Cyn-enillydd Cân i Gymru'n pledio'n euog i dwyll bridio cŵn

- Cyhoeddwyd
Mae enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2024, Sara Pritchard Davies, wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon.
Roedd y gantores, sy'n 29 oed ac sy'n wreiddiol o Hen Golwyn, wedi pledio yn ddieuog mewn gwrandawiad blaenorol i ddau gyhuddiad, cyn newid ei phle yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Roedd yr achos llys yn ei herbyn i fod i ddechrau ddydd Llun.
Yn ystod y gwrandawiad, fe ddarllenwyd y cyhuddiadau iddi, sef ei bod hi rhwng y 1 Mawrth 2015 ac 16 Tachwedd 2023 wedi bod yn rhan o fusnes twyllodrus, sef bridio cŵn yn anghyfreithlon.
Yr ail gyhuddiad oedd ei bod hi wedi caffael eiddo troseddol, sef arian, yn sgil y gweithgaredd hwnnw rhwng 22 Mai 2020 a 19 Rhagfyr 2021.
Clywodd y llys ei bod hi wedi derbyn dros £33,629 wrth fod yn rhan o'r busnes.
Fe atebodd hi yn y Gymraeg ei bod hi'n euog o'r cyhuddiadau yn ei herbyn.
Wrth adael y llys dywedodd: "Mi wna i wneud sylwadau pan fydd yr amser yn iawn."

Ymddangosodd Sara Davies yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau
Mae tri diffynydd arall eisioes wedi pledio yn euog i gyhuddiadau o dwyll yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon.
Ym mis Rhagfyr 2025, fe blediodd Thomas John Jones, 28 oed o Brengwyn ger Llandysul yn euog i gyhuddiadau o dwyll yn ymwneud â bridio a gwerthu cŵn bach yn anghyfreithlon rhwng mis Mawrth 2015 a Thachwedd 2023.
Mae ei droseddau yn deillio'n ôl i'r cyfnod pan oedd yn 17 oed. Clywodd y llys ei fod wedi darparu gwybodaeth ffug am gŵn.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Owen Edwards KC wrth Lys y Goron Abertawe yr wythnos ddiwethaf fod y busnes bridio cŵn gwerth tua £1m a bod yna elw sylweddol ynghlwm gyda'r fenter.
Clywodd y llys heddiw nad oedd Sara Davies bellach mewn perthynas gyda Thomas Jones.

Mae Thomas John Jones, Nerys Davies a Rebecca Bailey wedi pledio'n euog i gyhuddiadau yn yr achos
Mae Nerys Davies, 56 oed o Benrhiwllan, hefyd wedi pleidio'n euog i gyhuddiadau yn ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon yn barod.
Clywodd Llys y Goron Abertawe yr wythnos ddiwethaf ei bod hi wedi darparu 72 o gŵn bach i Mr Jones.
Mae Rebecca Bailey, 31 oed o Langrannog, hefyd wedi pleidio'n euog i gyhuddiad o ddarparu gwybodaeth ffug am naw o gŵn bach dachshund ym Milfeddygfa Castle House yng Nghastellnewydd Emlyn.
Mae disgwyl i'r pedwar gael eu dedfrydu ar 14 Rhagfyr, ac mae disgwyl i'r gwrandawiad hwnnw gymryd hanner diwrnod.
Mae tri diffynydd arall - Peter Jones, Cara Barrett a David Bethell - wedi derbyn rhybudd am eu rhan yn yr achos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref

- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2025
