'Dim modd i gyngor wneud penderfyniad' ar gais gorsaf radar dadleuol

Dyma'r math o ddysglau allai gael eu gosod ar dir Barics Cawdor
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi dweud na all gefnogi na gwrthod cais i greu gorsaf radar ger Tyddewi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd y cais yn cael ei drafod a'i benderfynu gan adran Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), dolen allanol.
Byddai'r prosiect dadleuol - a gyhoeddwyd gan Weinyddiaeth Amddiffyn y DU, ynghyd â llywodraethau'r UDA ac Awstralia yn 2023 - yn golygu adeiladu 27 o ddysglau radar ar safle'r hen ganolfan awyr ym Marics Cawdor ym Mreudeth.
Y gobaith yw y bydd rhaglen DARC (Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell), dolen allanol yn gallu canfod gwrthrychau sy'n cylchdroi'r Ddaear, a diogelu rhwydweithiau lloeren, cyfathrebu a llywio.
Ond mae ymgyrchwyr lleol wedi gwrthwynebu'r cynlluniau'n gryf am resymau amgylcheddol a gwleidyddol, er bod yr AS lleol, Henry Tufnell, yn un o nifer o gefnogwyr amlwg y prosiect.
Mewn cyfarfod cynllunio ddydd Mawrth, dywedodd pennaeth cynllunio'r awdurdod na allai'r pwyllgor "fwrw ymlaen yn gyfreithlon" â'r cais oherwydd "mater gweithdrefnol sylweddol a godwyd gan PEDW".
Gohiriwyd y penderfyniad tan gyfarfod cynllunio nesaf y cyngor.

Dyma sut allai'r ardal edrych petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, yn ôl gwrthwynebwyr
Mae gan Blaid Cymru safbwynt swyddogol o wrthwynebu prosiect radar DARC, ac ar ôl ennill etholiad y Senedd yn 2026, galwodd llywodraeth Plaid Cymru y cais i mewn er mwyn ei adolygu.
Yn gynharach eleni, dywedodd Downing Street y byddai'r rhaglen yn "sicrhau swyddi hirdymor yn Sir Benfro a Chymru, ac yn helpu i ddiogelu cyfathrebu lloeren hanfodol".
Dywedodd Mike Simmons, Rheolwr Datblygu Cyngor Sir Penfro, wrth y cyfarfod mai'r prif faterion yn ymwneud â'r cais oedd "egwyddor y datblygiad, ac effeithiau amgylcheddol o ran yr effaith weledol a'r effaith ar y tirwedd".
Mewn llythyr ar ran Cyngor Cymuned Breudeth, dywedodd y cynghorydd Jeff Tierney fod gan y cynlluniau "botensial i ddod â swyddi a thwf economaidd i'r ardal".
Ond ychwanegodd y dylid cymryd camau i "ddiogelu'r olygfa, bywyd gwyllt a'r awyr, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth leol a chadwyni cyflenwi".
Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyfodol cynllun gorsaf radar Penfro
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
Herio ymgeiswyr am eu barn ar gynllun gorsaf radar
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2024
Galw am ganslo cynllun gorsaf radar Sir Benfro
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
Yn ôl Roy Jones o ymgyrch PARC yn erbyn DARC, byddai'r effaith weledol yn "niweidiol iawn", yn ogystal â chael effaith negyddol ar dwristiaeth.
Cafodd Mr Jones gymeradwyaeth gan aelodau'r oriel gyhoeddus ar ôl iddo siarad yn y cyfarfod.
Dywedodd: "Mae wedi cael ei ddisgrifio fel cynnydd milwrol sylweddol gan uwch-bŵer milwrol cystadleuol China", gan ychwanegu y byddai'n "cynnwys milwroli tiroedd comin sydd wedi bod yn heddychlon yn hanesyddol".
Cynigiodd y cynghorydd lleol Mark Carter ymweliad â'r safle "er mwyn galluogi aelodau i ddeall effaith weledol y datblygiad arfaethedig hwn yn well".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb i'r penderfyniad a wnaed gan bwyllgor cynllunio'r cyngor.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.