Brawd Neco Williams yn annog profion calon ar ôl gorfod rhoi'r gorau i bêl-droed

Keelan WilliamsFfynhonnell y llun, Keelan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Keelan Williams ddau lawdriniaeth ar y galon yn 2025

GanManon Wiliam
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Keelan Williams, brawd chwaraewr rhyngwladol Cymru Neco Williams, yn annog eraill i gael profion ar eu calonnau ar ôl gorfod rhoi'r gorau i'w yrfa bêl-droed yn 22 oed.

Cafodd Keelan, a chwaraeodd i academïau Lerpwl a Burnley, ddiagnosis o gyflwr ar y galon yn 15 oed, cyn i gymhlethdodau arwain at gamau cynnar methiant y galon.

Ar ôl dwy lawdriniaeth ar y galon a dau fewnblaniad rheolydd calon yn 2025, dywedodd meddygon nad oedd modd iddo barhau i chwarae.

Mae bellach yn annog chwaraewyr ar bob lefel i gael archwiliadau calon, gan ddweud ei bod yn bwysig canfod problemau "cyn gynted â phosibl."

Keelan Williams a'i frawd NecoFfynhonnell y llun, Keelan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Keelan (dde) ei fod yn credu mai ei frawd hŷn, Neco, yw'r "cefnwr gorau yn yr Uwch Gynghrair"

Cafodd cyflwr Keelan ei ganfod yn ystod gwersyll gyda thîm dan-16 Cymru, pan sylwodd meddygon ar furmur yn ei galon yn ystod archwiliad arferol.

Mae'r cyflwr yn golygu bod gan falf yn ei galon ddwy fflap yn hytrach na thair, a dywedodd Keelan ei fod yn "lwcus mewn sawl ffordd" bod ei yrfa bêl-droed wedi arwain at y diagnosis.

Cyn iddo gael ei ganfod, dywedodd Keelan nad oedd wedi profi "unrhyw symptomau o gwbl".

"Roedd Cymru'n meddwl eu bod wedi canfod murmur yn fy nghalon, felly wnaethon nhw ddim gadael i mi deithio nes bod archwiliadau pellach wedi'u cynnal," meddai.

Cafodd ei gyfeirio i Ysbyty Broadgreen yn Lerpwl, lle cafodd wybod bod falf ddwylen aorta ganddo a bod ychydig o waed yn gollwng drwy'r falf.

I ddechrau, ni chafodd y darganfyddiad unrhyw effaith ar ei yrfa, a chyn belled nad oedd yn profi symptomau, roedd yn gallu parhau i chwarae fel arfer.

Ar ôl gadael academi Burnley, ymunodd â thîm y Bala ym mis Ionawr 2024 wrth iddo geisio parhau â'i yrfa yn nes at adref.

Yn dilyn archwiliad arferol, cafodd wybod fod y gollyngiad yn falf ei galon wedi gwaethygu, a bod angen llawdriniaeth bellach.

Keelan WilliamsFfynhonnell y llun, Keelan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Williams 11 diwrnod yn cael gofal dwys ar ôl cymhlethdodau yn dilyn ei lawdriniaeth gyntaf ar y galon

Er iddo gael llawdriniaeth yn Ionawr 2025, cafodd gymhlethdodau difrifol, gan gynnwys sepsis a methiant yn y system anadlol, a threuliodd 11 diwrnod mewn uned gofal dwys.

Cafodd lawdriniaeth arall ym mis Medi 2025, ond ar ôl dychwelyd i'r cae, roedd yn teimlo'n fyr ei wynt ac yn cael trafferth gyda'i ffitrwydd, gan sylweddoli'n ddiweddarach mai methiant y galon oedd y rheswm.

Roedd cyfran y gwaed a bwmpiai ei galon allan gyda phob curiad yn 37%, o'i gymharu â'r ystod arferol o 50% i 70% ar gyfer oedolion iach.

Er iddo gael meddyginiaeth a rheolydd calon wedi'i uwchraddio, dangosodd sgan diweddarach mai dim ond i 38% yr oedd y mesuriad wedi gwella.

"Dyna pryd y penderfynais y byddai'n rhaid i mi roi'r gorau i chwarae, oherwydd doeddwn i ddim yn gallu parhau'n gorfforol gyda'r ffordd roeddwn i'n teimlo," meddai.

Keelan Williams (dde) mewn coch gyda chapten dan-18 Lloegr, Aaron Ramsey (chwith) mewn gwynFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Keelan Williams oedd capten tîm dan-18 Cymru yn erbyn Lloegr

Dywedodd Keelan ei fod yn falch o weld ei frawd hŷn Neco yn llwyddo yn Uwch Gynghrair Lloegr, gan ychwanegu: "Mae'n fraint bob amser gallu dilyn rhywbeth rydych chi wedi breuddwydio amdano erioed ochr yn ochr â'ch brawd, sydd wedi llwyddo."

"Mae Neco'n gwneud yn wych. Dwi'n meddwl mai fo ydy'r cefnwr gorau yn yr Uwch Gynghrair. Dyna sy'n fy nghadw i fynd, a dweud y gwir," meddai.

Dywedodd Keelan fod cefnogaeth ei deulu a'i ffrindiau, yn ogystal â'r negeseuon a gafodd ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi ei helpu i addasu i fywyd y tu allan i bêl-droed.

"Mae pêl-droed i gyd yn ymwneud â rhwystrau a sut rydych chi'n ymateb.

"Roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i chwarae'n llwyr, sy'n fwy eithafol, ond mae'n rhaid i chi edrych ar y pethau cadarnhaol."

Mae'r teulu cyfan wedi cael profion am yr un cyflwr, heb unrhyw arwyddion o broblemau calon wedi'u canfod mewn unrhyw aelod arall.

Mae Keelan yn dweud y dylai clybiau pêl-droed ar bob lefel gynnig archwiliadau calon, gan gydnabod nad oes gan bob clwb yr un adnoddau â'r rhai ar y lefel uchaf.

"I unrhyw un allan yna, byddwn i'n sicr yn cael prawf ar eich calon, er mwyn bod yn ddiogel," meddai.

"Mae eisiau canfod unrhyw broblem cyn gynted â phosibl, fel y gwnes i."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig