'Ddim yn teimlo'n barod' i seiclo dros 400 o filltiroedd mewn her 'emosiynol'

Owain Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Beth sy'n sbesial i fi yw bo' fi'n ca'l dod a'r sialens yma i ben yng Nghymru a chael gorffen e fan hyn yng Nghaerdydd," meddai Owain

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

"Ma' hwn yn mynd i fod yn rili anodd i fi yn bersonol, 100%" - dyna argraffiadau'r cyflwynydd Owain Wyn Evans gwta wythnos cyn ei her elusennol.

Mi fydd yn ceisio seiclo dros 400 o filltiroedd rhwng y cenhedloedd a hynny mewn ond pum niwrnod er mwyn codi arian at elusen Plant Mewn Angen.

Dywedodd fod yr her yma hefyd yn golygu llawer iddo gan ei fod wedi cael perthynas heriol ag ymarfer corff ar hyd y blynyddoedd.

"Nes i fyth mwynhau ymarfer corff yn yr ysgol achos y bwlio ag ati," meddai ac "mae wedi cymryd sbel ond y sialens yma sydd wedi helpu fi gyrraedd y pwynt 'ma."

Dyma'r ail sialens o'r fath iddo wneud i godi arian at elusen Plant Mewn Angen, sy'n "agos at ei galon" a hynny ar ôl iddo gwblhau sialens o chwarae drymiau am 24awr yn ôl yn 2021.

'Hollol estron'

Fe ddisgrifiodd yr her fel rhywbeth "hollol estron" gan ychwanegu "sai 'di seiclo ers bo' fi'n blentyn rili, a ma' gorfod cymryd y sialens yma, yr her yma, o wneud 100 milltir y dydd, ma' fe'n lot".

Ag yntau wedi bod yn hyfforddi ers wythnosau erbyn hyn, dywedodd "fi dal ddim yn teimlo fel bo' fi'n barod".

Pwysleisiodd fod Plant Mewn Angen yn "elusen anhygoel" a bod y swm o arian sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd dim ond yn gallu cefnogi un mewn chwech o'r prosiectau sydd angen eu cymorth.

"Ni'n gallu codi llwyth o arian gyda'r sialens yma, a 'na pam fi'n neud e achos ma' pobl ar draws y wlad yn cael eu helpu gyda Phlant Mewn Angen."

Owain Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain yn wyneb ac yn lais cyfarwydd erbyn hyn yn cyflwyno Radio 2

Bydd yr her yn golygu fod yn rhaid iddo deithio tua 100 milltir y diwrnod, a hynny ar draws y Deyrnas Unedig - "her enfawr, yn enwedig os ti'n berson fel fi sydd ddim yn seiclo!

"'Na'th Mam 'weud wrtha i yn ddiweddar bo' fi ar stabilisers am gyfnod hir fel plentyn, so do'n i ddim yn dda ar y beic pan yn blentyn, a sain siŵr os ydw i lot gwell nawr.

"Mae'r hyfforddi a'r ymarfer at hwn wedi bod lot anoddach nag o'n i'n meddwl.

"Fi'n cofio'r diwrnod cynta' nes i fynd lan tile serth do'n i methu 'neud e, nes i stopio hanner ffordd a meddwl bo' fi ddim digon da i wneud e a bo' fi'n mynd i fethu.

"Ond es i 'nôl ar y beic a thrio 'to."

Disgrifiad,

Aeth yn ei flaen i esbonio bod yr her yma'n golygu mwy iddo oherwydd y cyfnodau tywyll a brofodd yn ystod ei blentyndod a arweiniodd iddo gael perthynas heriol ag ymarfer corff.

"Nes i fyth mwynhau ymarfer corff yn yr ysgol achos y bwlio ag ati.

"Ma' hwnna'n stico rownd trwy fy mywyd, a dim ond nawr fi'n teimlo'n fwy cyfforddus fel dyn 42 oed, so mae' wedi cymryd sbel ond y sialens yma sydd wedi helpu fi gyrraedd y pwynt 'ma.

"Bydd e bendant yn emosiynol iawn i fi," meddai gan ddweud bydd gweld pobl ar hyd y ffordd yn uchafbwynt.

Owain gyda'i ddrymiauFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Owain i godi dros £3m ar ôl drymio am 24 awr yn 2021

Ond nid dyma'r tro cyntaf i Owain gwblhau her i godi arian at elusen Plant Mewn Angen.

Os cofiwch chi, 'nôl yn 2021 fe aeth ati i chwarae'r drymiau am 24 awr, a hynny heb orffwys.

Ond wrth gymharu'r ddwy her, dywedodd mai "hon fydd yr un anoddaf".

"Ma' hwn mor estron, ma' seiclo yn rhywbeth fi jyst ddim yn gyfarwydd 'da o gwbl a dim jyst seiclo yn y gym, fyddai'n seiclo ar hyd ardaloedd lle dyw e ddim yn fflat a byddai'n mynd lan mynyddoedd."

Ychwanegodd fod y criw trefnu yn "cadw lot o'r manylion i ffwrdd o' fi yn fwriadol achos fi'n credu maen nhw'n meddwl 'neith e godi ofn arna i.

"Ma' hwn yn mynd i fod yn rili anodd i fi yn bersonol, 100%".

'Sbesial cael gorffen yng Nghymru'

"Beth sy'n sbesial i fi yw bo' fi'n ca'l dod â'r sialens yma i ben yng Nghymru a chael gorffen e fan hyn yng Nghaerdydd.

"Oedd hwnna'n rhywbeth ro'n i eisiau digwydd o'r dechrau, so fi'n credu byddai'n teimlo'n emosiynol iawn yn dod mewn i Gaerdydd ar y bore ola' 'na."

Yn ystod ei yrfa, mae Owain wedi gweithio ledled y Deyrnas Unedig, ond dywedodd "fi wastad wedi meddwl bydden i'n lico dod 'nôl i Gymru achos fi'n credu ni'r Cymry yn dueddol o moyn dod 'nol adre.

"Mae'r peth hiraeth 'ma, mae e'n real iawn, ac o'n i'n teimlo fe pan o'n i bant."

Gyda 'chydig o ddiwrnodau yn weddill, mae Owain yn gobeithio codi cymaint o arian â phosib yn ystod yr her.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig