'Fi yn unig oedd yn rhan o'r ffrwgwd angheuol' - achos llys

Bu farw Tristan Kerr, 17 oed, ar ôl cael ei drywanu mewn fflat yn Abertridwr ym mis Chwefror
- Cyhoeddwyd
Mae deliwr cyffuriau a drywanodd bachgen 17 oed yn farw wedi dweud wrth y llys nad oedd yr un o'i gyd-ddiffynyddion yn rhan o'r ffrwgwd.
Bu farw Tristan Kerr ar ôl cael ei drywanu gan Georgie Mears, 19 oed, â chyllell 13.5cm o hyd mewn fflat yn Abertridwr, Sir Caerffili, ym mis Chwefror.
Roedd Mears wedi mynd i'r fflat i ddosbarthu cyffuriau, ac wedi dweud wrth Lys y Goron Casnewydd yn gynharach fod Kerr wedi ceisio ymosod arno.
Bu farw Kerr ar ôl cael ei drywanu drwy'r galon a'r ysgyfaint, ac fe gafodd ei weld ar gamera yn disgyn i'r llawr y tu allan i dŷ ar Stryd Francis Isaf.

Mae Connor Palfrey, Elexi Manny, Georgie Mears a Ricardo Elliot yn gwadu llofruddiaeth Tristan Kerr drwy fenter ar y cyd
Mae Mears, o Thornhill, Caerdydd, yn ogystal â Connor Palfrey, 25 oed, o Abertridwr, Ricardo Elliot, 27 oed, sydd heb gyfeiriad parhaol, ac Elexi Manny, 25 oed, o Senghenydd, Caerffili, yn gwadu llofruddiaeth drwy fenter ar y cyd.
Wrth gael ei holi yn y llys, dywedodd Georgie Mears ei fod wedi casglu'r gyllell a ddefnyddiwyd i drywanu Tristan Kerr o'r ardd y tu allan i'r fflat yn gynharach y diwrnod hwnnw, ar ôl i Elexi Manny ddweud wrtho ble roedd y llafn.
Wrth ddychwelyd i'r car, dywedodd ei fod wedi cuddio'r gyllell yn ei drowsus, ac nad oedd Palfrey ac Elliot yn gwybod ei bod ganddo.
Yn ddiweddarach, cafodd Mears alwad yn dweud wrtho am ddychwelyd i'r fflat yn 29A Stryd Francis Isaf i weld Tristan Kerr.
Pan gyrhaeddon nhw, dywedodd Mears fod Connor Palfrey wedi mynd i mewn i'r fflat yn gyntaf, a'i fod wedi ei ddilyn "10 i 15 eiliad" yn ddiweddarach, tra bod Elliot a Manny wedi aros y tu allan.
Dechreuodd ffrwgwd rhwng Mears a Kerr bron yn syth, gyda Mears yn honni bod Kerr wedi dod tuag ato, a'i fod felly wedi estyn am ei gyllell.

Cafodd Tristan Kerr ei drywanu mewn fflat ar Stryd Francis Isaf, cyn cael ei weld yn disgyn i'r llawr y tu allan i dŷ gerllaw
Gofynnodd Ray Tully KC, cyfreithiwr amddiffyn Palfrey, i Mears gadarnhau nad oedd gan y ffrae "ddim i'w wneud â Connor".
"Wnaeth e ddim eich helpu chi o gwbl gyda'r hyn oedd yn digwydd rhyngoch chi a Tristan?"
"Na," atebodd Georgie Mears.
Ar ôl i Kerr gael ei drywanu, fe adawodd y pedwar diffynnydd, gydag Elexi Manny yn eu gyrru i Henffordd - rhywbeth a awgrymodd Mr Tully oedd wedi'i grybwyll yn gynharach y diwrnod hwnnw.
"Na," meddai Mears, gan ychwanegu ei fod wedi gofyn i Palfrey a oedd ganddo "rywle y gallai fynd".
"Pan aethoch chi i 29A Lower Francis Street, doedd dim cynllun i anafu neb?" gofynnodd Mr Tully.
"Na," atebodd Mears.
"Doedd dim ymosodiad ar y cyd, oedd e? Dim ond chi a Tristan?" gofynnodd Mr Tully.
"Ie," meddai Mears.
'Do'n i ddim wedi bwriadu ei ladd' - achos llys
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Bachgen 17 oed wedi gwaedu i farwolaeth ar y stryd - achos llys
- Cyhoeddwyd6 Hydref
Mab 17 oed 'annwyl iawn' wedi marw o anaf trywanu - cwest
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
Awgrymodd Michael Ivers KC, cyfreithiwr amddiffyn Ricardo Elliot, wrth Georgie Mears nad oedd yn nabod Elliot yn dda, ac na chafodd ei gleient wybod "am unrhyw beth roeddech chi'n mynd i'w wneud" yn y fflat.
"Na," atebodd Mears.
Heriodd Caroline Rees KC, cyfreithiwr amddiffyn Elexi Manny, dystiolaeth gynharach Georgie Mears bod Manny wedi dweud wrtho ble roedd y gyllell wedi'i chuddio yn yr ardd.
"Hi oedd yr unig un yn y car oedd yn gwybod bod y gyllell gen i," meddai Mears.
"Ond doedd dim sgwrs o gwbl am y gyllell yn y car?" gofynnodd Ms Rees. "Doedd dim arwydd i neb arall yn y car bod y gyllell gyda chi?"
"Na," atebodd Mears.
Yna awgrymodd Ms Rees wrth Mears fod y digwyddiad trywanu wedi bod yn "gyflym iawn ac yn hollol annisgwyl", ac nad oedd "unrhyw gynllun" wedi'i drafod yn y car ymlaen llaw i niweidio Tristan Kerr, gyda Mears yn cytuno gyda hynny.
"Doedd gan Lexi Manny ddim byd i'w wneud â'r hyn ddigwyddodd yn y lolfa, oedd hi?" gofynnodd Ms Rees.
"Na," meddai Mears.
'Doeddwn i ddim yn bwriadu ei ladd'
Yn ddiweddarach, cafodd Mears ei groesholi gan Mike Jones KC ar ran yr erlyniad, a ofynnodd iddo pam roedd wedi cuddio'r gyllell o dan ei ddillad wrth ffoi o leoliad y digwyddiad.
"Er mwyn i neb allu gweld y gyllell," meddai Mears. "Oherwydd roeddwn i'n mynd allan i'r stryd… ac roeddwn i newydd drywanu rhywun â hi."
Cyfaddefodd Mears fod yr hyn a wnaeth yn "dwp", ond honnodd iddo drywanu Kerr wrth geisio "amddiffyn ei hun".
Pan ofynnodd Mr Jones a oedd wedi ymosod ar Kerr "yn fwriadol", atebodd Mears: "Nonsens, fe wnaeth ymosod arna i. Doeddwn i ddim yn bwriadu ei ladd."
Cyfaddefodd Mears ei fod weithiau'n cario cyllell, ond nad oedd "erioed wedi meddwl" y byddai'n defnyddio un, a'i fod fel arfer yn cario un "er mwyn codi ofn".
Honnodd hefyd mai'r rheswm ei fod yn adnabod Palfrey oedd eu bod yn gwerthu cyffuriau ar ran yr un deliwr, ac nad oedd yn adnabod Elliot na Manny yn dda iawn.
Gofynnodd Mr Jones pam nad oedd Mears wedi crybwyll y gyllell wrth Palfrey, gan mai cefnder Palfrey oedd yn berchen arni.
"Ydych chi'n ceisio amddiffyn Connor?" meddai.
"Pam fydden i'n amddiffyn Connor?" oedd ateb Mears.
Holodd Mr Jones pam fod Mears wedi bod mor "ddirgel" ynglŷn â chael y gyllell yn ei feddiant, a'i chuddio rhag Palfrey ac Elliot.
"Neu ai'r gwir amlwg oedd bod pob un ohonoch chi'n gwybod fod gennych chi'r gyllell cyn gynted ag yr oeddech chi wedi ei chasglu?" gofynnodd.
"Dyw hynny ddim yn wir," meddai Mears.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.