'Dymchwelodd fy myd i gyd' - Mam pan glywodd am wrthdrawiad ble bu farw dau

Bu farw Aled Coleman (chwith) ac Aled Bowen (dde) yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Roedd gyrrwr car mewn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro y llynedd dan ddylanwad alcohol, mae cwest wedi clywed.
Roedd Aled Coleman, 23 oed o Abergwaun, yn gyrru ar hyd yr A40 rhwng Hwlffordd ac Abergwaun ar 14 Medi 2025 gyda'i ffrind Aled Bowen, 18 oed o Drecŵn.
Bu farw'r ddau yn y digwyddiad am 03:13, oedd yn cynnwys un cerbyd - Volkswagen Polo arian.
Mewn cwest ddydd Iau, dywedodd yr Uwch Grwner Gareth Lewis fod y car "wedi taro arwydd ar ochr y ffordd a throi drosodd", a bod "yfed alcohol a gyrru ar gyflymder amhriodol yn ffactorau a gyfrannodd at y gwrthdrawiad".
Dau ddyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A40
- Cyhoeddwyd15 Medi 2025
Teyrngedau i ddau ddyn ifanc fu farw ar yr A40
- Cyhoeddwyd17 Medi 2025
Clywodd y cwest fod y ddau ffrind wedi bod mewn clwb nos yn Hwlffordd y noson honno, ac nad oedden nhw'n gwisgo gwregysau diogelwch adeg y digwyddiad.
Dywedodd llygad dyst, Craig Young, mewn datganiad: "O'r hyn o'n i'n gallu gweld o'm blaen, a'r difrod a achoswyd, meddyliais ar unwaith bod unrhyw un y tu fewn [i'r car] naill ai wedi dioddef anafiadau difrifol, neu fod rhywun wedi marw.
"Doedd dim sŵn... roedd hi'n hollol ddistaw. Roedd yn eithaf arswydus."
Roedd y parafeddyg Kerry Garbutt ymhlith y cyntaf i gyrraedd y digwyddiad a dywedodd fod y ddau ddyn "yn edrych fel eu bod wedi plethu â'i gilydd" pan gyrhaeddodd hi.
"Rwy'n cofio gweld potel o Jack Daniels ar y llawr a fêps ym mhobman, ac roedd yr arwydd ar ochr y ffordd wedi'i ddifrodi'n ddifrifol."
'Cyflymder amhriodol'
Dywedodd y Cwnstabl Tirion Eynon, y swyddog heddlu cyntaf i gyrraedd y digwyddiad, fod "difrod sylweddol i'r cerbyd".
"Roedd arogl cryf o alcohol, dwi'n credu ei fod yn dod o'r cerbyd a'r bobl oedd ynddo.
"Roedd eitemau personol ar hyd y lle, dillad a photeli alcohol, gan gynnwys potel wag o Jack Daniels."
Dywedodd Kevin Hague, ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau gyda Heddlu Dyfed-Powys, yn ei adroddiad fod "lefel yr alcohol yng nghorff y gyrrwr yn uwch na'r terfyn cyfreithiol".
Ychwanegodd, er nad yw'n gwybod "union reswm pam y gwrthdarodd y Polo", fod "cyflymder amhriodol yn ffactor a achosodd y gwrthdrawiad hwn".
Fodd bynnag, ychwanegodd na ellir "mesur yn union" y cyflymder yr oedd y Polo yn teithio ar y ffordd 60mya.

Cafodd blodau eu gadael ger safle'r digwyddiad yn 2025
Dywedodd y crwner fod achos marwolaeth Aled Coleman wedi'i nodi fel "anaf trawmatig i'r pen". Bu farw Aled Bowen o "anafiadau trawmatig niferus".
Wrth siarad yn emosiynol yn y cwest, dywedodd chwaer hŷn Aled Bowen, Carys Bowen, y gellid bod wedi osgoi marwolaeth ei brawd.
"Mi wnaeth dewisiadau penodol arwain at ei farwolaeth."
Dywedodd ei fam, Jean Bowen, mewn datganiad fod y digwyddiad "mor anarferol" i'w mab.
"Dywedodd wrtha'i ei fod yn mynd am beint y noson honno; doedd dim byd i awgrymu mai dyna fyddai'r tro olaf i mi ei weld."
'Dymchwelodd fy myd i gyd'
Gan ei bod yn gweithio ym maes gofal iechyd, dywedodd ei bod hi ar shifft nos ar 14 Medi 2025 pan welodd neges ar gyfryngau cymdeithasol am ddamwain ffordd ddifrifol.
Ychwanegodd ei bod mewn "panig" gan nad oedd Aled yn ateb ei ffôn: "Dymchwelodd fy myd i gyd."
"Roedd yn weithiwr caled; roedd ganddo gynlluniau a breuddwydion. Mae ei farwolaeth wedi gadael bwlch yn ein teulu na ellir ei drwsio."
Dywedodd tad Aled Coleman, Peter Coleman, fod marwolaeth ei fab yn "syrthio'n drwm ac yn boenus" ar y teulu.
"Byddem bob amser yn dweud wrtho am beidio byth â gyrru ar ôl yfed, ac os byddai wedi yfed gormod, byddem yn mynd i'w nôl."
Ychwanegodd fod gan Aled "synnwyr o'r hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir".
Disgrifiodd ei fab fel dyn "caredig a sensitif": "Roedd ganddo gymaint o botensial a chymaint i fyw ar ei gyfer."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.