luniau a chofnodion o'r siop ers cyfnod teulu Ffion yno
Cynnyrch Cymreig
"Ni'n mynd i gael gymaint o gynnyrch lleol â phosib yn ardal y siop er mwyn gallu jyst neud e'n fwy hwylus i bawb yn lleol."
Mae Morfudd yn cydnabod fod hi'n gyfnod anodd i fusnesau gyda chostau ynni yn cynyddu a chostau byw yn ddrytach i bawb ond mae'n credu fod pobl yn fwyfwy cefnogol o fusnesau lleol ers Covid: "Mae pobl yn fwy parod i aros yn lleol ac mae mwy o alw am fusnesau lleol nag erioed.
"Mae pobl yn dechrau sylweddoli fod rhaid cefnogi busnesau lleol neu fyddan nhw'n colli nhw.
"Mae pobl yn dod mewn i'r caffi i gefnogi ac yn hapus i wario yn lleol. Dwi'n credu oedd 'na flynyddoedd cyn Covid pan oedd hynny ddim yn digwydd.
"Dwi'n hapus i roi cynnig iddi a jyst yn gobeithio fydd pobl yn dod mas a chefnogi fi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Mehefin

- Cyhoeddwyd17 Chwefror
